Eitem Rhaglen

Y Gyllideb ar gyfer 2018/19 a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canol

a)      Cyllideb Refeniw 2018/19

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Chwefror, 2018.

 

b)      Cyllideb Gyfalaf 2018/19

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i diwygiwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Chwefror, 2018.

 

c)      Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2018/19

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Chwefror, 2018.

 

ch)    Gosod y Dreth Gyngor

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

d)      Diwygio’r Gyllideb

 

Cyflwyno’r gwelliant canlynol i gynigion y Gyllideb gan Grŵp Annibynnwyr Môn, yn dilyn derbyn rhybudd yn unol á Pharagraff 4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad fel a ganlyn:-

 

“Hoffai Grŵp Annibynnwyr Môn gynnig cynnydd o 3.8% i’r Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn 2018/19.

 

Mae 0.8% o’r cynnydd hwn i’w glustnodi ar gyfer cyllideb ysgolion.

Mae 0.2% i’w glustnodi ar gyfer cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau plant.

 

Bydd y gwelliant hwn yn cael ei gydbwyso drwy gymryd £400,000 o’r arian wrth gefn”.

 

(Sylwer: Mae angen ystyried y cyfan o’r papurau uchod fel un pecyn).

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Cyllid gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf 2018/19, y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a gosod y Dreth Gyngor fel y gwelir yn 8 (a) i (ch) yn y Rhaglen. Dymunai ddiolch i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a'i staff am eu gwaith yn paratoi'r gyllideb ac i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Panel Sgriwtini Cyllid ac i'r holl Aelodau Etholedig a oedd wedi mynychu nifer o seminarau a chyfarfodydd ymgynghori lleol sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r gyllideb.

 

Tra'n wynebu cyfrifoldebau newydd a chostau cynyddol ar draws gwasanaethau'r Cyngor, bydd y cynnydd arfaethedig o 4.8% yn y Dreth Gyngor yn sicrhau y gall yr Awdurdod gynnal cyllideb gadarn i ddiogelu gwasanaethau rhag wynebu toriadau mwy difrifol yn y dyfodol. Yr un modd â'r rhan fwyaf o awdurdodau yng Nghymru, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau cynyddol yn y Gwasanaethau Plant a bydd cynnydd o 0.8% yn y Dreth Gyngor yn cael ei glustnodi o fewn y gyllideb i fodloni'r galw cynyddol yn y gwasanaeth arbennig hwn.  Mynegodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Treth Gyngor yr Awdurdod ymysg yr isaf yng Nghymru. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod hi'n gwerthfawrogi ymrwymiad yr Aelodau i gyflawni'r gyllideb arfaethedig hon sydd gerbron y Cyngor.   Dywedodd ei bod hi, fel Arweinydd, wedi bod yn ymgynghori'n helaeth ar y cynnig cyllidebol.  Credai y bydd y gyllideb yn galluogi'r Cyngor i ddiogelu gwasanaethau i bobl Ynys Môn.  Dymuna'r Arweinydd ddiolch i bob Prif Swyddog a Phennaeth Gwasanaeth am eu hymrwymiad i gyflawni'r gyllideb hon sydd wedi bod yn heriol.

 

Dywedodd y Cynghorydd GO Jones ei fod, yn ystod y broses gychwynnol cynigion cyllidebol ym mis Tachwedd 2017, wedi mynychu’r ymgynghoriad ar y gyllideb yn Ysgol Uwchradd Bodedern a mynegwyd gwerthfawrogiad ynglŷn â'r wybodaeth a roddwyd i'r bobl ifanc a fynychodd y sesiwn.  Roedd yn gwerthfawrogi bod y grŵp sy’n rheoli wedi gwrando ar y sylwadau a wnaed gan y cyhoedd mewn perthynas â'r gyllideb gyda dros 700 o sylwadau wedi dod i law.  Roedd yn falch bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu yn erbyn torri'r cyllidebau ar gyfer addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol a bod angen cefnogi'r gwasanaethau hyn.  Mynegodd y Cynghorydd Jones ei werthfawrogiad i'r Pwyllgor Gwaith na fydd unrhyw gynnydd yn y ffi i blant deithio i ysgolion / coleg na thoriadau ychwaith i’r gyllideb ar gyfer cynnal adeiladau ysgolion.  Mynegodd ei werthfawrogiad ymhellach nad yw'r Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu cau'r ceginau mewn cartrefi preswyl sy'n eiddo i'r Cyngor.  Holodd y Cynghorydd Jones ynghylch y grantiau a dderbyniwyd fel rhan o’r setliad ariannol llywodraeth leol mewn perthynas ag ailgylchu ac addysg.  Ymatebodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo gan nodi bod rhan helaeth o'r grant ailgylchu wedi trosglwyddo i'r setliad gyda thoriad sylweddol yn cael ei wneud yn y gweddill y bydd ac y bydd yn rhaid i'r Cyngor yn awr ei ariannu o'r gyllideb graidd. Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio Addysg nad oedd unrhyw grantiau addysg wedi trosglwyddo i'r setliad.

 

(d) Diwygio’r Gyllideb

 

Derbyniwyd y gwelliant a ganlyn i'r Gyllideb a gynigiwyd gan Grŵp Annibynnol Ynys Môn ac y cafwyd rhybudd yn ei gylch dan Baragraff 4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad fel a ganlyn: -

 

"Byddai Grŵp Annibynnol Ynys Môn yn dymuno cynnig cynnydd o 3.8% yn y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.

 

0.8% o'r cynnydd hwn i gael ei neilltuo ar gyfer cyllidebau’r ysgolion;

0.2% i'w neilltuo fel arian ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau plant.

 

Bydd y gwelliant hwn yn cael ei gydbwyso trwy gymryd £400,000 ychwanegol o'r cronfeydd wrth gefn. "

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen, er y derbynnir bod Treth Gyngor Ynys Môn ymlith yr isaf yng Nghymru, mae’r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn Ynys Môn dros y 6 mlynedd diwethaf wedi bod ddwywaith lefel chwyddiant.  Mae'r ffioedd ar gyfer clybiau brecwast ysgolion, bysus i ysgolion / colegau, ffioedd parcio a mynediad i ganolfannau hamdden hefyd wedi cynyddu dros y blynyddoedd.  Dywedodd ei fod hefyd yn pryderu am fusnesau lleol ar strydoedd mawr yr Ynys sy’n gorfod wynebu cynnydd blynyddol yn eu trethi busnes.  Roedd o'r farn y gellir cyflawni lefel y Dreth Gyngor gyda chynnydd o 3.8%.  Roedd yr Wrth-blaid hefyd wedi mynychu'r broses ymgynghori ar y Gyllideb ac roedd mwyafrif trigolion Ynys Môn am ddiogelu'r gyllideb addysg er mwyn cynnal yr addysg orau i'w plant.    Dywedodd y Cynghorydd Owen ymhellach fod cronfeydd wrth gefn ariannol Ynys Môn yn £6.5m ac y byddai cymryd £400k o'r cronfeydd wrth gefn hyn yn golygu y byddai modd gostwng gan 1% y cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer trigolion yr Ynys. Byddai gwelliant Grŵp yr Wrth-blaid i'r gyllideb yn caniatáu 0.8% ar gyfer cyllideb yr ysgolion a 0.2% ar gyfer y gwasanaethau plant.  Dywedodd fod angen cyfnod o atgyfnerthu ar y Gwasanaethau Plant yn dilyn y buddsoddiad sylweddol ynddynt yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bryan Owen at y refeniw o dros £900k a gafwyd o ganlyniad i’r premiwm o 25% ar eiddo sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir/ail gartrefi a gyflwynwyd o fis Ebrill 2017; dim ond £170k sydd wedi'i ddyrannu i gynorthwyo prynwyr tro cyntaf.  Dywedodd fod £730k wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant cyffredinol y Cyngor ar gyfer 2017/18 ond bod proses weinyddol y Cyngor wedi gorwario £1.7m ar y gyllideb.  Gofynnodd a yw'r cynnydd yn aelodaeth y Pwyllgor Gwaith yn effeithlon oherwydd y gorwariant hwn yn y gyllideb. 

 

Eiliodd y Cynghorydd R Ll Jones y gwelliant i'r gyllideb gan Grŵp yr Wrth-blaid.

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod cronfeydd wrth gefn y Cyngor ar gyfer digwyddiadau annisgwyl a all ddigwydd, megis y tywydd eithafol a gafwyd ddiwedd y llynedd.  Cyfeiriodd at y cyllidebau blaenorol pan oedd digartrefedd yn broblem a defnyddiwyd cronfeydd wrth gefn i fynd i’r afael â’r mater hwnnw.  Cyfeiriodd ymhellach at y pwysau ar Wasanaethau Plant y Cyngor gyda chynnydd o 80% yn nifer y plant sy’n derbyn gofal ar Ynys Môn ac fel yr adroddwyd i’r Panel Sgriwtini Plant a'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.  Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn dymuno diogelu pobl fregus yn y gymdeithas ac mae’n dod yn fwyfwy anodd a heriol i'r Awdurdod hwn osod cyllideb gyfrifol er mwyn sicrhau y gellir cyflawni hynny yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd KP Hughes, oherwydd toriadau gan Lywodraeth Cymru i'r gyllideb, nad oes gan y Cyngor unrhyw opsiynau ond i gynyddu'r Dreth Gyngor ar gyfer trigolion yr Ynys.  Tra'n derbyn bod yn rhaid i'r Cyngor ddiogelu gwasanaethau statudol, mae'n bwysig bod y Cyngor yn Awdurdod effeithiol.  Gofynnodd pam mae'r Awdurdod yn gwario cymaint ar Ymgynghorwyr i wneud gwaith ar ran y Cyngor.  Dywedodd fod llawer o'r etholwyr yn dweud mai’r unig wasanaeth y maent yn ei dderbyn gan y Cyngor yw gwagio eu biniau.  Mae Grŵp yr Wrth-blaid wedi cyflwyno cynnig diwygiedig ar gyfer cyllideb y Cyngor sy'n ymarferol ac sy’n sicrhau bod y bobl yn cael gwerth am arian gan yr Awdurdod hwn. Dywedodd y Cynghorydd Hughes ymhellach nad oes unrhyw sôn am y refeniw ychwanegol o £250k o incwm rhent y mân-ddaliadau a’r premiwm ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnod maith / ail gartrefi. 

 

Ategodd y Cynghorydd R Ll Jones y sylwadau a wnaed gan Aelodau Grŵp yr Wrth-blaid mewn perthynas â'r newidiadau i'r gyllideb a chynnydd o 3.8% yn y  Dreth Gyngor – cynnydd a dderbyniwyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fel un ymarferol ar sail y ffigurau a ddangoswyd gan Grŵp yr Wrth-blaid.  Dywedodd mai dim ond 40% o'r gyllideb gyfalaf a wariwyd a bod miliynau o bunnoedd heb eu gwario; gellid gwario'r arian hwn i leihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor. Dywedodd y Cynghorydd Jones ymhellach fod incwm wedi dod i law o'r stad mân-ddaliadau a’r ardoll ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnod maith / ail gartrefi.  Mae trosglwyddo Carchar Biwmares i'r Cyngor Tref wedi arwain at golli £30k mewn refeniw o'r maes parcio yn y dref am y 5 mlynedd nesaf.  Praesept Cyngor Tref Biwmares i'r trigolion yw £28 o gymharu â phraesept Cyngor Tref Caergybi sy’n £109. Mae Cyngor Tref Caergybi wedi cymryd drosodd y parc yn y dref heb unrhyw gymorth ariannol. Dywedodd ymhellach fod y Cyngor yn talu symiau helaeth i Ymgynghorwyr a Staff Asiantaeth i wneud gwaith ar ran yr Awdurdod. 

 

Ymatebodd yr Aelod Portffolio Cyllid i'r cynnig gan Grŵp yr Wrth-blaid i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn i leihau'r cynnydd y Dreth Gyngor a dywedodd y bydd y cronfeydd wrth gefn ar 31 Mawrth, 2018 yn £6.5m, sef y lefel isaf a argymhellir gan y Swyddog Adran 151.  Er bod y gyllideb ar gyfer 2018/19 yn darparu mwy o gyllid ar gyfer y Gwasanaethau Plant, mae'r Cyngor yn wynebu risg o orwariant pellach yn gysylltiedig â'r gwasanaeth penodol hwn ac mae’n bosib y cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn gostwng ymhellach o’r herwydd.   Byddai'r cynnig gan Grŵp yr Wrth-blaid i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i leihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor i 3.8%, yn golygu y byddai'n rhaid i'r broses gyllidebol ar gyfer 2019/20 ddechrau dod o hyd i arbedion o £400k ar ben y £3m sydd ei angen yn ystod y flwyddyn honno.  Dywedodd ymhellach fod Llywodraeth Cymru wedi rhagweld y bydd gostyngiad pellach o 1.5% yn y grantiau sydd ar gael i awdurdodau lleol yn 2019/20.  Disgwylir i'r cynnig tâl llywodraeth leol fod tua 3% eleni a bydd hynny’n rhoi pwysau pellach ar awdurdodau lleol.  Fel Aelod Portffolio Cyllid, roedd y Cynghorydd John Griffiths o'r farn y bydd pwysau pellach i wneud arbedion yn y gyllideb ar gyfer 2019/20 a’i bod yn llawer gwell edrych i’r tymor hwy a chynyddu'r Dreth Gyngor ar lefel sy'n gynaliadwy ac i warchod y cronfeydd wrth gefn ar y lefel ddisgwyliedig.  

 

Holodd y Cynghorydd Nicola Roberts ynghylch yr awgrym a wnaed gan Grŵp yr Wrth-blaid fod cynnydd o 3.8% yn y Dreth Gyngor yn gynaliadwy ac yn cael ei gefnogi gan Swyddogion yn y Cyngor ac y byddai'n ymarferol defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol i gadw lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor i 3.8%. Ymatebodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 drwy ddweud fod Grŵp yr Wrth-blaid wedi gofyn a oedd y cynnydd o 3.8% yn ymarferol o fewn rheolau cyllidebol y Cyngor a dywedodd bod hynny’n cydymffurfio â rheolau'r gyllideb ac y gellir defnyddio arian wrth gefn os mai dyna yw dymuniad y Cyngor.  Holodd y Cynghorydd Nicola Roberts ymhellach a yw'n risg i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol neu a yw'n fwy synhwyrol i’r Cyngor gynnal y lefel bresennol o arian wrth gefn.  Atebodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod ei adroddiad i'r Cyngor yn amlinellu lefel y cronfeydd wrth gefn cyffredinol sy'n ofynnol, sy’n cyfateb i £ 6.5m, sef 5% o gyllideb net y Cyngor.  Fodd bynnag, efallai y bydd lefel y balansau cyffredinol yn is na'r hyn a nodwyd ond dros y tymor canol, dyma’r  lefel isaf o falansau wrth gefn a ddylai fod gan yr Awdurdod.  Rhoddodd y Swyddog y prif enghreifftiau o bwysau annisgwyl ar gyllideb y Cyngor, sef gorwariant yn y Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaeth Addysg ynghyd â'r difrod a gafwyd yn ystod y llifogydd eithafol ar yr Ynys ym mis Tachwedd y llynedd.  Mae angen i'r Cyngor gael cynllun wrth gefn ar waith i sicrhau bod yr Awdurdod yn gallu gweithredu'n effeithlon o fewn yr adnoddau sydd ar gael ac i allu fforddio gwasanaethau er lles pobl Ynys Môn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond, er mai gweledigaeth y Cyngor hwn yw rhedeg yr Awdurdod fel busnes, mae'n anffodus nad oes unrhyw gystadleuaeth o ffynonellau eraill ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.  Os yw awdurdodau lleol i redeg eu Cynghorau fel busnes, byddai busnes preifat yn edrych ar ei gostau mewnol yn hytrach na chynyddu’r costau i'w cwsmeriaid.  Mae bil Pensiwn Llywodraeth Leol yr awdurdod hwn yn aruthrol ac mae'n rhaid i'r Awdurdod barhau i gyfrannu at y gronfa bensiwn; mae busnesau preifat bellach yn gwrthod i weithwyr newydd gael mynediad i gronfeydd pensiwn. Roedd o'r farn y dylai'r Awdurdod hwn ddilyn yr un fath o system â'r sector preifat.  Dywedodd ymhellach fod angen adolygu nifer y Cymorthyddion Dosbarth y mae'r Awdurdod yn eu cyflogi.  Dywedodd y Cynghorydd Redmond, fel aelod etholedig yn ardal Caergybi, fod y trigolion y mae ef yn eu cynrychioli yn pryderu ynghylch y cynnydd parhaus yn y Dreth Gyngor am y gwasanaethau a gânt. Gofynnodd pam nad yw'r Awdurdod yn herio llywodraeth ganolog o ran y toriadau parhaus yn y setliadau i lywodraeth leol a disgwyl i drethdalwyr wynebu cynnydd blynyddol yn eu Treth Gyngor.  Dywedodd y Cynghorydd Redmond fod y 700 o bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y gyllideb eleni wedi mynegi eu dymuniad i ddiogelu'r gyllideb addysg; nid oedd unrhyw sôn am gyllideb y Gwasanaethau Plant.  Ategodd sylwadau ei gyd-aelodau yng Ngrŵp yr Wrth-blaid o ran trosglwyddo Carchar a Llys Biwmares i Gyngor Tref Biwmares sydd â'r praesept isaf yn ardal yr awdurdod cyfan.  Mae Cyngor Tref Caergybi hefyd wedi cymryd drosodd wasanaethau ac adeiladau gan yr Awdurdod hwn ond mae nhw'n gorfod cynyddu'r praesept i drigolion Caergybi gan £114.  Dywedodd fod nifer o siopau yng Nghaergybi bellach yn cael eu defnyddio ond nid oes angen talu trethi busnes am y deuddeg mis cyntaf ac wedi hynny, byddant yn symud i eiddo gwag erall lle na fydd angen talu trethi busnes am flwyddyn arall. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod yn dymuno ymateb i'r sylwadau a wnaed gan ei gyd-Gynghorydd o ran y cynllun pensiwn llywodraeth leol a gofynnodd sut yr oedd ef yn ystyried y gallai'r Awdurdod hwn roi'r gorau i dalu i mewn i gynllun pensiwn llywodraeth leol cenedlaethol a thynnu buddion o'r fath yn ôl.  Dywedodd ymhellach nad oedd yn gyfforddus gorfod pleidleisio i gynyddu'r Dreth Gyngor ond rhoddodd enghraifft, sef pan mae plentyn mewn gofal aciwt, y gost i'r Awdurdod yw £250k. Byddai rhoi dau blentyn mewn gofal yn cyfateb i fwy na'r £ 400k y mae Grŵp yr Wrth-blaid yn argymell y dylid ei dynnu o’r arian wrth gefn a byddai’r arian hwnnw yn diflannu. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers fod gan yr awdurdod hwn lawer iawn o asedau a bod angen iddo greu incwm o'r cyfleusterau hyn.  Dywedodd bod angen diogleu pobl fregus a threthdalwyr Ynys Môn rhag y cynnydd parhaus yn y Dreth y Cyngor; bydd cyflwyno’r system Credyd Cynhwysol hefyd yn cael effaith ar y bobl hyn.  Cyfeiriodd at y llifogydd eithafol a ddigwyddodd ar yr Ynys ar ddiwedd y flwyddyn a'r baich a roddwyd ar bobl sy'n gorfod talu am y difrod i'w cartrefi.      

 

Cadarnhaodd Arweinydd yr Wrth-blaid y newid y mae’r Grŵp yn dymuno ei wneud i’r gyllideb, sef cymryd £400k o’r arian wrth gefn y Cyngor i sicrhau codiad o 3.8% yn y Dreth Gyngor. Os bydd cynnig y Grŵp sy’n arwain i gynnydd o 4.8% yn y Dreth Gyngor yn cael ei weithredu, gallai hynny olygu bod siopau lleol ar strydoedd mawr yr ynys yn gorfod cau a bod teuluoedd yn cael anhawster i dalu am bethau sylfaenol.  Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y newid i’r gyllideb fel y’i nodwyd. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R Ll Jones.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod nifer o wasanaethau’r Cyngor yn wynebu pwysau cynyddol ar adeg pan mae llai o adnoddau ac ymhlith y rheini, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gofalu am y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.  

 

Cynigiodd yr Aelod Portffolio Cyllid y gyllideb i’r Cyngor ynghyd â’r argymhellion yn yr adroddiadau. Fe eiliwyd ei gynnig gan yr Arweinydd.

 

Yn unol â pharagraff 4.1.18.4 y Cyfansoddiad, gofynnodd yr Wrth-blaid am gael cofnodi’r bleidlais ar y cynnig arfaethedig. Ni chafwyd y nifer ofynnol o aelodau i ofyn am bleidlais wedi ei chofnodi. 

 

Yn y bleidlais ddilynol, PENDERFYNWYD:-  

 

·Derbyn y cynigion cyllidebol a’r Strategaeth Rheoli Trysorlys fel y’u cyflwynwyd ar gyfer 2017/18;

 

·      Derbyn y penderfyniad drafft mewn perthynas â’r Dreth Gyngor fel yr ymddengys yn (ch) yn y Rhaglen:-

 

PENDERFYNWYD

 

  (a)   Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, i fabwysiadu’r Cynllun Ariannol Tymor Canol yn Adran 12 Cynllun Ariannol Tymor Canol ac Adran 13 y Gyllideb 2018/19, fel Strategaeth Cyllideb oddi mewn i ystyr a roddir yn y Cyfansoddiad, ac i gadarnhau y daw’n rhan o’r fframwaith cyllidebol gyda’r eithriad o’r ffigyrau a ddisgrifir fel rhai cyfredol.

 

(b)   Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, i fabwysiadu cyllideb refeniw 2018/19 fel y gwelir honno yn Atodiad 4 Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r Gyllideb 2018/19.

 

(c)   Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, i fabwysiadu cyllideb cyfalaf fel y gwelir hwnnw yn yr adroddiad  Cyllideb Cyfalaf 2018/19.

 

(ch) Dirprwyo i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) y pŵer i wneud addasiadau rhwng penawdau yn Atodiad 4 Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r Gyllideb 2018/19 er mwyn rhoi effaith i benderfyniadau'r Cyngor.

 

         (d)      Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith, ym mlwyddyn ariannol 2018/19, y pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng penawdau fel a ganlyn:-

 

                   (i)      pwerau dilyffethair i wario pob pennawd cyllidebol unigol yn Atodiad 4 Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r Gyllideb 2018/19 yn erbyn pob gwasanaeth unigol, ar y gwasanaeth perthnasol;

 

                   (ii)     pwerau i gymeradwyo’r defnydd o’r arian wrth gefn clustnodedig  a rhai gwasanaeth i gyllido cynigion gwariant unwaith-ac-am-byth sy’n cyfrannu tuag at gyflawni amcanion y Cyngor a gwella gwasanaethau;

 

                   (iii)    pwerau i drosglwyddo o’r ffynonellau incwm newydd neu uwch.

 

         (dd)    Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith, mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol 2018/19 ac ar gyngor y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau), y pŵer i ryddhau hyd at £500k o falansau cyffredinol i ddelio gyda blaenoriaethau yn codi yn ystod y flwyddyn.

 

         (e)      Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith, mewn perthynas â’r cyfnod hyd at 31 Mawrth 2019, y pwerau a ganlyn:-

 

(i)      pwerau i wneud ymrwymiadau newydd o gyllidebau refeniw y dyfodol hyd at  y symiau a nodir ar gyfer blaenoriaethau newydd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol;

 

(ii)     y pwerau a’r ddyletswydd i baratoi cynlluniau i gyflawni arbedion cyllidebol refeniw fel yr awgrymir yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol;

 

(iii)    pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng  prosiectau cyfalaf yn yr adroddiad Cyllideb Cyfalaf 2018/19 ac ymrwymo adnoddau yn y blynyddoedd dilynol gan gydymffurfio gyda’r fframwaith cyllidebol.

 

(f)       Pennu a chymeradwyo’r dangosyddion pwyllog a rhai’r trysorlys sy'n amcangyfrifon a therfynnau am 2018/19 ymlaen fel sy'n ymddangos yn yr  adroddiad Datganiad ar Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2018/19.

 

(ff)      Cymeradwyo’r Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys am 2018/19.

 

(g)      Cadarnhau y bydd eitemau 1(b) i (ff) yn dod yn rhan o’r fframwaith cyllidebol.

 

2.       PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2018/19 benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 1998, bod y Cyngor Sir yn pennu lefel y disgownt sy'n gymwys i'r Dosbarth penodedig A a Dosbarth penodedig B o anheddau dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998, fel a ganlyn:-

 

         Dosbarth Penodedig A     Dim Disgownt

         Dosbarth Penodedig B     Dim Disgownt

 

3.       PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2018/19, benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2007 bod y Cyngor Sir yn pennu lefel disgownt sy'n gymwys i Ddosbarth penodedig C o anheddau dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor) a'r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004, fel a ganlyn:-

                       

         Dosbarth Penodedig C     Dim Disgownt

 

4.       PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2018/19, benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2016 i ddatgymhwyso unrhyw ddisgownt(iau) a roddwyd i anheddau gwag hirdymor ac anheddau â breswylir yn gyfnodol (a elwir fel arfer yn ail gartrefi) a gosod swm uwch o’r Dreth Gyngor (a elwir yn Premiwm y Dreth Gyngor) o 25% o raddfa safonol y Dreth Gyngor ar gyfer anheddau gwag hirdymor ac anheddau â breswylir yn gyfnodol (a elwir fel arfer yn ail gartrefi) dan Adrannau 12A a 12B Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 fel y’i mewnosodwyd gan Adain 139 Deddf Tai (Cymru) 2014.

 

5.       Nodi fod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 1996 wedi penderfynu na fydd yn trin unrhyw gostau yr aiff y Cyngor iddynt mewn rhan o'i ardal nac wrth gyfarfod unrhyw ardoll neu ardoll arbennig fel costau arbennig a bod y penderfyniadau i barhau mewn grym hyd oni fyddant yn cael ei diddymu'n benodol.

 

6.       Y dylid nodi bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2017 wedi cymeradwyo’r symiau a glandrwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn fel sail y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19 a nodi ymhellach bod y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr 2017 wedi cymeradwyo y bydd y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn lleol yn parhau fel y mae am 2018/19. Nodwyd hefyd fod y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 2018 wedi mabwysiadu a chymeradwyo Polisi Dewisol Dreth Gyngor lleol dan Adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

7.       Yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2017, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith, yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor)(Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y’i diwygiwyd gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau)(Cymru)(Diwygiad) 2004, a’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor)(Cymru)(Diwygiad) 2016, gymeradwyo’r symiau a glandrwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn fel ei sail dreth ac ar gyfer rhannau o’r ardal, am y flwyddyn 2018/19, fel a ganlyn:-

 

a)         30,773.31 yw'r swm a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith fel sail y dreth gyngor Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn.

 

b)         Y rhannau o ardal y Cyngor, sef y symiau a glandrwyd gan y Pwyllgor Gwaith fel y sail ar gyfer dreth gyngor Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o’i ardal lle mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol, yw fel a ganlyn:-

 

 

 

 

 

Amlwch

1,474.10

 

Biwmares

1,061.76

 

Caergybi

3,847.36

 

Llangefni

1,920.50

 

Porthaethwy

1,406.50

 

Llanddaniel-fab

367.43

 

Llanddona

373.78

 

Cwm Cadnant

1,163.31

 

Llanfair Pwllgwyngyll

1,300.75

 

Llanfihangel Ysgeifiog

683.71

 

Bodorgan

451.48

 

Llangoed

650.28

 

Llangristiolus a Cherrig Ceinwen

607.78

 

Llanidan

410.02

 

Rhosyr

989.60

 

Penmynydd

238.97

 

Pentraeth

555.87

 

Moelfre

617.45

 

Llanbadrig

660.71

 

Llanddyfnan

499.45

 

Llaneilian

553.29

 

Llannerch-y-medd

521.77

 

Llaneugrad

180.08

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

1,802.82

 

Cylch y Garn

396.33

 

Mechell

538.24

 

Rhos-y-bol

474.13

 

Aberffraw

292.45

 

Bodedern

426.29

 

Bodffordd

417.41

 

Trearddur

1,274.47

 

Tref Alaw

251.64

 

Llanfachraeth

222.77

 

Llanfaelog

1,259.89

 

Llanfaethlu

284.08

 

Llanfair-yn-Neubwll

557.91

 

Y Fali

976.38

 

Bryngwran

353.35

 

Rhoscolyn

355.61

 

Trewalchmai

353.59

 

8.       Bod y symiau a ganlyn bellach yn cael eu pennu gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2018/19, yn unol ag Adrannau 32 i 36  Deddf Cyllid Llywodraeth Leol  1992:-

 

a)       £193,604,572         sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2) (a) i (d) y Ddeddf.

 

b)       £  61,398,373        sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3) (a) a (c) y Ddeddf.

 

c)       £132,206,199         sef y swm sy'n cyfateb i'r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 8(a) uchod a chyfanswm 8(b) uchod, a bennwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) y Ddeddf, yn gyllideb angenrheidiol ar gyfer y flwyddyn.

 

ch)       £95,811,837         sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i Gronfa'r Cyngor gyda golwg ar drethi annomestig a ail-ddosberthir, grant cynnal refeniw a grant arbennig, gan dynnu unrhyw swm a bennwyd yn unol ag Adran 33(3) y Ddeddf.

 

d)               £1,182.66        sef y swm yn 8(c) uchod llai'r swm yn 8(ch) uchod, gan rannu'r cyfan â'r swm a nodir yn 7(a) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, sef swm sylfaenol y dreth gyngor am y flwyddyn.

 

dd)         £1,306,243        sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) y Ddeddf.

 

e)               £1,140.21        sef y swm yn 8(d) uchod llai'r canlyniad a geir wrth rannu'r swm yn 8(dd) uchod â'r swm yn 7(a) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, sef swn sylfaenol y dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'r ardal lle na fo unrhyw eitem arbennig yn berthnasol.


 

          f)

Rhan o Ardal y Cyngor

D

 

Amlwch

£

1,202.67

 

Biwmares

£

1,166.94

 

Caergybi

£

1,255.05

 

Llangefni

£

1,213.20

 

Porthaethwy

£

1,204.29

 

Llanddaniel-fab

£

1,162.26

 

Llanddona

£

1,155.33

 

Cwm Cadnant

£

1,167.21

 

Llanfair Pwllgwyngyll

£

1,172.43

 

Llanfihangel Ysgeifiog

£

1,165.41

 

Bodorgan

£

1,159.20

 

Llangoed

£

1,156.50

 

Llangristiolus a Cherrig Ceinwen

£

1,153.35

 

Llanidan

£

1,162.17

 

Rhosyr

£

1,166.85

 

Penmynydd

£

1,166.31

 

Pentraeth

£

1,168.92

 

Moelfre

£

1,159.20

 

Llanbadrig

£

1,179.54

 

Llanddyfnan

£

1,153.98

 

Llaneilian

£

1,161.81

 

Llannerch-y-medd

£

1,164.60

 

Llaneugrad          

£

1,162.35

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

1,168.83

 

Cylch y Garn

£

1,156.86

 

Mechell

£

1,156.41

 

Rhos-y-bol

£

1,155.96

 

Aberffraw

£

1,165.86

 

Bodedern

£

1,163.61

 

Bodffordd            

£

1,160.37

 

Trearddur

£

1,165.59

 

Tref Alaw

£

1,164.51

 

Llanfachraeth

£

1,167.48

 

Llanfaelog

£

1,167.57

 

Llanfaethlu

£

1,160.37

 

Llanfair-yn-Neubwll

£

1,162.62

 

Y Fali

£

1,173.78

 

Bryngwran

£

1,168.20

 

Rhoscolyn

£

1,150.02

 

Trewalchmai

£

1,158.57

 

                        sef y symiau a geir trwy ychwanegu at y swm a geir yn 8(e) uchod, symiau'r eitem neu'r eitemau arbennig sy'n berthnasol i anheddau yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 8(b) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, sef symiau sylfaenol  y dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy'n berthnasol.


 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

          ff)

Rhan o Ardal y Cyngor

 

(ff)

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

 

Amlwch

£

801.78

935.41

1,069.04

1,202.67

1,469.93

1,737.19

2,004.45

2,405.34

2,806.23

 

 

Biwmares

£

777.96

907.62

1,037.28

1,166.94

1,426.26

1,685.58

1,944.90

2,333.88

2,722.86

 

 

Caergybi

£

836.70

976.15

1,115.60

1,255.05

1,533.95

1,812.85

2,091.75

2,510.10

2,928.45

 

 

Llangefni

£

808.80

943.60

1,078.40

1,213.20

1,482.80

1,752.40

2,022.00

2,426.40

2,830.80

 

 

Porthaethwy

£

802.86

936.67

1,070.48

1,204.29

1,471.91

1,739.53

2,007.15

2,408.58

2,810.01

 

 

Llanddaniel-fab

£

774.84

903.98

1,033.12

1,162.26

1,420.54

1,678.82

1,937.10

2,324.52

2,711.94

 

 

Llanddona

£

770.22

898.59

1,026.96

1,155.33

1,412.07

1,668.81

1,925.55

2,310.66

2,695.77

 

 

Cwm Cadnant

£

778.14

907.83

1,037.52

1,167.21

1,426.59

1,685.97

1,945.35

2,334.42

2,723.49

 

 

Llanfair Pwllgwyngyll

£

781.62

911.89

1,042.16

1,172.43

1,432.97

1,693.51

1,954.05

2,344.86

2,735.67

 

 

Llanfihangel Ysgeifiog

£

776.94

906.43

1,035.92

1,165.41

1,424.39

1,683.37

1,942.35

2,330.82

2,719.29

 

 

Bodorgan

£

772.80

901.60

1,030.40

1,159.20

1,416.80

1,674.40

1,932.00

2,318.40

2,704.80

 

 

Llangoed

£

771.00

899.50

1,028.00

1,156.50

1,413.50

1,670.50

1,927.50

2,313.00

2,698.50

 

 

Llangristiolus a Cherrig Ceinwen

£

768.90

897.05

1,025.20

1,153.35

1,409.65

1,665.95

1,922.25

2,306.70

2,691.15

 

 

Llanidan

£

         774.78

903.91

1,033.04

1,162.17

1,420.43

1,678.69

1,936.95

2,324.34

2,711.73

 

 

Rhosyr

£

777.90

907.55

1,037.20

1,166.85

1,426.15

1,685.45

1,944.75

2,333.70

2,722.65

 

 

Penmynydd

£

777.54

907.13

1,036.72

1,166.31

1,425.49

1,684.67

1,943.85

2,332.62

2,721.39

 

 

Pentraeth

£

779.28

909.16

1,039.04

1,168.92

1,428.68

1,688.44

1,948.20

2,337.84

2,727.48

 

 

Moelfre

£

772.80

901.60

1,030.40

1,159.20

1,416.80

1,674.40

1,932.00

2,318.40

2,704.80

 

 

Llanbadrig

£

786.36

917.42

1,048.48

1,179.54

1,441.66

1,703.78

1,965.90

2,359.08

2,752.26

 

 

Llanddyfnan

£

769.32

897.54

1,025.76

1,153.98

1,410.42

1,666.86

1,923.30

2,307.96

2,692.62

 

 

Llaneilian

£

774.54

903.63

1,032.72

1,161.81

1,419.99

1,678.17

1,936.35

2,323.62

2,710.89

 

 

Llannerch-y-medd

£

776.40

905.80

1,035.20

1,164.60

1,423.40

1,682.20

1,941.00

2,329.20

2,717.40

 

 

Llaneugrad

£

774.90

904.05

1,033.20

1,162.35

1,420.65

1,678.95

1,937.25

2,324.70

2,712.15

 

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

779.22

909.09

1,038.96

1,168.83

1,428.57

1,688.31

1,948.05

2,337.66

2,727.27

 

 

Cylch y Garn

£

771.24

899.78

1,028.32

1,156.86

1,413.94

1,671.02

1,928.10

2,313.72

2,699.34

 

 

Mechell

£

771.12

899.64

1,028.16

1,156.68

1,413.72

1,670.76

1,927.80

2,313.36

2,698.92

 

 

Rhos-y-bol

£

770.64

899.08

1,027.52

1,155.96

1,412.84

1,669.72

1,926.60

2,311.92

2,697.24

 

 

Aberffraw

£

777.24

906.78

1,036.32

1,165.86

1,424.94

1,684.02

1,943.10

2,331.72

2,720.34

 

 

Bodedern

£

775.74

905.03

1,034.32

1,163.61

1,422.19

1,680.77

1,939.35

2,327.22

2,715.09

 

 

Bodffordd

£

773.58

902.51

1,031.44

1,160.37

1,418.23

1,676.09

1,933.95

2,320.74

2,707.53

 

 

Trearddur

£

777.06

906.57

1,036.08

1,165.59

1,424.61

1,683.63

1,942.65

2,331.18

2,719.71

 

 

Tref Alaw

£

776.34

905.73

1,035.12

1,164.51

1,423.29

1,682.07

1,940.85

2,329.02

2,717.19

 

 

Llanfachraeth

£

778.32

908.04

1,037.76

1,167.48

1,426.92

1,686.36

1,945.80

2,334.96

2,724.12

 

 

Llanfaelog

£

778.38

908.11

1,037.84

1,167.57

1,427.03

1,686.49

1,945.95

2,335.14

2,724.33

 

 

Llanfaethlu

£

773.58

902.51

1,031.44

1,160.37

1,418.23

1,676.09

1,933.95

2,320.74

2,707.53

 

 

Llanfair-yn-Neubwll

£

775.08

904.26

1,033.44

1,162.62

1,420.98

1,679.34

1,937.70

2,325.24

2,712.78

 

 

Y Fali

£

782.52

912.94

1,043.36

1,173.78

1,434.62

1,695.46

1,956.30

2,347.56

2,738.82

 

 

Bryngwran

£

778.80

908.60

1,038.40

1,168.20

1,427.80

1,687.40

1,947.00

2,336.40

2,725.80

 

 

Rhoscolyn

£

766.68

894.46

1,022.24

1,150.02

1,405.58

1,661.14

1,916.70

2,300.04

2,683.38

 

 

Trewalchmai

£

772.38

 

901.11

 

1,029.84

 

1,158.57

 

1,416.03

 

1,673.49

 

1,930.95

 

2,317.14

 

2,703.33

 

 

               

                   sef  y symiau a geir trwy luosi'r symiau yn 8(e) a 8(f) uchod a'r rhif sydd, yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5(1) y Ddeddf, yn berthnasol i anheddau a restrir mewn band prisiau arbennig wedi'i rannu â'r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny'n berthnasol i dai a restrir ym mand prisiau D, a bennir gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, yn symiau sydd i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y categorïau o anheddau a restrir yn y gwahanol fandiau prisiau.9.          Y dylid nodi, ar gyfer y flwyddyn 2018/19, fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi'r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i'r Cyngor, yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir isod:-

 

         Awdurdod Praeseptio                                                                        Bandiau Prisiau

 

 

 

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

£

172.08

200.76

229.44

258.12

315.48

372.84

430.20

516.24

602.28

 

10.     Wedi pennu'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn 8(ff) a 9 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, drwy hyn yn pennu'r symiau a ganlyn ar gyfer y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn 2018/19 ar gyfer pob categori o anheddau a ddangosir isod:-

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

 

 

Rhan o Ardal y Cyngor

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Amlwch

£

973.86

1,136.17

1,298.48

1,460.79

1,785.41

2,110.03

2,434.65

2,921.58

3,408.51

 

Biwmares

£

950.04

1,108.38

1,266.72

1,425.06

1,741.74

2,058.42

2,375.10

2,850.12

3,325.14

 

Caergybi

£

1,008.78

1,176.91

1,345.04

1,513.17

1,849.43

2,185.69

2,521.95

3,026.34

3,530.73

 

Llangefni

£

980.88

1,144.36

1,307.84

1,471.32

1,798.28

2,125.24

2,452.20

2,942.64

3,433.08

 

Porthaethwy

£

974.94

1,137.43

1,299.92

1,462.41

1,787.39

2,112.37

2,437.35

2,924.82

3,412.29

 

Llanddaniel-fab

£

946.92

1,104.74

1,262.56

1,420.38

1,736.02

2,051.66

2,367.30

2,840.76

3,314.22

 

Llanddona

£

942.30

1,099.35

1,256.40

1,413.45

1,727.55

2,041.65

2,355.75

2,826.90

3,298.05

 

Cwm Cadnant

£

950.22

1,108.59

1,266.96

1,425.33

1,742.07

2,058.81

2,375.55

2,850.66

3,325.77

 

Llanfair Pwllgwyngyll

£

953.70

1,112.65

1,271.60

1,430.55

1,748.45

2,066.35

2,384.25

2,861.10

3,337.95

 

Llanfihangel Ysgeifiog

£

949.02

1,107.19

1,265.36

1,423.53

1,739.87

2,056.21

2,372.55

2,847.06

3,321.57

 

Bodorgan

£

944.88

 1,102.36

1,259.84

1,417.32

1,732.28

2,047.24

2,362.20

2,834.64

3,307.08

 

Llangoed

£

943.08

1,100.26

1,257.44

1,414.62

1,728.98

2,043.34

2,357.70

2,829.24

3,300.78

 

Llangristiolus a Cherrig Ceinwen

£

940.98

1,097.81

1,254.64

1,411.47

1,725.13

2,038.79

2,352.45

2,822.94

3,293.43

 

Llanidan

£

946.86

1,104.67

1,262.48

1,420.29

1,735.91

2,051.53

2,367.15

2,840.58

3,314.01

 

Rhosyr

£

949.98

1,108.31

1,266.64

1,424.97

1,741.63

2,058.29

2,374.95

2,849.94

3,324.93

 

Penmynydd

£

949.62

1,107.89

1,266.16

1,424.43

1,740.97

2,057.51

2,374.05

2,848.86

3,323.67

 

Pentraeth

£

951.36

1,109.92

1,268.48

1,427.04

1,744.16

2,061.28

2,378.40

2,854.08

3,329.76

 

Moelfre

£

944.88

1,102.36

1,259.84

1,417.32

1,732.28

2,047.24

2,362.20

2,834.64

3,307.08

 

Llanbadrig

£

958.44

1,118.18

1,277.92

1,437.66

1,757.14

2,076.62

2,396.10

2,875.32

3,354.54

 

Llanddyfnan

£

941.40

1,098.30

1,255.20

1,412.10

1,725.90

2,039.70

2,353.50

2,824.20

3,294.90

 

Llaneilian

£

946.62

1,104.39

1,262.16

1,419.93

1,735.47

2,051.01

2,366.55

2,839.86

3,313.17

 

Llannerch-y-medd

£

948.48

1,106.56

1,264.64

1,422.72

1,738.88

2,055.04

2,371.20

2,845.44

3,319.68

 

Llaneugrad

£

946.98

1,104.81

1,262.64

1,420.47

1,736.13

2,051.79

2,367.45

2,840.94

3,314.43

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

951.30

1,109.85

1,268.40

1,426.95

1,744.05

2,061.15

2,378.25

2,853.90

3,329.55

 

Cylch y Garn

£

943.32

1,100.54

1,257.76

1,414.98

1,729.42

2,043.86

2,358.30

2,829.96

3,301.62

 

Mechell

£

943.20

1,100.40

1,257.60

1,414.80

1,729.20

2,043.60

2,358.00

2,829.60

3,301.20

 

Rhos-y-bol

£

942.72

1,099.84

1,256.96

1,414.08

1,728.32

2,042.56

2,356.80

2,828.16

3,299.52

 

Aberffraw

£

949.32

1,107.54

1,265.76

1,423.98

1,740.42

2,056.86

2,373.30

2,847.96

3,322.62

 

Bodedern

£

947.82

1,105.79

1,263.76

1,421.73

1,737.67

2,053.61

2,369.55

2,843.46

3,317.37

 

Bodffordd

£

945.66

1,103.27

1,260.88

1,418.49

1,733.71

2,048.93

2,364.15

2,836.98

3,309.81

 

Trearddur

£

949.14

1,107.33

1,265.52

1,423.71

1,740.09

2,056.47

2,372.85

2,847.42

3,321.99

 

Tref Alaw

£

948.42

1,106.49

1,264.56

1,422.63

1,738.77

2,054.91

2,371.05

2,845.26

3,319.47

 

Llanfachraeth

£

950.40

1,108.80

1,267.20

1,425.60

1,742.40

2,059.20

2,376.00

2,851.20

3,326.40

 

Llanfaelog

£

950.46

1,108.87

1,267.28

1,425.69

1,742.51

2,059.33

2,376.15

2,851.38

3,326.61

 

Llanfaethlu

£

945.66

1,103.27

1,260.88

1,418.49

1,733.71

2,048.93

2,364.15

2,836.98

3,309.81

 

Llanfair-yn-Neubwll

 

 

 

 

 

£

947.16

1,105.02

1,262.88

1,420.74

1,736.46

2,052.18

2,367.90

2,841.48

3,315.06

 

Y Fali

£

954.60

1,113.70

1,272.80

1,431.90

1,750.10

2,068.30

2,386.50

2,863.80

3,341.10

 

Bryngwran

£

950.88

1,109.36

1,267.84

1,426.32

1,743.28

2,060.24

2,377.20

2,852.64

3,328.08

 

Rhoscolyn

£

938.76

1,095.22

1,251.68

1,408.14

1,721.06

2,033.98

2,346.90

2,816.28

3,285.66

 

Trewalchmai

£

944.46

1,101.87

1,259.28

1,416.69

1,731.51

2,046.33

2,361.15

2,833.38

3,305.61

 

 

 

 (Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Haynes ymatal rhag pleidleisio).

 

 

 

Dogfennau ategol: