Eitem Rhaglen

Sylfaen y Dreth Gyngor 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mewn perthynas â chyfrifo sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith yw cymeradwyo'r cyfrifiadau ar gyfer gosod sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19 ar gyfer ei ardal a rhannau ohonimae'n rhaid rhoi gwybod i'r cyrff codi praesept ac ardollau am y symiau hyn erbyn 31 Rhagfyr, 2017 h.y. Heddlu Gogledd Cymru a'r cynghorau tref a chymuned. Anfonir y wybodaeth hefyd at Lywodraeth Cymru er mwyn gosod y Grant Cynnal Refeniw (erbyn 22 Tachwedd, 2017) ac at ddibenion gosod sylfaen y dreth (erbyn Ionawr, 2018). Y cyfanswm a gynigir ar gyfer 2018/19 at ddibenion gosod sylfaen ar gyfer y dreth yw 30,773.31. Mae hyn yn cymharu â 30,974.83 ar gyfer 2016/17 ac mae’n gwymp o 0.07%. a allai fod oherwydd nifer o resymau e.e. goramcangyfrif nifer yr anheddau treth gyngor yn 2017/18, cynnydd yn nifer y bobl sengl sy'n hawlio disgownt a / neu apeliadau yn erbyn band treth gyngor, gan arwain, o bosib, at ostyngiad yn y sylfaen ar gyfer y Dreth Gyngor. Bu newidiadau sylweddol yn sylfaen y dreth i ddibenion gosod treth yn 2018/19 mewn perthynas ag eiddo y codir premiwm arnynt o gymharu â 2017/18. O ran eiddo y codir premiwm arnynt, bu gostyngiad yn nifer yr eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir (550 yn 2017/18 i lawr i 449  yn 2018/19) tra bu cynnydd yn nifer yr ail gartrefi y codir premiwm arnynt (1,455 yn  2017/18 yn codi i 1,754 yn 2018/19). Mae hwn yn gynnydd o 9.88% yn elfen premiwm y sylfaen dreth i ddibenion trethu ond nid yw'n ddigon i atal gostyngiad bach iawn yn y dreth at ddibenion gosod trethi.

 

Penderfynwyd -

 

  Nodi cyfrifiad sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fydd yn cael ei ddefnyddio gan Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn 2018/19, sef 30,663.09. (Rhan E6 o Atodiad A i’r adroddiad)

  Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 am y cyfan o’r ardal ac am rannau ohoni dros y flwyddyn 2018/19 (Rhan E5 o Atodiad A i’r adroddiad)

  Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1972 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) 1995  (SI19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) (Diwygiad) 2016, y cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2018/19 fydd 30,773.31, ac fel a restrwyd yn nhabl 3 yr adroddiad am y rhannau o’r ardal.

Dogfennau ategol: