Eitem Rhaglen

Cofrestr Risg Corfforaethol

Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i ystyriaeth y Pwyllgor adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn crynhoi’r cynnydd a wnaed gyda gweithredu’r Fframwaith Rheoleiddio Risg ynghyd â Chofrestr Risg Gorfforaethol newydd fel Atodiad A i’r adroddiad.

 

Roedd yr Uwch Ymgynghorydd Ariannol am atgoffa’r Pwyllgor bod y Strategaeth Rheoli Risg a’r Cyfarwyddyd wedi eu cymeradwyo a bod hyfforddiant ar y testun wedi ei ddarparu ac mai’r unig agwedd oedd yn parhau ar ôl oedd darparu diweddariad i’r Gofrestr Risg.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r gwaith a wnaed hyd yn hyn yn cynnwys adolygiad gan Dim Uwch Arweinyddiaeth yr Awdurdod o ddiffiniadau’r risg, sbardunau a lefelau risg a hefyd nodi’r pum prif risg oedd yn wynebu’r Cyngor fel oedd i’w weld ym mharagraff 3.3 yr adroddiad.  Roedd y Gofrestr Risg Gorfforaethol yn nodi nifer o feysydd risg eraill yn ychwanegol i’r pump uchaf a bydd y matrics yn cael ei gwblhau unwaith y bydd y mesurau rheoli ychwanegol/triniaethau sydd eu hangen o ran gweithredu, swyddog(ion) cyfrifol a dyddiad targed wedi eu penderfynu a’u diffinio.  Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) y byddai diweddariad pellach yn cael ei ddarparu i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Archwilio.

Ystyriodd Aelodau’r Pwyllgor gynnwys yr adroddiad a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol oedd ynghyd ag ef a gwnaethpwyd sylwadau ar y materion canlynol a/neu ceisiwyd cael eglurhad pellach –

 

·         Y meini prawf a ddefnyddiwyd i benderfynu beth oedd pum prif risg y Cyngor.

·         A oedd yn cael ei ystyried bod risg YM36 oedd yn cael ei diffinio fel methiant i gynllunio ar gyfer effaith diwygio’r sector iechyd wedi ei gyfyngu yn bennaf i’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu a fyddai ei effaith yn fwy eang ar draws gwasanaethau’r Cyngor.

·         Y sail dros beidio cynnwys risg YM23 (methiant i weithredu cynnwys y cynllun arolygu ôl Estyn a gwella perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol), fel un o brif risgiau’r Cyngor o ystyried  termau disgrifio  canlyniad y methiant hwn yn y Gofrestr Risg.  Roedd teimlad bod peidio â chynnwys y risg hon ymysg y pump uchaf yn tynnu’n groes i’r hyn oedd yn cael ei ddweud yn y Gofrestr ynglyn â difrifoldeb y canlyniadau.

·         Ategwyd mai canlyniad nifer o’r meysydd risg fyddai’r posibilrwydd o niweidio enw da.  Awgrymwyd bod y potential o weld niwed i enw da ymhlyg ym mhopeth ac nid oes angen ei ailddweud ac yn fwy na hynny, fe ymddengys fod y cyfeiriadau yn rhai ar hap.  Awgrymwyd bod angen lleihau’r cyfeiriadau at niwed i enw da o fewn y Gofrestr.

Ymatebodd y Swyddogion i’r cwestiynau a ofynnwyd trwy gynnig esboniadau fel oedd yn briodol.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol oedd ynghyd ag ef ac i nodi eu cynnwys.

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI

·         Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i gynnwys diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol fel eitem sefydlog ar raglen y Pwyllgor Archwilio ynghyd â chofnodion y Grŵp Rheoli Risg lle byddai hynny yn briodol.

·         Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i godi’r pwyntiau canlynol gyda’r Tîm Uwch Arweinyddiaeth:

·         Y methiant i gynnwys YM23 fel un o’r pum prif risg gorfforaethol fel rhywbeth oedd yn anghymarus gyda’r lefel risg a’r canlyniadau oedd yn cael eu disgrifio.

·         Lleihau’r cyfeiriadau at niwed i enw da’r Cyngor o fewn y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

·         Y Rheolwr Archwilio i drefnu i’r Pwyllgor dderbyn y Cynllun Gweithredu Datganiad Llywodraethu Blynyddol maes o law.

 

Dogfennau ategol: