Eitem Rhaglen

Trefniadau Dirprwyo i'r Cyngor fedru cymryd rhan yn yr Archwiliad o Geisiadau ar gyfer Prosiectau Wylfa Newydd a Chysylltiad Gogledd Cymru dan Ddeddf Cynllunio 2008

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Gwella Gwasanaethau a Chymunedau) a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd, 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) a'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd, 2017.

 

Rhoddodd yr Aelod Portffolio (Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd) adroddiad cefndir ar y trefniadau dirprwyo sydd raid wrthynt i’r Cyngor fedru cymryd rhan yn yr archwiliad o’r Prosiect Wylfa Newydd a Phrosiect Cysylltiad  Gogledd Cymru, sef rhai y bydd gofyn cael Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar eu cyfer gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Busnes, Ynni a’r Strategaeth Ddiwydiannol ar argymhelliad yr Arolygaeth Gynllunio.

 

Codwyd y cwestiynau canlynol gan yr Aelodau: -

 

·         Holodd y Cynghorydd Nicola Roberts a oedd yna enghreifftiau o ofynion statudol ac anstatudol y prosiectau hyn. Ymatebodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd trwy ddweud bod Swyddogion wedi cydweithio'n agos ag unigolion sy'n ymwneud â'r prosesau cydsynio ar gyfer datblygiad Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf i fanteisio ar eu profiadau a'u gwybodaeth. Nododd, unwaith y bydd y broses Archwilio yn cychwyn, bydd materion yn symud yn gyflym a dim ond mater o ddyddiau fydd gan Swyddogion i ymateb i faterion a godwyd yn yr Ymchwiliad. Dywedodd ymhellach y gallai swyddogion (ar ran y Cyngor Sir) hefyd ddymuno ymateb i gwestiynau a gyflwynwyd gan sefydliadau eraill. Nododd hefyd y bydd Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft a chytundeb cyfreithiol Adran 106 yn cael eu trafod gyda'r Cyngor llawn wedi hynny.

 

·         Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones y byddai wedi disgwyl enghreifftiau mwy penodol yn yr adroddiad o ran y dogfennau a fydd yn cael sylw yn y broses GCD. Er yn derbyn y bydd angen rhoi sylw ac ymateb ar fyrder i faterion yn yr Ymchwiliad, gofynnodd a gafodd Swyddogion neu Aelodau Etholedig awdurdod dirprwyedig i ddelio â dogfennau yn ystod datblygiad Hinkley Point C. Ymatebodd yr Aelod Portffolio (Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd) fod angen sefydlu cynllun dirprwyo o'r fath yn y Cyngor hwn sy'n debyg i’r profiadau gyda datblygiad Hinkley Point C. Nododd fod y Cyngor hwn yn ffodus fod y Staff o fewn y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn brofiadol ond yr Aelodau Etholedig fydd yn parhau i fod â’r pwerau i wneud penderfyniadau. Rhoddodd y Cynghorydd Aled M Jones esiampl o’r opsiynau y gall y Grid Cenedlaethol eu cynnig e.e. tanddaearu’r llinell bŵer mewn un ardal ac nid mewn ardal arall; felly a fyddai'r awdurdod i wneud penderfyniad o'r fath yn fater i’r Swyddog. Roedd y Cynghorydd Jones o'r farn fod hyn yn annheg ac yn annerbyniol a dylai fod yn benderfyniad gwleidyddol. 

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Adran 101, Paragraff 1 (a)(b) sy'n ymwneud â dirprwyo awdurdod i Swyddogion mewn perthynas â'r mater hwn '... ... gall awdurdod lleol drefnu cyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau gan Swyddog o'r Awdurdod Lleol neu gan Bwyllgor neu Is-bwyllgor’. Dywedodd na ellir rhoi pŵer dirprwyedig i un Aelod Etholedig er y gellid ei roi i Bwyllgor neu Is-bwyllgor ond ni fyddai hynny’n goresgyn y mater brys / amseru gan y byddai'n parhau i gymryd wythnos i gynnull Pwyllgor.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mai Mr Andrew Goodchild fu’n arwain y broses ar ran yr awdurdodau lleol yng Ngwlad yr Haf yn ystod y broses gydsynio ar gyfer Hinkley Point C.  Awgrymodd y gellid gwahodd Mr Goodchild i fynychu Sesiwn Briffio Aelodau yn y dyfodol i roi gwybod am ei brofiadau. Cytunodd yr Aelodau i ofyn i Mr Goodchild fynychu Sesiwn Friffio.

 

·         Holodd y Cynghorydd K P Hughes a oedd gan Lywodraeth Cymru rôl o fewn y broses GCD. Ymatebodd yr Aelod Portffolio (Datblygu Economaidd) mai Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Lleol fyddai'r prif ran-ddeiliaid ac y cynhelid cyfarfodydd a deialog rheolaidd. Pwysleisiwyd fod gan yr Awdurdod hwn rôl bwysig i'w chwarae gan mai gogledd yr Ynys ac Ynys Môn a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y Prosiect Wylfa Newydd. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

·         Dirprwyo i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) mewn ymgynghoriad â'r Dirprwy Arweinydd, yr awdurdod i gynnal pob trafodaeth ynghylch budd cymunedol anstatudol ac os yw amser yn brin (yn ei barn hi), i wneud pob penderfyniad sy'n berthnasol i drafodaethau o'r fath ynghylch neu’n codi o naill ai Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru gan y Grid Cenedlaethol neu Brosiect Adeiladu Niwclear Wylfa Newydd, neu’r ddau ohonynt;

·         Gwyro oddi wrth y polisi dwyieithrwydd ar gyfer dogfennau, sylwadau a chyflwyniadau a wnaed fel rhan o'r broses Gorchymyn Caniatâd Datblygu os yw’n fater pwysig, neu oherwydd amserlenni, os yw’n amhosib i Swyddogion gydymffurfio â Pholisi Iaith Gymraeg y Cyngor ac os yw’r Prif Weithredwr yn cymeradwyo gwyro oddi wrth y polisi yn y fath fodd. Noder fodd bynnag, y bydd yr holl ddogfennau ar gael yn yr iaith Gymraeg;

·         Dirprwyo i'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu  Economaidd, yr hawl i gyflawni’r holl swyddogaethau statudol o fewn y Cyngor o dan Ddeddf Cynllunio 2008 fel yr Awdurdod Lleol a’r Awdurdod Cynllunio ynghylch neu’n deillio o’r Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru gan y Grid Cenedlaethol neu’r Prosiect Adeiladu Niwclear Wylfa Newydd neu’r ddau;

·         Cymeradwyo y gall y dirprwyaethau a gynigir uchod  ac unrhyw gamau a gymerir oddi tanynt gael eu dirprwyo ymhellach i unrhyw Swyddog o’r Cyngor gan y Swyddogion y dirprwywyd y pwerau iddynt.

 

Dogfennau ategol: