Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.
Cofnodion:
Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ailgyflunio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni (Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig) ynghyd ag argymhellion ar gyfer symud ymlaen.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant ar y broses ymgynghori a gynhaliwyd o 26 Medi, 2017 hyd 13 Tachwedd, 2017, a oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda staff, llywodraethwyr a rhieni Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig. Mae'r adroddiad yn crynhoi'r sylwadau o'r cyfarfodydd ymgynghori yn ogystal ag atborth gan disgyblion y ddwy ysgol. Dywedodd yr Aelod Portffolio, yn seiliedig ar y casgliadau y daethpwyd iddynt yn dilyn y broses ymgynghori statudol, fod 5 o argymhellion yn cael eu cyflwyno er ystyriaeth y Pwyllgor a bod y rhain eto yn anffodus, yn golygu cau ysgol.
Dywedodd y Pennaeth Dysgu, yn yr achos hwn, fod mwyafrif yr ymatebion wedi dod gan randdeiliaid yn Ysgol Talwrn, a bod hynny i’w ddisgwyl o ystyried y bod yr ysgol dan fygythiad o gael ei chau. Mae'r cynigion wedi cael eu diwygio ychydig o gymharu â'r rhai yr ymgynghorwyd yn wreiddiol arnynt oherwydd ar ôl asesu'r sefyllfa mewn perthynas ag Ysgol y Graig, ystyriwyd bod angen bloc neu adeilad newydd i'r ysgol yn hytrach na dim ond estyniad i’r adeilad a dod â dai disgyblion o Ysgol Talwrn i’r safle presennol. Cafodd nifer o gynigion amgen eu cyflwyno yn ystod y cyfnod ymgynghori gan gynnwys defnyddio Ysgol Talwrn i hyfforddi penaethiaid; moderneiddio neu adeiladu ysgol newydd yn Nhalwrn neu uno Ysgol Talwrn gyda naill ai Ysgol Llanbedrgoch neu Ysgol Pentraeth. Fodd bynnag, ar ôl ystyried yr holl gyflwyniadau a'r holl sylwadau a gafwyd, mae'r Awdurdod yn argymell y dylid nodi’r cynigion fel y'u nodir yn yr adroddiad.
Anerchodd Mr Islwyn Humphreys (Corff Llywodraethol Ysgol Talwrn) a Bethan Wyn Jones (Grŵp Rhieni a Thrigolion) ill dau y Pwyllgor yn lleisio eu barn nhw a barn cymuned Talwrn ar y cynigion mewn perthynas ag Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Pwysleisiodd y ddau wrthwynebiad cryf Corff Llywodraethol Ysgol Talwrn a chymuned Talwrn i'r bwriad i gau ysgol y pentref a gofynnodd y ddau am i’r cynigion gael eu hailystyried. Wrth gyflwyno eu sylwadau, tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y pwyntiau canlynol –
• Ar hyn o bryd nid oes ond 6 lle gwag yn Ysgol Talwrn. Adeiladwyd pedwar tŷ yn ddiweddar yn yr ardal ac mae teuluoedd yn y rhan fwyaf ohonynt. Yn ogystal, mae teulu o 6 wedi symud i'r pentref yn ddiweddar ac mae'r plant yn mynychu Ysgol Talwrn.
• Mae safonau addysg yn Ysgol Talwrn yn dda. Mae gan yr ysgol Bennaeth ifanc a brwdfrydig sy'n parhau i adeiladu ar lwyddiannau'r ysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae gan yr ysgol record ragorol o ran datblygu elfennau personol, cymdeithasol a lles addysg y plant. Mae'r ysgol hefyd yn gallu dangos tystiolaeth o gyflawniad yn CA2 ac o ran canlyniadau, mae ymysg y goreuon o ysgolion Ynys Môn yn CA2.
• Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn nodi bod gan blant yr hawl i roi eu barn ac i'r farn honno gael ei chlywed.Mae'r plant yn Ysgol Talwrn wedi mynegi tristwch ynghylch y posibilrwydd y bydd yr ysgol yn cau ac maent yn bryderus ynghylch hyn.
• Mae asesiad yr Awdurdod yn dod i’r canlyniad fod Ysgol Talwrn yn ddrud i'w rhedeg. Mae hyn oherwydd blynyddoedd o ddiffyg buddsoddiadyn yr ysgol.
• Oherwydd natur y ffordd a diffyg llwybr troed, mae yna bryderon gwirioneddol ynglŷn â diogelwch disgyblion sy'n teithio adref i Dalwrn o Ysgol y Graig yn enwedig yn dilyn gweithgareddau ar ôl ysgol.
• Nid oes unrhyw Gynllun Busnes wedi'i gyflwyno i gefnogi'r cynigion nac ychwaith yr arbedion y rhagwelir y bydd yn deillio ohonynt. Yn y pen draw, bydd cymeradwyo’r cynnig yn costio oddeutu £650k i’r Awdurdod ac yn gosod baich ar genedlaethau'r dyfodol gydag ymrwymiad 50 mlynedd a fydd yn gorfod cael ei dalu 20 mlynedd ar ôl cwblhau'r adeilad arfaethedig.
• Un o amcanion Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017-22 yw sicrhau bod dinasyddion Ynys Môn yn ffynnu ac yn cyflawni eu potensial - ni fydd hyn yn cael ei wireddu trwy gau ysgol gymunedol. Mae trigolion Talwrn yn dymuno gweld cymuned hyfyw a naturiol Gymreig gyda phobl o bob oedran lle mae mewnfudwyr yn cael eu hintegreiddio i deulu Talwrn.
• Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050; ni fydd cau ysgol gynradd lle siaredir Cymraeg yn helpu i ddenu pobl i’r ardal nac yn cyfrannu at gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith Gymraeg.
• Nid yw'r ddogfen ymgynghori statudol yn gwneud cyfiawnder â'r 108 o lythyrau o wrthwynebiad i'r bwriad i gau Ysgol Talwrn
• Nid yw Asesiad Effaith Gymunedol yr Awdurdod yn adlewyrchu effaith wirioneddol cau Ysgol Talwrn ar y gymuned fel y tystiwyd i hynny gan y llythyrau a dderbyniwyd gan ystod o gymdeithasau.
• Mae’r cynnig yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu hintegreiddio'n effeithiol; mae'r cynnig yn golygu y bydd mwy o gyfleusterau'n cael eu rhoi i dref y mae ei seilwaith a’i hamrediad o wasanaethau eisoes yn helaeth tra'n amddifadu trigolion Talwrn ohonynt.
• Mae’r wybodaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor i'w alluogi i lunio barn yn anghywir, yn hen ac nid yw’n gytbwys.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at e-bost a dderbyniodd oddi wrth Mr Tony McQuire Jones a anfonwyd hefyd at Mr Mark Isherwood, Aelod Cynulliad Gogledd Cymru. Mae'r e-bost yn cyfeirio at Gôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 sy'n golygu fod rhaid i'r Awdurdod, o fewn 13 wythnos i'r cyfnod a ganiateir ar gyfer ymatebion neu cyn cyhoeddi'r cynigion, gyhoeddi adroddiad ymgynghori sy'n crynhoi pob un o'r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion, gan ymateb i'r rhain gydag esboniad,diwygio'r cynigion, gwrthod y pryderon gyda rhesymau i gefnogi hynny a nodi safbwynt Estyn ynglŷn â rhinweddau cyffredinol y cynigion. Roedd Mr McQuire Jones yn gofyn pam fod y materion a godwyd yn yr ymgynghoriad yn ogystal ag ymateb Estyn i'r ymgynghoriad wedi cael eu gadael allan o’r adroddiad ymgynghori.
Dywedodd y Pennaeth Dysgu, yw'n bosibl rhestru'r holl wrthwynebiadau yn y ddogfen ymgynghori oherwydd y byddai hynny'n ei gwneud yn rhy hir, serch hynny, mae'r holl ymatebion ac atodiadau ar gael. Mae'r ddogfen ymgynghori yn ceisio crynhoi sylwedd yr ymatebion a gafwyd. O ran Estyn, yr un modd â'r ymgynghoriad a drafodwyd yn yr eitem flaenorol, ni chafwyd ymateb gan Estyn i'r ymgynghoriad hyn yma. Bydd yr Awdurdod yn gwneud ymholiadau.
Siaradodd y Cynghorwyr Nicola Roberts a Dylan Rees fel Aelodau Lleol.Tynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts sylw at bryderon mewn perthynas â diogelwch disgyblion Ysgol y Graig yn ystod y cyfnod adeiladu / addasiadau; y trefniadau ar gyfer integreiddio'r bloc newydd arfaethedig gyda'r adeilad presennol fel eu bod yn gweithredu fel un ysgol a'r trefniadau ar gyfer darparu adnoddau ychwanegol a / neu wasanaethau parhaus. Er bod y cynigion a gyflwynwyd yn well na’r rhai a gyflwynwyd yn wreiddiol i'r graddau y mae'r Awdurdod wedi cydnabod y farn leol bod angen adeilad ychwanegol, nid ydynt yn ddelfrydol. Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod y sefyllfa yn Llangefni yn wahanol i honno yn yr ardaloedd eraill lle gweithredwyd rhaglen moderneiddio ysgolion, a hynny oherwydd nad oes digon o leoedd ysgol yn Llangefni (yn hytrach na gormod). Cyfeiriodd at yr her bosibl wrth geisio integreiddio plant o ysgol wledig fach fel Ysgol Talwrn i ysgol dau floc fwy fel Ysgol y Graig lle bydd y wynebau a'r lleoliad yn anghyfarwydd a cheisio, ar yr un pryd, sicrhau lles a gwytnwch y plant. Dywedodd fod Ysgol Talwrn yn ildio llawer ar gyfer y broses foderneiddio. Cyfeiriodd hefyd at gymwysterau gwyrdd Ysgol y Graig a allai gael eu heffeithio gan fewnlifiad o ychwaneg o ddisgyblion yn teithio i'r ysgol a'r sefyllfa sydd eisoes yn broblemus o ran parcio yn yr ysgol a’r ardal o’i h amgylch. Gan fod Ysgol y Graig ei hun yn adeilad gweddol newydd, gofynnodd am sicrwydd mai’r cynigion hyn yw’r ateb iawn y tro hwn ar gyfer yr ardal hon yn Llangefni ac o ystyried twf yr ardal yn y dyfodol.
Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod diogelwch y safle o'r pwys mwyaf; bydd asesiad risg yn cael ei gynnal cyn i unrhyw waith gael ei wneud a rhoddir sylw priodol i bob agwedd ar ddiogelwch y plant. O ran integreiddio'r ddau floc ar wahân, bydd yn rhaid i bob bloc gael ei neuadd a’i ffreutur ei hun oherwydd nad oes digon o le yn Ysgol y Graig fel ag y mae a byddai’n rhaid trefnu i’r plant gael amser chwarae ac amser cinio ar adegau gwahanol. Bydd gwasanaethau ychwanegol ar ffurf clybiau cyn-ysgol, clybiau gofal, Dechrau'n Deg ac ati yn cael eu hymgorffori yn y cynllun yn y dyfodol ac mae'r cynllun hwn yn cynnig y potensial i weithio ochr yn ochr â'r Mudiad Meithrin a chyda’r Ganolfan Blant i sicrhau’r ddarpariaeth ddi-dor y cyfeirir ati. O ran gallu ymdopi â thwf yn y dyfodol, mae'n ofynnol i'r Awdurdod seilio ei gynllun busnes ar ffeithiau h.y. datblygiadau sydd wedi cael caniatâd cynllunio; mae'r Awdurdod wedi ystyried y rhagamcanion yn y CDLl ar y Cyd ar gyfer yr ardal gyfan dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac wrth gynllunio unrhyw ysgol newydd bydd yn ceisio caniatáu ar gyfer twf pellach yn y dyfodol. Mae capasiti yn Ysgol y Graig ar hyn o bryd ar gyfer dwy ystafell ddosbarth newydd, ond yn yr achos hwn, nid yw hynny’n ddigonol ac mae angen bloc newydd. Ni chaniateir i'r Awdurdod adeiladu ysgol newydd sydd â 10% o lefydd gwag heb achos busnes cadarn iawn dros wneud hynny e.e. os yw'n gwybod bod diwydiant penodol yn dod i'r ardal a bod caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer tai a fydd yn tynnu i mewn nifer uchel o deuluoedd ifanc. Nid yw dod â dwy ysgol at ei gilydd mewn un endid yn digwydd ar unwaith ar ôl cau ysgol; mae'n broses sy'n cymryd dros 2 flynedd lle mae grwpiau o blant yn cael eu dwyn ynghyd i arfer â’i gilydd a’u sefyllfa newydd; cynhelir gweithgareddau ar y cyd a chydlynir y cwricwlwm fel bod y plant yn gwneud yr un gwaith ar yr un pryd i'r un lefel ar gyfer yr un ystod oedran. Felly mae'r Awdurdod yn hyderus y bydd y plant yn gwybod beth sy'n digwydd fel bod unrhyw ofnau yn cael eu lleddfu ac y byddant wedi cael yr amser i baratoi ar gyfer y newid. O ran teithio, mae darpariaeth tacsis yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng Llangefni a Thalwrn ar hyn o bryd, felly ni fydd y sefyllfa o ran y cynllun arfaethedig yn wahanol. Bydd yr Awdurdod yn edrych ar nifer y siwrneiau a wneir, nifer y plant dan sylw a chyflwr a diogelwch llwybrau troed fel rhan o’r asesiad ehangach o’r ardal. Mae'r Awdurdod yn ymwybodol o'r problemau parcio mewn perthynas ag Ysgol y Graig fel y mae ar hyn o bryd ac fel agwedd allweddol ar y gwaith bydd raid i'r Awdurdod gydbwyso'r hawl i’r cyfleusterau parcio y gall eu cynnig gyda chanlyniad yr asesiad effaith traffig y bydd yr Awdurdod yn ei gynnal. Fodd bynnag, mae'r Awdurdod yn ymwybodol o'r heriau yn yr ardal sydd wedi'u crybwyll yn glir yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad. Wrth ymateb i gwestiwn pellach gan yr Aelod Lleol mewn perthynas â'r tir sydd ar gael, cadarnhaodd y Swyddog fod y broses o nodi tir addas ar gyfer y bloc newydd wedi cychwyn – roedd rhaid i'r Awdurdod fod wedi dechrau'r broses hon er mwyn gallu cyflwyno rhai o'r cynigion i’r Pwyllgor.
Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, hefyd yn siarad fel Aelod Lleol, er ei fod yn cefnogi ehangu Ysgol y Graig fel rhan o’r ateb i’r broblem mewn perthynas â’r nifer annigonol o leoedd ysgol yn Llangefni, roedd yn anghyfforddus gyda'r bwriad i gau Ysgol Talwrn fel rhan o'r ateb oherwydd mai problem yn ysgolion Llangefni yw hon, ac ni ddylai ysgolion gwledig orfod dioddef yn ei sgil. Cyfeiriodd a dyfynnodd o’r datganiad a wnaed y llynedd gan y Gweinidog dros Addysg yn Llywodraeth Cymru yn egluro y dylid rhagdybio yn erbyn cau ysgolion gwledig ac na ddylid ystyried cau ond pan fydd dewsiadau eraill a’u heffeithiau ar y cymunedau wedi cael eu hystyried. Pan yn ystyried cau ysgol, dywed y Gweinidog y dylid rhoi sylw i’r canllawiau wrth asesu'r effaith debygol ar ansawdd a safonau addysg, yr effaith debygol ar y gymuned ac effaith debygol y gwahanol drefniadau teithio. Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees fod siaradwyr blaenorol wedi cyfeirio at safon uchel yr addysg yn Ysgol Talwrn a'r effaith ddinistriol y byddai cau'r ysgol yn ei chael ar y gymuned ac ar fudiadau sy'n dibynnu arni, e.e. yr Eisteddfod leol. Cyfeiriwyd hefyd at y problemau posib o safbwynt trafnidiaeth a'r tagfeydd presennol o gwmpas Ysgol y Graig. Felly, er ei fod yn croesawu'r cynigion i fynd i'r afael â'r problemau yn Ysgol y Graig, nid oedd yn derbyn y dylai cau Ysgol Talwrn fod yn rhan o'r ateb.
Fel Cadeirydd, dygodd y Cynghorydd Dylan Rees sylw yn y fan hon at y ffaith fod y Pwyllgor bellach wedi bod rhedeg am dair awr ac yn unol â’r darpariaethau dan baragraff 4.1.10 yng Nghyfansoddiad y Cyngor, roedd angen penderfyniad gan y mwyafrif o’r Aelodau hynny o'r Pwyllgor a oedd yn bresennol i gytuno i’r cyfarfod fynd yn ei flaen. Penderfynwyd y dylai'r cyfarfod barhau.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar ac fe wnaethpwyd y pwyntiau canlynol -
• Roedd y Pwyllgor yn nodi ac yn cydnabod y teimladau cyrf yng nghymuned Talwrn yn erbyn cau ei hysgol gan dderbyn eto fod cau ysgol yn gynnig anodd a gresynus.
• Nododd y Pwyllgor mai prinder lleoedd ysgol yn Llangefni yw’r broblem yn hytrach na lleoedd gweigion. Er bod y Pwyllgor yn cydnabod bod angen mynd i'r afael â'r sefyllfa o ran Ysgol y Graig, nododd ymhellach fod cau Ysgol Gynradd Talwrn fel rhan o'r ateb i ddatrys y broblem yn yr ardal a'r tagfeydd ychwanegol yn Llangefni y gallai hyn ei achosi yn ymddangos yn groes ac yn ateb y mae gan y Pwyllgor broblem ag ef.
Dywedodd y Pennaeth Dysgu y bydd asesiad effaith traffig yn cael ei gynnal fel rhan o'r cynllun a bod cynllun busnes yr Awdurdod yn annhebygol o gael ei gymeradwyo oni bai ei fod yn gallu dangos ei fod wedi ymgynghori â'r Awdurdod Priffyrdd ac yn gallu dangos bod yr ardal yn ddiogel.
• Nododd y Pwyllgor mai dim ond 6 o lefydd gwag sydd ar hyn o bryd yn Ysgol y Talwrn a bod y rhain yn debygol o gael eu llenwi gan bedwar eiddo sydd newydd gael eu hadeiladu. Nododd y Pwyllgor hefyd fod yr ysgol yn perfformio'n dda o dan arweiniad pennaeth ifanc a benodwyd yn ddiweddar ac mai’r ysgol yw canolbwynt bywyd cymunedol, gweithgaredd cymunedol a'r iaith Gymraeg. Felly, nid yw'r achos dros gau yr ysgol yn glir.
• Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch nifer y disgyblion sy'n mynychu Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn o'r tu allan i'w dalgylchoedd eu hunain ac a yw'r cynlluniau'n ystyried y 300 o dai newydd sydd wedi eu cynllunio ar gyfer ardal Llangefni ac sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio.
Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod oddeutu 50% o'r disgyblion yn Ysgol Talwrn yn byw y tu allan i’r dalgylch; mae 4 disgybl yn cael eu danfon mewn tacsi o Langefni oherwydd nad oes lle iddynt yn Ysgol y Graig. Mae nifer y disgyblion o’r tu allan i'r dalgylch sy’n mynychu Ysgol y Graig wedi gostwng yn ddiweddar oherwydd mai lle i ddisgyblion lleol yn unig sydd ar gael yn yr ysgol. Cadarnhaodd y Swyddog fod ystyriaeth wedi cael ei rhoi i’r datblygiadau tai sydd ar y gweill yn Llangefni.
Gwnaeth y Prif Weithredwr y pwyntiau canlynol -
• Mae cau ysgol yn benderfyniad caled ac yn anodd ei dderbyn ond mae'n rhaid ei ystyried yn wyneb realiti'r sefyllfa.
• Mae Ysgol Talwrn yn perfformio'n dda yn CA2 ond nid yw perfformiad yr ysgol ac Ynys Môn yn gyffredinol mor dda yn CA1 (Y Cyfnod Sylfaen).
• Ar hyn o bryd, mae 6 lle gwag yn Ysgol Talwrn 6. Fodd bynnag, roedd canran y lleoedd gweigion yn yr ysgol yn uchel ar un adeg, a dyna pam y rhoddwyd ystyriaeth i ddyfodol yr ysgol. Roedd nifer y lleoedd gweigion wedi gostwng oherwydd y diffyg lleoedd mewn ysgolion yn Llangefni gyda phlant o Langefni yn mynd i Ysgol Talwrn.
• Bod yr Awdurdod yn wynebu heriau ariannol ac y bydd y rheini’n parhau; mae cyllidebau ysgolion hefyd yn gostwng yn sylweddol sy'n golygu bod raid ystyried dyfodol ysgolion bach.
• Er bod Ysgol Talwrn wedi llwyddo i benodi pennaeth, y tueddiad yw i benaethiaid ysgolion bach symud ymlaen pan fydd cyfle’n codi; mae hefyd yn fwy o her i recriwtio a chadw penaethiaid mewn ysgolion bach sy'n ffactor yn nhrefniadau cynllunio olyniaeth yr Awdurdod.
Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod Ysgol Talwrn wedi cael tri phennaeth gwahanol mewn cyfnod cymharol fyr, sy'n ystyriaeth o bwys i'r Awdurdod wrth iddo gynllunio ar gyfer cynaladwyedd ei ysgolion yn y dyfodol.
Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd a'r sylwadau a wnaed, PENDERFYNODD y Pwyllgor argymell i'r Pwyllgor Gwaith –
• Bod adeilad presennol Ysgol y Graig yn cael ei ddefnyddio a'i addasu ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, sef blynyddoedd 3 i 6.
• Y dylid adeiladu bloc neu adeilad newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen h.y. y Dosbarth Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2.
• Ni ddylid cau Ysgol Talwrn.
• Dylid ystyried adleoli'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg o fewn y ddarpariaeth newydd.
• Dylid sicrhau bod y tyrbin gwynt ar y safle yn gweithio erbyn dyddiad agor yr adeilad newydd.
Dogfennau ategol: