Eitem Rhaglen

Trawsnewid y Gwasanaeth Llyfrgell

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell ar gyfer 2017-2022.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant fod Cynllun Corfforaethol Ynys Môn ar gyfer 2013 i 2017 yn cynnwys nod i sicrhau gostyngiad o 60% yng nghostau cyffredinol y gwasanaethau hamdden, diwylliant a llyfrgelloedd yn ystod cyfnod y cynllun. Crynhodd y cyd-destun i gynhyrchu'r Strategaeth Llyfrgell Ddrafft gan ddechrau gyda’r Adolygiad o’r Gwasanaeth Llyfrgell a gynhaliwyd yn 2015 ynghyd â’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd wedyn ac y cafwyd 2,000 o ymatebion iddo. Yn dilyn yr ymgynghoriad, datblygodd y Gwasanaeth Llyfrgell Strategaeth Ddrafft i fynd i'r afael â’r argymhellion yn yr Adolygiad o’r Gwasanaeth Llyfrgell, yr adroddiad ymgynghori a'r sefyllfa ariannol. Cyflwynwyd y Strategaeth Llyfrgelloedd Ddrafft wedyn i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Chwefror, 2017 a rhoddwyd awdurdod i'r Swyddogion fwrw ymlaen i drefnu ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Ddrafft honno. Mae'r Strategaeth yn cynnig model darpariaeth tair haen sy'n cynnwys llyfrgelloedd ardal; llyfrgelloedd a gefnogir gan y gymuned dan arweiniad y Cyngor gydag elfennau o gymorth cymunedol a llyfrgelloedd a gefnogir gan y gymuned dan arweiniad y Cyngor. Cedwir y gwasanaethau llyfrgell symudol yn amodol ar gynnal adolygiad llawn o’r llwybrau a’r arosfannau. Cynigiodd yr Aelod Portffolio argymhellion yr adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ynghyd ag Opsiwn C (yn hytrach nag Opsiwn B) fel yr opsiwn a ffafrir ar gyfer arbedion yn y strwythur staffioroedd hyn o ganlyniad i adolygu’r risgiau ar ôl gohirio rhoi sylw i'r mater yn y cyfarfod blaenorol.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu wrth y Pwyllgor Gwaith fod y Gwasanaeth, ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Gwaith ym mis Tachwedd, wedi derbyn cadarnhad gan MALD (Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru) mewn perthynas â'r opsiynau dan ystyriaeth. Mae MALD yn pryderu am yr opsiwn sy'n cadw dim ond yr isafswm staff ac sy'n golygu colli’r holl oriau staff o'r llyfrgelloedd a fyddai’n cau (Opsiwn B). Mae MALD o’r farn bod yr opsiwn hwn yn peri risg o ran gallu'r Gwasanaeth i barhau i ddarparu gwasanaeth llyfrgell ar y lefel ddisgwyliedig, o gofio bod y lefelau staffio cyfredol eisoes ar yr ochr isel o’r hyn y gellid ei ddisgwyl.

 

Fel Aelodau Lleol, dywedodd y Cynghorwyr Aled Morris Jones a Richard Owain Jones fod trafodaethau’n parhau gyda grwpiau a busnesau lleol i ddod o hyd i ddatrysiad  cymunedol i sicrhau bod gwasanaeth llyfrgell yn parhau yng Nghemaes; byddai'r gymuned yn hoffi cael amser i allu datblygu'r syniadau hyn. Yng ngoleuni hynny, gofynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones am eglurhad ar yr amserlen weithredu yn ogystal â'r ddarpariaeth ariannol y byddai ei hangen fel isafswm i gadw gwasanaeth llyfrgell yng Nghemaes. Cadarnhaodd y Cynghorydd Richard Owain Jones fod nifer o opsiynau’n cael eu harchwilio gan gynnwys cysylltu gyda darpar ddatblygwr mawr yn yr ardal. Gofynnodd yr Aelodau Lleol am gael ailystyried unrhyw benderfyniad i gau Llyfrgell Cemaes os deuir o hyd i ddatrysiad cymunedol.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod y Gwasanaeth yn bwriadu gweithredu’r ailstrwythuro staff a’r trefniadau lleol yn ystod y cyfnod rhwng rŵan a mis Mai 2018. Cadarnhaodd y Swyddog ymhellach mai’r gost isaf o ran cadw Llyfrgell Cemaes ar agor fyddai tua £11,000 y flwyddyn.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Richard Dew, yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, fod Cyngor Cymuned Llanfaelog wedi mynegi diddordeb pendant mewn bod yn rhan o ddatrysiad cymunedol i gynnal Llyfrgell Rhosneigr a bod trafodaethau i'r perwyl hwnnw'n parhau.

 

Nododd a chydnabu’r Pwyllgor Gwaith yr ymateb cadarnhaol gan y cymunedau hynny a oedd wedi dod ymlaen i nodi eu parodrwydd i gydweithio gyda'r Gwasanaeth Llyfrgell i sicrhau darpariaeth yn eu hardaloedd a hefyd y cymunedau hynny sy’n dal i weithio i  ddod o hyd i ddatrysiad lleol ac sy’n ymrwymedig i wneud hynny.

 

Penderfynwyd -

 

  Mabwysiadu Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell 2017-2022

  Bod y newidiadau arfaethedig yn Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell 2017-2022 yn cael eu gweithredu fel a ganlyn -

  Cau Llyfrgell Cemaes, Llyfrgell Moelfre a Llyfrgell Niwbwrch gan barhau i ymchwilio i gamau lliniaru fel pwyntiau mynediad cymunedol a/neu gynyddu darpariaeth symudol yn yr ardaloedd a effeithir gan benderfyniadau i gau.

  Datblygu model cydweithredol gyda Chanolfan Biwmares o ran Llyfrgell Biwmares.

  Cael ymrwymiad cadarn gan Gyngor Cymuned Llanfaelog mewn perthynas â Llyfrgell Rhosneigr erbyn 31 Ionawr, 2018. Os na ddarperir unrhyw ymrwymiad cadarn, yna mynd ymlaen i’w chau fel yn y pwynt bwled cyntaf.

  Gweithredu Opsiwn C o fewn costau drafft y Gwasanaeth Llyfrgell (Atodiad 5 yr adroddiad) – cadw 22 awr, sef ⅔ y staffio o’r llyfrgelloedd a fyddai’n cau o fewn y strwythur staffio newydd i helpu i liniaru a chynnal perfformiad yn erbyn safonau staffio’r WPLS.

Dogfennau ategol: