Eitem Rhaglen

Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â rheol 4.1.12.4 o'r Cyfansoddiad

·           Gofynnwyd y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Peter Rogers i Arweinydd y Cyngor :-

 

“Fel ni gyd, byddwch yn gwbl ymwybodol o’r dicter a’r pryder sy’n cael eu mynegi gan drethdalwyr Ynys Môn yn dilyn eich penderfyniad i gynyddu nifer yr Aelodau ar Bwyllgor Gwaith yr Awdurdod hwn i 9 aelod.

 

Yn y cyfnod llym sydd ohoni, sut yn y byd fedrwch chi gyfiawnhau’r ffasiwn wariant?”

 

·      Gofynnwyd y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorwyr A M Jones a Bryan Owen i Arweinydd y Cyngor :-

 

“Yn dilyn y penderfyniad i roi’r gorau i’r broses dendro am y cytundeb gofal cartref, beth a faint ydy’r costau wedi bod i’r Cyngor?”

 

Cofnodion:

 

·           Cyflwynwyd – y cwestiwn canlynol y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Peter S Rogers i Arweinydd y Cyngor: -

 

“Fel ni i gyd, byddwch yn gwbl ymwybodol o’r dicter a’r pryder sy’n cael eu mynegi gan drethdalwyr Ynys Môn yn dilyn eich penderfyniad i gynyddu nifer yr Aelodau ar Bwyllgor Gwaith yr Awdurdod hwn i 9 aelod.

 

Yn y cyfnod llym sydd ohoni, sut yn y byd fedrwch chi gyfiawnhau’r ffasiwn wariant?”

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen am y cynnydd yn aelodaeth Pwyllgor Gwaith yr Awdurdod hwn. Roedd hi’n dymuno ailadrodd na fydd y cynnydd yn aelodaeth y Pwyllgor Gwaith yn golygu unrhyw faich ariannol i'r awdurdod, dim ond cynyddu’r nifer ar y  Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rogers nad yw'r Dirprwy Arweinydd yn hawlio ei lwfans ond gofynnodd, pe bai’r sefyllfa honno’n newid, a allai hynny olygu  baich ariannol ar yr Awdurdod? Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'n ymateb i'r mater penodol hwnnw petai'n codi. Gofynnodd y Cynghorydd Rogers ymhellach, gan fod y Rhaglen Ynys Ynni a datblygiadau ynni eraill yn bwysig i'r Awdurdod, pam nad oedd y Cyngor Sir wedi ei gynrychioli ar y Gweithdy Rhan-ddeiliaid ynghylch Targedau Ynni i Gymru a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor trwy nodi bod diffyg capasiti yn un o'r rhesymau dros beidio â mynychu'r Gweithdy Rhan-ddeiliaid yng Nghaerdydd, sy'n enghraifft o pam fod angen cynyddu nifer yr aelodau ar y Pwyllgor Gwaith.

 

·           Cyflwynwyd – y cwestiwn canlynol y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorwyr A M Jones a Bryan Owen i Arweinydd y Cyngor: -

 

“Yn dilyn y penderfyniad i roi’r gorau i’r broses dendro am y cytundeb gofal cartref, beth a faint ydy’r costau wedi bod i’r Cyngor?”

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod y penderfyniad i wahodd tendrau mewn perthynas â'r gwasanaeth gofal cartref wedi ei wneud gan weinyddiaeth flaenorol y Cyngor. Dymunai diolch i aelodau'r Grwpiau Gwrthblaid am fynychu'r sesiynau i asesu'r tendrau a gafwyd. Gwnaed penderfyniad i roi’r gorau i’r broses dendro ac i ailystyried y mater gyda'r Awdurdod Iechyd. Yr unig gostau cysylltiedig i’r Awdurdod hwn a'r Awdurdod Iechyd o ran y broses hon oedd amser staff.

 

Holodd y Cynghorydd Bryan Owen pam ei bod wedi cymryd tan y funud olaf i roi'r gorau i'r broses dendro pan oedd wedi cymryd tri diwrnod i gyfweld y cwmnïau a oedd wedi cyflwyno tendrau am y gwasanaethau gofal cartref. Gofynnodd am y costau a gafodd y cwmnïau hyn i baratoi tendr a mynychu'r cyfweliad yn y Cyngor a dywedodd y gallai'r Awdurdod wynebu ceisiadau am iawndal gan y cwmnïau dan sylw. Dywedodd fod yr Arweinydd wedi gwahanu'r Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwell cefnogaeth i'r ddau wasanaeth a holodd a fyddai'n mynd yn ôl at Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i ofyn am Aelod Portffolio arall ar y Pwyllgor Gwaith?

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor ei bod hi, fel yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, bob amser wedi rhoi amser sylweddol i'r rôl honno. Dywedodd mai ei dyletswydd hi yw sicrhau bod yr Awdurdod hwn yn darparu'r gwasanaeth gorau posib i bobl Ynys Môn. Cadarnhaodd fod yr Awdurdod hwn a'r Gwasanaeth Iechyd o'r farn y dylid rhoi’r gorau i’r broses dendro er mwyn sicrhau bod y weithdrefn gywir yn cael ei dilyn.