Eitem Rhaglen

Rhybudd o Gynnig yn unol â Rheol 4.1.13.1 o'r Cyfansoddiad

I gyflwyno Rhybudd o Gynnig gan :-

 

·      Y Cynghorydd Shaun J Redmond

 

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar i symud i bolisi o amgylchedd gweithio Cymraeg iaith gyntaf a’r baich ariannol cysylltiedig â’r gwahaniaethu sydd ynghlwm â hynny, rwy’n cynnig, gan nad oes gan y Cyngor unrhyw fandad a gan nad ydynt wedi ceisio consensws yr etholaeth i newid y polisi o fod yn Bolisi o Ddwyieithrwydd, bod Aelodau yn :-

 

(a)   Cadw’r amgylchedd gwaith a’r polisi dwyieithog tan y bydd mandad a chonsensws yn cael ei gytuno drwy refferendwm ymysg yr etholaeth.

(b)  Derbyn y polisi o gyflogi’r ymgeiswyr mwyaf cymwys ar gyfer pob swydd o fewn y Cyngor beth bynnag eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith o Gymraeg neu Saesneg.

(c)  Derbyn y polisi o gyflogi pobl ifanc a thrigolion eraill ym Môn y mae eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith yn Gymraeg neu Saesneg.”

 

·      Y Cynghorydd Aled Morris Jones

 

Rwy’n gwneud cais i’r Cyngor Sir chwifio baner y Deyrnas Unedig y tu allan i swyddfeydd y Cyngor Sir yn Llangefni yn ddyddiol, ac nid ar ddyddiau penodol yn unig, ochr yn ochr â’r Ddraig Goch a baner y Cyngor.”

 

·      Y Cynghorydd Bryan Owen

 

Yn dilyn effaith trychinebus ar unigolion o ganlyniad i’r llifogydd diweddar ar yr Ynys, a wnaiff y Cyngor gytuno i sefydlu cronfa gymorth argyfwng er mwyn cynorthwyo’r rhai hynny sydd wedi eu heffeithio a blaenoriaethu gwelliannau i amddiffynfeydd llifogydd fel rhan o gyllideb 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhybuddion o Gynigiad isod gan: -

 

·             Y Cynghorydd Shaun Redmond

 

"Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar i symud i bolisi o amgylchedd gweithio Cymraeg iaith gyntaf a’r baich ariannol cysylltiedig â’r gwahaniaethu sydd ynghlwm â hynny, rwy’n cynnig, gan nad oes gan y Cyngor unrhyw fandad a gan nad ydynt wedi ceisio consensws yr etholaeth i newid y polisi o fod yn Bolisi o Ddwyieithrwydd, bod Aelodau yn :-

 

(a)   Cadw’r amgylchedd gwaith a’r polisi dwyieithog tan y bydd mandad a chonsensws yn cael ei gytuno drwy refferendwm ymysg yr etholaeth;

(b)  Derbyn y polisi o gyflogi’r ymgeiswyr mwyaf cymwys ar gyfer pob swydd o fewn y Cyngor beth bynnag eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith o Gymraeg neu Saesneg;

(c)  Derbyn y polisi o gyflogi pobl ifanc a thrigolion eraill ym Môn y mae eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith yn Gymraeg neu Saesneg.”

 

Eiliodd y Cynghorydd Peter S Rogers y cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Redmond fod yr etholaeth wedi cysylltu ag ef yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Etholedig gyda sylwadau yn gofyn pam mae angen polisi o'r fath ar gyfer amgylchedd gwaith y Cyngor. Mae'r cyhoeddiad a wnaed ynghylch symud i'r polisi hwn wedi codi nifer o gwestiynau a phryderon yng nghymunedau Ynys Môn a dyna pam mae angen i bolisïau'r Cyngor fod yn agored a chael eu trafod yn gyhoeddus. Pwysleisiodd nad yw ei rybudd o gynigiad yn ymosodiad ar y Gymraeg a dywedodd ein bod yn byw mewn cymdeithas amrywiol gyda dwy brif iaith ac ‘roedd yn amheus ganddo a fyddai hynny byth yn newid os yw Ynys Môn am ffynnu. Pam fod rhaid newid polisi dwyieithog sydd wedi llwyddo i gynyddu'r niferoedd sy'n gallu siarad Cymraeg neu sy’n dewis defnyddio'r Gymraeg am bolisi lle mae’n rhaid i weithwyr fod yn rhugl yn y Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar i wneud eu gwaith? Gall staff sy'n siarad Cymraeg yn rhugl gyflawni eu dyletswyddau yn y Gymraeg, sydd yn iawn felly, gan mai eu dewis hwy yw hynny ac ni ddylai neb eu hamddifadu o’r fath ryddid i ddewis. Roedd yn siŵr fod gan staff y parch mwyaf i'r rheiny y mae eu hiaith gyntaf yn wahanol a’u dewis nhw yw defnyddio'r iaith honno yn ôl eu rhyddid i ddewis. Dywedodd y Cynghorydd Redmond ymhellach y bydd y newid mewn polisi yn cael effaith andwyol ar gyflogaeth staff. Dywedodd fod problem eisoes o ran recriwtio i swyddi y mae angen cymwysterau uchel iawn ar eu cyfer; gallai hyn gymhlethu'r broses recriwtio. Gofynnodd i'r Cyngor wrthod polisi'r Gymraeg fel iaith gyntaf yng ngweinyddiaeth y Cyngor.

 

Amlinellodd yr Aelod Portffolio ar gyfer yr Iaith Gymraeg y polisi iaith Gymraeg a fabwysiadwyd gan y Cyngor llawn ym mis Mai 2016 ac yna'r Safonau Iaith Gymraeg. Dywedodd fod y Cyngor, wrth fabwysiadu'r Polisi Iaith Gymraeg, wedi penderfynu hefyd i fabwysiadu'r gwelliant a ganlyn ym mharagraff 3.2.4 y polisi sy'n datgan '... mai nod y Cyngor yw sicrhau mai Cymraeg fydd prif iaith y Cyngor ar lafar ac yn ysgrifenedig ar gyfer cyfathrebu mewnol.' Er mwyn gwireddu hynny,  mae'r Cyngor yn monitro cynnydd bob blwyddyn trwy gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Sgriwtini ar yr un pryd â'r adroddiad blynyddol ar weithrediad y polisi Iaith Gymraeg. Mabwysiadwyd yr adroddiad blynyddol gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd, 2017. Dywedodd yr  Aelod Portffolio nad gorfodi staff i ddefnyddio'r Gymraeg i ddibenion gweinyddiaeth yw’r nod, ond yn hytrach eu hannog a'u cefnogi i ddefnyddio'r iaith yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Nododd mai’r Gwasanaeth Tai, ym mis Medi 2016,  oedd y gwasanaeth cyntaf a ddewiswyd i weithio'n ddwys gyda'r Cydlynydd Iaith trwy sefydlu gwaelodlin o'r defnydd o'r Gymraeg yn y gwasanaeth. Cytunwyd ar Gynllun Gweithredu gyda'r Tîm Rheoli ar gyfer y Gwasanaeth Tai er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle. Y bwriad yw gweithio gyda phob adran i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn eu hamgylchedd gwaith. Nododd mai polisi Llywodraeth Cymru yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

 

Roedd y prif faterion a godwyd fel a ganlyn: -

 

·         Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen ei fod yn gwbl gefnogol i’r defnydd o'r iaith Gymraeg o fewn yr Awdurdod a pholisi dwyieithrwydd y Cyngor. Roedd yn cefnogi cyfle cyfartal i bob un o drigolion yr ynys allu cystadlu am gyfleoedd gwaith yn y Cyngor gan ei fod yn ymddangos mai ychydig iawn o ymgeiswyr sy'n cystadlu am gyflogaeth ar hyn o bryd;

·         Dywedodd y Cynghorydd A M Jones ei fod o'r farn y dylid annog defnyddio’r  iaith Gymraeg yn hytrach na'i orfodi;

·         Dywedodd y Cynghorydd R Ll Jones y byddai'n cefnogi sefydlu Panel i drafod y polisi iaith Gymraeg;

·         Dywedodd y Cynghorydd R Meirion Jones fod y Cyngor eisoes yn glynu wrth y Polisi Iaith Gymraeg a'r Safonau Iaith Gymraeg. Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn ddiweddar. Nododd fod Grŵp Tasg Iaith wedi'i sefydlu o fewn y Cyngor ers blynyddoedd lawer ynghyd â Fforwm Iaith sy'n ceisio hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg ar draws yr Awdurdod. Nododd ymhellach fod yr agwedd tuag at yr iaith yn bwysig a bod y ffocws ar anogaeth yn hytrach na gorfodi.

 

Yn dilyn trafodaethau, cynigiodd y Cynghorydd R Ll Jones welliant i'r Cynigiad y dylid sefydlu Panel gydag aelodau etholedig i drafod defnyddio'r Gymraeg yn yr Awdurdod. Eiliodd y Cynghorydd Peter Rogers y cynnig. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond y byddai'n tynnu ei Rybudd o Gynigiad yn ôl er mwyn caniatáu'r cynnig fel y nodir uchod. Dymunai bwysleisio eto nad oedd ei Rybudd o Gynigiad yn ymosodiad ar yr iaith Gymraeg. Roedd yn bryderus y byddai pobl nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg, er eu bod efallai wedi ceisio dysgu'r iaith, yn cael eu hamddifadu o allu cystadlu am gyflogaeth o fewn y Cyngor. Derbyniodd Aelodau'r Cyngor ei gynnig i dynnu'n ôl ei Rybudd o Gynigiad. 

 

Yn unol â pharagraff 4.1.18.4 y Cyfansoddiad, gwnaed cais gan y nifer ofynnol o aelodau am bleidlais gofnodedig ynghylch sefydlu'r Panel.

 

Roedd y bleidlais gofnodedig fel a ganlyn: -

 

·                     Sefydlu Panel i drafod y defnydd o'r Gymraeg yn y Cyngor: -

 

Y Cynghorwyr Aled M Jones, Eric W Jones, R Ll Jones, Peter S Rogers, Bryan Owen, Shaun Redmond.                                                        CYFANSWM 6

 

·         Peidio â sefydlu Panel i drafod y defnydd o'r Gymraeg o fewn y Cyngor:

 

Y Cynghorwyr Richard A Dew, John Griffith, Richard Griffiths, Glyn Haynes, K P Hughes, T Ll Hughes, Llinos M Huws, Carwyn Jones, Gwilym O Jones, R Meirion Jones, Margaret M Roberts, Vaughan Hughes, Alun Mummery, Bob Parry OBE, Dylan Rees, Alun Roberts, Dafydd Roberts, J Arwel Roberts, Nicola Roberts, Dafydd R Thomas, Ieuan Williams, Robin Williams.                                                        CYFANSWM 22

 

Ni chafodd y cynigiad ei gario. 

 

 

 

 

 

·               Y Cynghorydd Aled Morris Jones

 

Rwy’n gwneud cais i’r Cyngor Sir chwifio baner y Deyrnas Unedig y tu allan i swyddfeydd y Cyngor Sir yn Llangefni yn ddyddiol, ac nid ar ddyddiau penodol yn unig, ochr yn ochr â’r Ddraig Goch a baner y Cyngor.”

 

Eiliodd y Cynghorydd Bryan Owen y cynigiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod nifer o adeiladau dinesig ledled Gogledd Cymru a Chymru yn hedfan baner y Deyrnas Unedig bob dydd.  Dywedodd fod hedfan baner y Deyrnas Unedig yn bwysig i nifer o bobl ar yr Ynys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen fod hedfan baner y Deyrnas Unedig yn atgoffâd teimladwy o’r aberth a wnaed gan bobl ifanc o Ynys Môn a Chymru yn ystod y Rhyfeloedd Mawr. Roedd yn cefnogi’r Rhybudd o Gynigiad fel arwydd o barch i'r rheini a gwympodd yn ystod y Rhyfeloedd Mawr. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cyngor Sir wedi mabwysiadu Polisi Baneri ar 10 Medi, 2001 sy'n nodi'r dyddiadau penodol pan fydd baner yr Undeb yn hedfan. Cynigiodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn cadw at y Polisi hwnnw.

 

Yn unol â pharagraff 4.1.18.4 y Cyfansoddiad, gwnaed cais gan y nifer ofynnol o aelodau am bleidlais gofnodedig ar y cynnig arfaethedig.

 

Roedd y bleidlais gofnodedig fel a ganlyn: -

 

·         Hedfan baner y Deyrnas Unedig y tu allan i Swyddfeydd y Cyngor Sir yn ddyddiol: -

 

Y Cynghorwyr Aled M Jones, Eric W Jones, R Ll Jones, Peter S Rogers, Bryan Owen, Shaun Redmond.                                                        CYFANSWM 6

 

·         Peidio â hedfan baner y Deyrnas Unedig y tu allan i Swyddfeydd y Cyngor Sir yn ddyddiol a glynu wrth y Polisi Baneri a fabwysiadwyd gan y Cyngor Sir ar 10 Medi, 2001: -

 

Y Cynghorwyr Richard A Dew, John Griffith, Richard Griffiths, Glyn Haynes, K P Hughes, T Ll Hughes, Llinos M Huws, Carwyn Jones, Gwilym O Jones, R Meirion Jones, Margaret M Roberts, Vaughan Hughes, Alun Mummery, Bob Parry OBE, Dylan Rees, Alun Roberts, Dafydd Roberts, J Arwel Roberts, Nicola Roberts, Dafydd R Thomas, Ieuan Williams, Robin Williams.                                                        CYFANSWM 22

 

Ni chafodd y cynigiad ei gario. 

 

·                  Y Cynghorydd Bryan Owen

 

"O gofio'r effaith ddinistriol ar unigolion yn dilyn y llifogydd diweddar ar yr Ynys, a fyddai'r Cyngor yn cytuno i sefydlu cronfa cymorth brys i gynorthwyo'r rhai yr effeithir arnynt a blaenoriaethu gwelliannau i amddiffynfeydd rhag llifogydd fel rhan o gyllideb 2018/19."

 

Eiliodd y Cynghorydd Aled M Jones y cynigiad.

 

Dymunai'r Cynghorydd Bryan Owen ddiolch i'r Prif Weithredwr a staff y Cyngor am eu gwaith caled yn ystod y llifogydd diweddar ar yr Ynys. Dywedodd na fu unrhyw sôn am effeithiau'r llifogydd ar ardal Dwyran gyda rhai tai wedi eu difrodi’n sylweddol iawn. Dywedodd y Cynghorydd Owen mai un o'r rhesymau dros y llifogydd eithafol oedd diffyg glanhau a chynnal yr afonydd. Cyfeiriodd at y tirlithriad ar yr A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares sydd wedi digwydd ddwywaith bellach mewn cyfnod byr a bod Biwmares yn gyrchfan twristiaeth bwysig i lawer o ymwelwyr i'r Ynys. Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen at y trafodaethau sy'n digwydd ynghylch cael trydedd croesfan dros Afon Menai ac y byddai'n llawer gwell cael uwchraddio’r ffordd rhwng Porthaethwy a Biwmares.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones ei fod o'r farn y gallai'r Cyngor ofyn am gymorth ariannol o’r Cynllun Bellwin sy’n rhoi cymorth ariannol brys i awdurdodau lleol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Shaun Redmond am adroddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu gweithgareddau carthu a glanhau afonydd. Ymatebodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff bod ffermwyr yn y gorffennol yn cael eu talu i glirio ffosydd ar y tir ond erbyn hyn maent yn cael eu gwahardd rhag gwneud hynny gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mynegodd ei farn fod angen carthu Afon Cefni fel mater o frys.

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi gofyn i'r Ysgrifennydd ymchwilio a yw'n briodol i'r Ymddiriedolaeth sefydlu cronfa i roi cymorth i breswylwyr yr Ynys sydd wedi cael llifogydd yn eu cartrefi a'u busnesau yn ddiweddar.

 

Roedd y Cynghorydd Carwyn Jones hefyd yn dymuno diolch i staff y Cyngor, cwmni DAWNUS a MWT Construction Cyf. am eu gwaith yn ystod y llifogydd eithafol a gafwyd yn ddiweddar. Mae'r cynllun amddiffyn rhag llifogydd ym Miwmares a gymeradwywyd gan y diweddar Mr Carl Sargeant AC wedi diogelu rhag llifogydd trychinebus posib yn nhref Biwmares. Bu tirlithriadau ar ffordd yr A545 o Borthaethwy i Fiwmares am y trydydd tro ac mae gwir angen uwchraddio'r briffordd hon. Ategodd y Cynghorydd R Meirion Jones y datganiad bod angen uwchraddio'r briffordd o Borthaethwy i Fiwmares.  Gofynnodd hefyd i drigolion yr Ynys sydd wedi cael llifogydd anfon manylion am eu profiadau a'u colledion i'r Cyngor fel y gall yr Awdurdod gysylltu â Llywodraeth Cymru am gyllid i sicrhau na fydd llifogydd o'r fath yn digwydd eto.

Roedd Arweinydd y Cyngor hefyd yn dymuno diolch i staff y Cyngor am eu gwaith yn ystod cyfnod y llifogydd eithafol annisgwyl a gafwyd ar yr Ynys yn ddiweddar.  Dywedodd fod angen i'r Cyngor barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Network Rail i archwilio'r rhesymau dros y llifogydd ac i gymryd camau i osgoi digwyddiad o'r fath eto.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers bod angen sefydlu cronfa yn y gyllideb nesaf i helpu pobl sydd wedi cael llifogydd a bod angen rhoi cynllun ar waith i sicrhau na fydd llifogydd o'r fath yn digwydd eto. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen, fel y cynigydd, nad oedd yn cytuno y dylai'r Ymddiriedolaeth Elusennol ystyried sefydlu cronfa i gynorthwyo trigolion sydd wedi cael llifogydd, am ei fod o'r farn mai mater i'r Cyngor yw delio â phroblemau llifogydd ac os mai cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ydyw mae angen i'r Cyngor fynd ar eu holau i ariannu mesurau i sicrhau nad yw llifogydd eithafol o'r fath a gafwyd yn ddiweddar yn digwydd eto a bod gwaith yn cael ei wneud i gynnal a chadw'r afonydd yn barhaus. 

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor ddiwygiad i'r Cynigiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Bryan Owen i ofyn i Swyddogion perthnasol y Cyngor barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Network Rail i ymchwilio i'r rhesymau dros y llifogydd eithafol ar yr Ynys a rhoi mesurau ar waith i osgoi llifogydd o'r fath eto a bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith yn y Flwyddyn Newydd. Eiliodd y Dirprwy Arweinydd y cynnig. 

 

Yn y bleidlais ddilynol cariwyd y gwelliant fel y cynigiwyd gan yr Arweinydd. Gyda chydsyniad y cyfarfod, ni wnaeth y Cynghorydd Bryan Owen fwrw ymlaen â’i  gynigiad gwreiddiol.