Eitem Rhaglen

Llwybr Datblygu ar gyfer Tai Cyngor – Pecynnau Dylunio ac Adeiladu gan Ddatblygwyr

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo datblygu tai cyngor newydd trwy becyn dylunio ac adeiladu gan ddatblygwyr sy’n dirfeddianwyr.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod prynu tai newydd a adeiladwyd gan ddatblygwyr preifat yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru fel dull derbyniol o ddatblygu tai cymdeithasol newydd ac fe'i defnyddir yn rheolaidd gan Gymdeithasau Tai. Ystyrir bod y dull hwn o weithredu’n ffordd o gyflenwi tai newydd yn gymharol gyflym lle mae'r risg sy'n gysylltiedig â datblygu tai newydd yn aros gyda'r datblygwr. Byddai'n ddull derbyniol o helpu'r Cyngor gyda'i raglen i ddatblygu 195 o dai Cyngor newydd dros y pedair blynedd nesaf. Bydd y Cyngor yn cytuno’r gofynion o ran dyluniad a manyleb unrhyw ddatblygiadau tai a byddai angen i unrhyw dai Cyngor newydd a brynir gydymffurfio â gofynion ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol. Dyluniwyd canllawiau cost Llywodraeth Cymru i adlewyrchu prisiau tir a thai ledled Cymru a derbynnir ei fod yn darparu gwerth am arian ar gyfer y manylebau a nodir yn y gofynion ansawdd datblygu. Byddai unrhyw ddatblygiadau tai Cyngor a thai cymdeithasol newydd yn disgyn o fewn y Cyfrif Refeniw Tai; felly, dylid nodi yn y Cyfansoddiad y byddai'r Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gyfrifol am unrhyw ychwanegiad at asedau o'r fath neu am gael gwared â nhw. Dylai’r Cyngor ddefnyddio ei gap benthycatua £13m – oherwydd fel arall mae risg y bydd Llywodraeth Cymru yn ei drosglwyddo i Awdurdod Lleol arall yng Nghymru.

 

Dywedodd Rheolwr Busnes y Gwasanaethau Tai fod y targed y mae'r Cyngor wedi'i osod iddo’i hun ar gyfer datblygu tai Cyngor newydd yn heriol ac yn un y bydd y Cyngor yn ceisio ei gyflawni nid yn unig trwy ddilyn y dull uchod ond hefyd trwy adeiladu ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor a thrwy brynu’n ôl rhywfaint o’r tai y bu’n berchen arnynt gynt. Mae prynu tai Cyngor newydd a adeiladwyd gan ddatblygwyr preifat trwy becynnau dylunio ac adeiladu yn gyfrwng gwerthfawr a llwyddiannus a ddefnyddir gan gymdeithasau tai i ddatblygu tai cymdeithasol newydd. Fodd bynnag, pe bai'r Cyngor yn mabwysiadu'r dull hwn o ddatblygu tai Cyngor, byddai angen diwygio Cyfansoddiad y Cyngor er mwyn bodloni Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor bod yr Awdurdod yn dal i gydymffurfio â'r polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol. Byddai'r broses o ddewis safleoedd yn cael ei gweithredu mewn ymgynghoriad â'r Grŵp Tiroedd ac Asedau a byddai’n rhan allweddol o gyflawni'r Strategaeth Siapio Lleoedd. Ar ôl nodi angen am dai newydd, gofynnid am arweiniad cyfreithiol i sicrhau bod prosesau a gweithdrefnau’n cael eu gweithredu’n briodol wedyn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith y cynnig a nododd y canlynol -

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith y bydd angen mewnbwn proffesiynol i weithredu'r cynnig, sef mewnbwn y mae’r Cyngor yn ei gomisiynu gan y sector preifat fel rheol, a hynny’n ôl fformiwla ar sail cost ganrannol o werth y prosiect. Er budd cael gwerth am arian, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith a oedd modd i’r Swyddog Adran 151 ymchwilio i ddichonoldeb cyflogi rhai gweithwyr proffesiynol o fewn yr adran e.e. Syrfewyr Meintiau

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 y bydd y Cyngor, ar ôl iddo wneud y gwaith i ddewis safleoedd mewn ymgynghoriad â'r Grŵp Tiroedd ac Asedau, yn gallu gweld faint o ddiddordeb sydd gan gwmnïau / datblygwyr mewn gweithio gyda'r Cyngor i ddatblygu’r rhaglen adeiladau tai Cyngor newydd ac i lunio cynllun yn unol â hynny. Yn dibynnu ar y diddordeb a fynegir, gall y Cyngor wedyn asesu a oes digon o waith i gyfiawnhau cyflogi gweithwyr proffesiynol yn hytrach na thalu ffioedd proffesiynol i arbenigwyr o'r tu allan i'r Cyngor.

 

  Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith a fyddai'r rhaglen i ddatblygu tai Cyngor newydd yn y ffordd a gynigir yn golygu y byddai angen staff ychwanegol ar gost i'r gyllideb.

 

Dywedodd Rheolwr Busnes y Gwasanaethau Tai fod tîm datblygu newydd wedi'i sefydlu eisoes yn y Gwasanaethau Tai dan arweiniad y Rheolwr Datblygu Tai. Mae swydd dechnegol nad yw wedi ei llenwi ar hyn o bryd o fewn strwythur staffio'r Gwasanaethau Tai sy’n gysylltiedig â datblygu tai Cyngor. Ystyrir bod digon o gapasiti o fewn y tîm hwn i allu arwain ar raglen ddatblygu fel yr un a gynigir. Mae costau strwythur y Gwasanaethau Tai wedi'u cynnwys o fewn y Cynllun Busnes 30 mlynedd ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai; caiff y cynllun hwn ei gymeradwyo'n flynyddol. Cadarnhaodd y Swyddog na fyddai cymeradwyo’r cynnig uchod yn golygu costau staff ychwanegolmae’r adnoddau staff ac ariannol eisoes yn eu lle i allu arwain ar y rhaglen hon.

 

  Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ar y broses o ddewis safleoedd. Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd na ddylai cymeradwyo’r cynllun uchod wyro sylw’r Cyngor oddi wrth ddilyn yr opsiynau eraill sydd ar gael ar gyfer datblygu tai Cyngor e.e. trwy adeiladu ar ei dir ei hun, gan gynnwys defnyddio tir dros ben ar stadau tai a allai fod o gymorth mawr i helpu pobl leol sy'n dymuno byw o fewn eu cymunedau a hefyd trwy barhau i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

 

Dywedodd Rheolwr Busnes y Gwasanaethau Tai fod y Gwasanaeth Tai wedi bod yn nodi ardaloedd lle mae angen tai fel rhan o'r Strategaeth Siapio Lle – y strategaeth hon fydd y ffactor sy'n dylanwadu ar benderfynu ym mha ardaloedd y dylid codi tai. Bydd rhaglen datblygu tai newydd y Cyngor yn cael ei lansio ar sail gwahodd cwmnïau a datblygwyr sy'n berchen ar dir / safleoedd mewn ardaloedd lle mae’r Cyngor wedi nodi bod angen tai i gysylltu â'r Gwasanaeth Tai i drafod y cyfleoedd. O ran eiddo gwag, mae'r Gwasanaeth wedi cyflogi ail Swyddog Cartrefi Gwag ac mae cynlluniau pendant ar waith i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd gan gynnwys trwy gynnig cymhellion i berchnogion eiddo. Cadarnhaodd y Swyddog ymhellach fod y Gwasanaeth Tai wedi nodi'r holl dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor, gan gynnwys lleiniau o dir ar stadau tai Cyngor. Byddai codi tai ar dir y  Cyngor yn fwy cost-effeithiol a dyna yw bwriad y Gwasanaeth. 

 

Penderfynwyd -

 

  Cymeradwyo prynu tai newydd wedi’u hadeiladu gan ddatblygwyr preifat drwy becynnau dylunio ac adeiladu ar diroedd sydd ym mherchnogaeth datblygwyr preifat.

  Argymell i’r Cyngor Llawn bod Cynllun Hawliau Dirprwyol y Cyngor yn cael ei addasu i adlewyrchu’r hawliau ychwanegol y byddai eu hangen i weithredu trosgwlyddiadau o’r math hwn.

Dogfennau ategol: