Eitem Rhaglen

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Reoli Trysorlys 2017/18

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, yn cynnwys adolygiad o’r sefyllfa Rheoli Trysorlys ar ganol blwyddyn 2017/18. 

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y prif bwyntiau fel a ganlyn:

           Bod y Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys (TMSS) ar gyfer 2017/18 wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor ar 28 Chwefror 2017. Nid oes unrhyw newidiadau polisi i’r TMSS; mae’r manylion a ddarperir yn yr adroddiad adolygu canol blwyddyn yn rhoi diweddariad am y sefyllfa yng ngoleuni’r sefyllfa economaidd a ddiweddarwyd a’r newidiadau i’r gyllideb a gymeradwywyd eisoes.  

           Mae’r tabl yn 5.2 o’r adroddiad yn dangos yr amcangyfrif ar gyfer gwariant cyfalaf o gymharu â’r gyllideb gyfalaf. Mae’r amcangyfrif presennol ar gyfer gwariant cyfalaf ar ei hôl hi o gymharu â’r amcangyfrif gwreiddiol yn bennaf oherwydd yr oedi gyda’r ffyrdd newydd at Wylfa tan y flwyddyn ariannol nesaf a bod Isadeiledd Strategol Caergybi yn dal i ddisgwyl arian WEFO. Fodd bynnag, nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i’r adroddiad cyfalaf i’w hadrodd arnynt ar hyn o bryd.

           Mae’r tabl yn 5.4.2.1 o’r adroddiad yn dangos y Gofyniad Ariannu Cyfalaf (GAC) sef yr angen sylfaenol i fenthyca yn allanol er mwyn ariannu gwariant cyfalaf. Mae’r Cyngor ar hyn o bryd ychydig ar ei hôl hi o gymharu â’r rhagolygon gwreiddiol ar gyfer y GAC o ganlyniad i’r rhagolygon o danwariant yn y rhaglen ysgolion y 21ain Ganrif gan olygu y bydd llai o fenthyca yn ystod 2017/18. Mae’r tabl hefyd yn dangos y sefyllfa o ran y ddyled ddisgwyliedig (neu derfyn gweithredol) ar gyfer y cyfnod. Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor tua £47 miliwn o fewn y terfyn.   

           Mae Adran 6 yr adroddiad yn amlinellu’r sefyllfa mewn perthynas â portffolio buddsoddi’r Cyngor ar gyfer 2017/2018. Darperir rhestr lawn o fuddsoddiadau fel ar 30 Medi, 2017 yn Atodiad A i’r adroddiad. Ni chafodd y cyfyngiadau sydd wedi eu cymeradwyo o fewn y Strategaeth Buddsoddi Blynyddol eu torri yn ystod y chwe mis cyntaf o 2017/18.

           Mae’r GAC arfaethedig ar gyfer 2017/18 yn £138.1 miliwn. Mae’r Cyngor wedi rhagamcanu benthyca diwedd blwyddyn o £118m a bydd wedi defnyddio £20.1 miliwn o gyllid llif arian yn lle benthyca. Mae hon yn agwedd ddarbodus a chost effeithiol yn yr hinsawdd economaidd bresennol ond bydd angen monitro parhaus petai’r risg o ran yr elw o’r giltiau’n parhau. Er na chafodd unrhyw arian ei fenthyca yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol, rhagwelir y bydd angen benthyca yn ystod ail hanner y flwyddyn. Mae Paragraff 7.3 yn nodi manylion dau fenthyciad tymor hir gyda’r PWLB a aeddfedodd yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol.     

           Nid oes unrhyw ailbennu dyledion wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

           Mae paragraff 9 o’r adroddiad yn amlinellu’r gweithgaredd ers diwedd Chwarter 2, yn bennaf y trefniadau a wnaed mewn perthynas â benthyca £5 miliwn gan Tyne and Wear Pension Fund South Shields.  

           Mae Adran 11 o’r adroddiad yn darparu diweddariad ar faterion yn ymwneud â TM mewn perthynas â chodau CIPFA diwygiedig a rheoliadau o dan MIFID II – mae’r rhain yn rheoli’r berthynas y bydd gan sefydliadau ariannol sy’n cynnal trafodion benthyca ag awdurdodau lleol o 3 Ionawr, 2018 ymlaen a’r opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor o ran uwchraddio i statws proffesiynol neu gadw statws cleient adwerthu. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y sylwadau canlynol –

 

           Nododd y Pwyllgor y rhagolygon o'r raddfa log a ddarparwyd gan ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor fel ym Mharagraff 3.1 o’r adroddiad. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad ar ddichonoldeb y rhagolwg a faint y dylai’r Cyngor fod yn dibynnu arno ar gyfer ei ddibenion rheoli trysorlys gan ei fod yn ystyried y bydd cyfradd y banc yn 0.25% ym Mawrth 2019 a’i fod eisoes wedi codi i 0.50% yn Nhachwedd 2017. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 y bydd y rhagolwg yn dylanwadu amseriad benthyca’r Awdurdod (er bod benthyciadau PWLB yn tueddu i fod yn rhai cyfradd llog sefydlog) ac mae i fod yn arwyddol o dueddiadau ac o ganlyniad, mae’n fwy perthnasol i’r benthyciadau tymor hir sydd gan yr Awdurdod. Nid yw ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor yn rhagweld cynnydd sylweddol yn y cyfraddau llog dros amser a bydd eu rhagolygon yn cael eu hystyried gan yr Awdurdod wrth benderfynu ar yr adeg fwyaf amserol i ymrwymo i fenthyciad. Fodd bynnag, nid yw’n bolisi gan yr Awdurdod i fenthyca yn seiliedig ar y raddfa log oherwydd oni bai ei fod at bwrpas penodol, bydd benthyciad yn costio mwy i’r Awdurdod ei gario nag y gall obeithio ei wneud i fyny ar ffurf enillion ar fuddsoddiad.   

           Gofynnodd y pwyllgor am gadarnhad ar yr amrywiad mewn perthynas â’r amcangyfrifon gwreiddiol a’r amcangyfrifon a oedd wedi cael eu hadolygu ar gyfer grantiau cyfalaf. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod yr amrywiad o ganlyniad yn bennaf i’r oedi gyda’r gwaith ar y ffordd newydd i Wylfa; tra roedd darpariaeth yn y cynllun gwreiddiol u i’r gwaith gael ei wneud cyn cyflwyno’r Gorchymyn Caniatâd i Datblygu (DCO) ar gyfer yr adeilad niwclear, mae’r elfen briffyrdd yn rhan annatod o’r DCO yn y cynllun diwygiedig sy’n golygu mai ychydig iawn o’r gwaith caib a rhaw ar y ffordd tuag at Wylfa fydd yn digwydd cyn y rhoddir caniatâd i’r orsaf bŵer niwclear newydd. Bydd y Cyngor fel Awdurdod Priffyrdd yn ymgymryd â’r gwaith sy’n cael ei ariannu gan Horizon; mae hwn yn cael ei drin fel grant cyfalaf ac er bod y rhaglen priffyrdd newydd wedi llithro i 2018/19 bydd y cyllid ar ei gyfer yn dal i fod ar gael bryd hynny.  

           Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad ynghylch sefyllfa’r cyllid sy’n gysylltiedig â rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif o ystyried bod yr adroddiad yn cyfeirio at ragolwg o danwariant ar y rhaglen gyda'r canlyniad y bydd llai o fenthyca yn ystod 2017/18. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod y cyllid ar gyfer y Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif yn cael ei rannu rhwng yr Awdurdod a Llywodraeth Cymru; mae cyfran yr Awdurdod wedi’i ariannu gan fenthyca tra bod traean o gyfran Llywodraeth Cymru wedi’i ariannu gan grant a dwy ran o dair drwy fenthyca â chymorth h.y. yr Awdurdod yn benthyca a Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol fel rhan o’r setliad blynyddol i dalu am gost yr Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) a’r llog. Gall yr Awdurdod ddefnyddio derbyniadau cyfalaf o werthiant asedau ysgol nad oes angen amdanynt mwyach fel rhan o’i gyfran ariannol gan olygu mai dim ond y balans fydd angen iddo ei fenthyca drwy fenthyca di-gymorth h.y. benthyca lle mae’n rhaid i’r Awdurdod ariannu cost yr MRP a’r llog o’i gyllideb ei hun. Os yw’r Awdurdod yn gallu gwneud arbedion drwy sicrhau bod ysgolion sydd wedi cau yn cael eu gwerthu yna gall hynny ostwng ei ymrwymiad benthyca a’r costau refeniw sy’n gysylltiedig â benthyca.    

           Nododd y Pwyllgor bod yn rhaid i raddfa’r gwariant cyfalaf gyflymu er mwyn sicrhau cynnydd mewn perthynas â’r sefyllfa fel yr oedd ym Medi 2017 i’r amcangyfrif presennol. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd hyn yn realistig. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, tra bod cynlluniau cyfalaf yn cymryd peth amser i ddechrau fel arfer, bydd y Gwasanaeth Cyllid yn cynnal trafodaethau â’r rheolwyr prosiect mewn perthynas â sicrhau cynnydd o ran gwariant sy'n arwain at ragolwg gwariant ar y cyd rhwng yr Adran Gyllid ‘r Gwasanaeth. Yn hanesyddol, mae gwariant cyfalaf wedi ei bwysoli tuag at ail hanner y flwyddyn ariannol; efallai bod hyn oherwydd nad yw Gwasanaethau yn gallu dechrau gwario tan ddiwedd Chwefror pan fydd y gyllideb gyfalaf wedi ei chymeradwyo - tan hynny, nid oes ganddynt yr awdurdod i wneud hynny. Bydd y Gwasanaeth Cyllid yn edrych i sicrhau nad oes unrhyw gyllid grant yn cael ei golli o ganlyniad i lithriad ar gynlluniau cyfalaf yn enwedig mewn perthynas â rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif sef grant mwyaf yr Awdurdod lle mae angen lefel penodol o wariant. Petai tywydd garw yn atal neu’n achosi oedi i’r gwaith yn ystod camau diwethaf y rhaglen, fel nad yw’r lefel angenrheidiol o wariant wedi digwydd, bydd yr Awdurdod yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch y modd y gellir gwneud y mwyaf o’r grant.    

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad TM canol blwyddyn ar gyfer 2017/18 gyda’r argymhelliad i’r Pwyllgor Gwaith, o ran ariannu cyfran y Cyngor o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, bod agwedd ragweithiol yn cael ei mabwysiadu er mwyn sicrhau bod asedau’n cael eu gwerthu’n amserol er mwyn lleihau angen y Cyngor i fenthyca ynghyd â’r costau refeniw sy'n codi o ganlyniad i fenthyca. 

 

NI CHAFODD UNRHYW WEITHREDOEDD YCHWANEGOL EU CYNNIG

Dogfennau ategol: