Eitem Rhaglen

Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018/19

Cyflwyno adrtoddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, yn cynnwys y Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2018/19, ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi agwedd arfaethedig y Cyngor tuag at fuddsoddiadau a threfniadau benthyca presennol a’r rhai a ragwelir ar gyfer 2018/19.  

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 nad oes unrhyw newid sylweddol wedi bod yn y sefyllfa economaidd a gan fod y rhagolygon yn parhau i fod yn ansicr, bydd agwedd Rheoli Trysorlys y Cyngor yn parhau i fod yn seiliedig ar y canlynol - 

 

           Ni fydd y Cyngor yn benthyca mwy na’r hyn sydd ei angen arno er mwyn ceisio elwa o fuddsoddiad ar y symiau ychwanegol a fenthycir gan fod yr elw ar y buddsoddiadau yn debygol o fod yn is na’r gost o fenthyca.  

           Bydd y Cyngor yn cynnal ymagwedd hyblyg tuag at fenthyca mewnol ac allanol gan roi ystyriaeth i’r ffactorau a ddisgrifir yn adran 3.3.1 o’r strategaeth. Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn tan-fenthyca sy’n golygu nad yw’r angen benthyca cyfalaf (y Gofyniad Ariannu Cyfalaf) wedi ei ariannu’n llawn â dyled benthyciadau gan fod arian parod sy’n cefnogi arian wrth gefn y Cyngor, balansau a llif arian wedi ei ddefnyddio yn lle hynny. Mae hon yn ymagwedd synhwyrol gan fod adenillion ar fuddsoddiadau yn isel ac mae risg gwrth-barti yn fater sy’n parhau fod angen sylw. Bydd y Gofyniad Ariannu Cyfalaf (y rhagolygon o’r angen i fenthyca er mwyn ariannu’r rhaglen gyfalaf) ar ddiwedd y flwyddyn yn £138.1m gan olygu y bydd y Cyngor yn benthyca’n fewnol (defnyddio arian wrth gefn y Cyngor a’r balansau er mwyn helpu i ariannu’r rhaglen gyfalaf) £20.1M erbyn diwedd y flwyddyn. 

           Rhoddir ystyriaeth i ail-drefnu dyledion yn ogystal â’r potensial i wneud arbedion drwy redeg buddsoddiadau i lawr er mwyn talu dyledion yn gynnar. Yn ychwanegol at hynny, ble bo hynny’n bosibl, bydd y Cyngor yn osgoi benthyca newydd i ddisodli dyledion allanol sy’n aeddfedu a bydd yn defnyddio balansau ariannol yn lle hynny.

           Bydd blaenoriaethau buddsoddi’r Cyngor yn parhau i roi diogelwch yn gyntaf, hylifedd yn ail ac yna elw. Bydd y Cyngor yn buddsoddi â gwrthbartion yn unol â’r polisi credyd a nodir yn adran 4.2 o’r strategaeth.

           O ran diweddariadau i’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys, yr unig ddiwygiad arfaethedig i’r egwyddorion craidd a’r polisïau o Ddatganiad 2017/18 yw i ddiwygio’r Polisi Isafswm Arian wrth Gefn (MRP) er mwyn i’r gost MRP yn y dyfodol fod yn gyson ar gyfer benthyca â chymorth a benthyca heb gymorth ac mae’n seiliedig ar fywyd economaidd defnyddiol yr ased.

           Dim ond un newid arfaethedig sydd i Arferion Rheoli Trysorlys yr Awdurdod sef cynyddu isafswm y balansau arian parod o £6m i £6.5m

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol

 

           Nododd y Pwyllgor yr amrywiad rhwng y cyfraddau benthyca a’r cyfraddau buddsoddi. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad a oedd modd i’r Cyngor osod y swm y mae’n ei fenthyca yn erbyn yn swm mae wedi’i fuddsoddi er mwyn lleihau’r cyfalaf a fenthycwyd. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod mwyafrif y benthyciadau y bydd y Cyngor yn eu cymryd yn rhai ar gyfer symiau sefydlog, dros gyfnod sefydlog o amser gyda chyfradd llog sefydlog sy’n ei alluogi i gynllunio ar gyfer y tymor hir ac sy’n rhoi sicrwydd yn erbyn anwadalwch. O ganlyniad i’r cyfraddau llog isel presennol, yr hyn y mae’r Cyngor yn ei ffafrio yw sicrhau cyfraddau llog isel er lles y Cyngor. 

           Gofynodd y Pwyllgor am gadarnhad o ran ba bwynt yr ystyrir y bydd yn ymarferol i’r Cyngor gynyddu benthyca. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ei fod yn dibynnu ar y gwahaniaeth rhwng y swm sydd wedi’i fenthyca a’r adenillion ar y buddsoddiad. Mae ffactorau eraill a gymerir i ystyriaeth yn cynnwys y balansau arian parod sydd gan y Cyngor ar unrhyw adeg benodol sy’n dylanwadu ar amseriad y benthyca. Tra bo’n rhaid i’r Cyngor sicrhau fod ganddo ddigon o arian parod i fodloni gwahano ofynion, nid yw’n dymuno cael gormodedd o arian parod heb unrhyw le i’w fuddsoddi. 

           Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad a yw’r Cyngor yn ystyried y ffactor Disgownt Llif Arian wrth ymgymryd â phrosiectau h.y. y syniad bod swm o arian sydd i’w dalu yn y dyfodol yn werth llai heddiw na phetai’r un swm o arian yn cael ei dalu heddiw. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y byddai’r cyfrifiad yn cael ei wneud ar gyfer unrhyw brosiectau sy’n cael eu hariannu drwy fenthyciadau di-gefnogaeth. Mae’n rhaid i’r Cyngor hefyd ystyried y cyfrifiad MRP gan fod y gost MRP yn effeithio ar y gyllideb refeniw.  

 

Penderfynwyd

 

           Nodi cynnwys yr adroddiad

           Cadarnhau’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys (yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus a Rheoli Trysorlys) [Atodiad A] ar gyfer 2018/19.

           I anfon y Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2018/19 ymlaen at y Pwyllgor Gwaith heb unrhyw sylwadau pellach.

           Cymeradwyo’r newidiadau yn y Cynllun Rheoli Trysorlys, cynyddu’r isafswm balansau arian parod o £6m i £6.5m er mwyn adlewyrchu’r cynnydd yn y balans arian wrth gefn cyffredinol. 

 

NI CHYNIGWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: