Eitem Rhaglen

Trawsnewid y Gwasanaeth Diwylliant - Carchar a Llys Biwmares

Penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2017 mewn perthynas â Charchar a Llys Biwmares sydd wedi ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Eric Wyn Jones, Kenneth Hughes, Bryan Owen a Peter Rogers.

 

Mae’r ddogfennaeth ynghlwm fel a ganlyn

 

·        Y penderfyniad a wnaed

 

·        Y Cais i Alw i Fewn

 

·        Yr adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Dysgu a Phennaeth Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd, 2017.

 

Cofnodion:

Cafodd penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2017 i drosglwyddo Carchar a Llys Biwmares i Gyngor Tref Biwmares ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Eric Wyn Jones, Kenneth Hughes, Bryan Owen a Peter Rogers. Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor, benderfyniad y Pwyllgor Gwaith, y cais i alw’r eitem i mewn ac adroddiad a baratowyd ar y cyd gan y Pennaeth Dysgu a'r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ar gyfer y Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd, 2017.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro bod gan y Pwyllgor dri opsiwn wrth ddod i benderfyniad ar y cais galw i mewn, sef

 

           Derbyn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017. Yn yr achos hwn, bydd y broses galw i mewn yn dod i ben a bydd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn dod i rym yn syth ar ôl y cyfarfod hwn.

           Gwrthod y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith. Yn yr achos hwn, gall y Pwyllgor gyfeirio'r penderfyniad yn ôl i'r Pwyllgor gydag argymhelliad y dylid ei ailystyried a / neu ei ddiwygio. Yna byddai'n rhaid i’r Pwyllgor Gwaith roi ystyriaeth bellach i'r mater o fewn 10 niwrnod gwaith gan gymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Sgriwtini. Ar ôl hynny, byddai naill ai'n cadarnhau neu'n diwygio'r penderfyniad gwreiddiol.

           Gwrthod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a chyfeirio'r mater gydag argymhelliad i'r Cyngor Llawn. Nid oes gan y Cyngor unrhyw bŵer i wneud penderfyniad ynglŷn â'r mater oherwydd nid yw'n groes i’r Gyllideb na'r Fframwaith Polisi ac nid yw ychwaith yn anghyson â'r Gyllideb. Byddai’r Cyngor felly yn ymgynnull i ystyried y mater yn unig ac os byddai’n gwrthwynebu’r penderfyniad, ei gyfeirio’n ôl gydag unrhyw sylwadau i’r Pwyllgor Gwaith fel corff sy'n gwneud y penderfyniad.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn am gyngor gan y Swyddog Monitro ynghylch a oedd hi’n briodol iddo fel un o lofnodwyr y cais galw i mewn, i gadeirio’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Roedd wedi cael cyngor ei fod yn briodol iddo wneud hynny.

 

Bu i’r Cynghorydd Bryan Owen, fel Aelod Arweiniol y Cais Galw i Mewn esbonio’r rhesymau dros alw i mewn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd, 2017 fel y’u hamlinellwyd yn y ffurflen gais galw i fewn. Roedd y rhain yn ymwneud â thelerau trosglwyddo’r asedau a’r broses allanoli.

 

Mewn ymateb, cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor y Pwyllgor at yr adroddiad ysgrifenedig oedd yn nodi'n glir oblygiadau ariannol yr holl opsiynau a ystyriwyd yng nghyswllt trosglwyddiad Carchar a Llys Biwmares. Mae Atodiad 1 yr adroddiad yn disgrifio cronoleg pob cam o’r broses allanoli. Mae'n un o amcanion Cynllun y Cyngor i gefnogi cymunedau i'w helpu i ddatblygu a ffynnu a hefyd i weithio'n arloesol gyda chymunedau i gadw asedau pwysig ar agor. Dywedodd bod y camau a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith yn cyd-fynd â'r amcan hwnnw.

 

Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro y broses gyfreithiol a ddilynwyd o ran y cynnig i drosglwyddo’r ased a chadarnhaodd fod y broses wedi'i dilyn yn briodol. Dywedodd nad oedd unrhyw bosibilrwydd realistig o her.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bryan Owen i'r Pwyllgor dderbyn galw i mewn y penderfyniad a’i  gyfeirio’n ôl i'r Pwyllgor Gwaith i'w ail-ystyried gyda golwg ar ail-redeg y broses allanoli ar gyfer trosglwyddo asedau Carchar a Llys Biwmares.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a'r sylwadau a wnaed. Roedd y mwyafrif o Aelodau'r Pwyllgor o blaid peidio â derbyn galw i mewn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith a hynny am eu bod yn fodlon mai’r opsiwn a gymeradwywyd oedd yr opsiwn mwyaf manteisiol yn ariannol i’r Cyngor Sir; bod prosesau wedi’u cynnal a’u dilyn yn briodol a bod trosglwyddo'r asedau i awdurdod cyhoeddus arall yn golygu bod y Carchar a'r Llys, fel asedau treftadaeth a thwristiaeth gwerthfawr, yn parhau ym mherchenogaeth gyhoeddus yn eu cymunedau. Wrth ddod i’r casgliad hwn bu i’r Pwyllgor hefyd geisio sicrwydd/eglurhad ynghylch rhai materion penodol mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

 

    Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid gwrthod galw i mewn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith i mewn      perthynas â throsglwyddo Carchar a Llys Biwmares i Gyngor Tref Biwmares. Yn y bleidlais ddilynol, cafodd y cynnig ei gario gan y mwyafrif o Aelodau'r Pwyllgor.

 

Penderfynwyd gwrthod galw i mewn benderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2017 mewn perthynas â throsglwyddo Carchar a Llys Biwmares i Gyngor Tref Biwmares am y rhesymau a roddwyd.

 

Felly daw penderfyniad y Pwyllgor Gwaith i rym yn syth.