Eitem Rhaglen

Rhybudd o Gynnig yn unol â Rheol 4.1.13.1 o'r Cyfansoddiad

I gyflwyno Rhybudd o Gynnig gan:-

 

   Y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones

 

Mae Porthladd Caergybi yn fusnes economaidd mor bwysig i ni yma yn Ynys Môn, ac mae angen i ni fel Cyngor arwain o ran ceisio sicrhau BREXIT MEDDAL ar gyfer y ffin rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon.  Rydym ni fel grŵp yn galw am y camau canlynol i gael eu cymryd:-

 

1.  Bod llythyr yn cael ei anfon gan y Cyngor hwn at Gyngor Dinas Dilyn yn mynegi ein dymuniad a’n cefnogaeth i weld ffin rydd yn parhau rhwng ein

dwy wlad gyda gwahoddiad iddynt anfon cynrchiolaeth drosodd i siarad â ni ac er mwyn i ni arddangos ein dymuniad i barhau i gydweithio â’n

gilydd.

 

2.  Bod gwahoddiad yn mynd allan i’n cynrchiolwyr yn San Steffan a Chaerdydd yn eu gwahodd i ymweld â ni er mwyn i ni gael gwybod beth maent yn ei wneud i bwyso am ffin mor agored â phosibl rhwng ein dwy wlad.

 

Dim ond drwy ymgysylltu ag ysbryd y bobl y gallwn sicrhau datrysiad o werth i’r argyfwng hwn a allai gael effaith ddinistriol ar borthladd Caergybi a Phorthladd Dulyn.

 

  Y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas

 

Bod Cyngor Ynys Môn:-

 

1.  yn annog mentrau di-blastig ac yn hyrwyddo a chefnogi digwyddiadau.

2.  yn gweithio tuag at lleihau defnydd o blastig a ddefnyddir un tro yn eu safleoedd ac ysgolion.

3.  yn annog busnesau i ddefnyddio llai o blastig a ddefnyddir un tro. 

4.  yn ethol cynrchiolaeth ar Grwp arfordir di-blastig.

 

   Y Cynghorydd Nicola Roberts

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw:-

 

1.  Ar Lywodraeth y DU i oedi cyn cyflwyno’r Credydd Cynhwysol;

2.  Ar Lywodraeth Cymru i fynnu pwerau datganoli i amrwyio sut y telir Credydd Cynhwysol yng Nghymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - y Rhybuddion o Gynigiad isod gan :-

 

·           Y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones

 

“Mae Porthladd Caergybi yn fusnes economaidd mor bwysig i ni yma yn Ynys Môn, ac mae angen i ni fel Cyngor arwain o ran ceisio sicrhau BREXIT MEDDAL ar gyfer y ffin rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon.  Rydym ni fel grŵp yn galw am gymryd y camau canlynol :-

 

1.     Bod llythyr yn cael ei anfon gan y Cyngor hwn at Gyngor Dinas Dulyn yn mynegi ein dymuniad a’n cefnogaeth i weld ffin rydd yn parhau rhwng ein dwy wlad gyda gwahoddiad iddynt anfon cynrychiolaeth drosodd i siarad â ni ac er mwyn i ni arddangos ein dymuniad i barhau i gydweithio â’n gilydd.

2.    Bod gwahoddiad yn mynd allan i’n cynrychiolwyr yn San Steffan a Chaerdydd yn eu gwahodd i ymweld â ni er mwyn i ni gael gwybod beth maent yn ei wneud i bwyso am ffin mor agored â phosibl rhwng ein dwy wlad.

 

Dim ond drwy ymgysylltu ag ysbryd y bobl y gallwn sicrhau datrysiad o werth i’r argyfwng hwn a allai gael effaith ddinistriol ar borthladd Caergybi a Phorthladd Dulyn.”

 

Eiliodd y Cynghorydd Bryan Owen y cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones ei fod ef a nifer o bobl eraill yn bryderus ynghylch yr effaith a gaiff bargen Brexit ar yr Ynys. Dywedodd bod angen i’r Awdurdod hwn gysylltu gyda Chyngor Dinas Dulyn i sicrhau bod modd i’r traffig sy’n teithio i ac o Borthladdoedd Cymru gael rhwydd hynt heb yr angen am wiriadau tollau. Er mwyn mabwysiadu’r ymagwedd iawn ar ôl gadael yr UE, dywedodd bod angen i’r ddau Gyngor weithio gyda’i gilydd er mwyn atal tagfeydd traffig o gwmpas Porthladd Caergybi oherwydd   prosesau tollau. Dywedodd fod parhau i fasnachu gydag Iwerddon yn hollbwysig i’r economi leol ac er mwyn sicrhau cyflogaeth ar gyfer pobl leol ym Mhorthladd Caergybi.     Gofynnodd y Cynghorydd Jones i’r Cyngor gefnogi bod llythyr yn cael ei anfon at Brif Weithredwr Cyngor Dinas Dulyn yn gofyn am gyfarfod rhwng y ddau awdurdod i ddangos parodrwydd i weithio gyda’i gilydd i sicrhau ffiniau rhydd rhwng y ddwy wlad. Dywedodd bod angen i wleidyddion roi gwybod i’r awdurdod hwn am y gweithdrefnau a fydd yn cael eu sefydlu er mwyn gwarchod llif rhydd traffig rhwng Caergybi ac Iwerddon.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd ei fod yn cytuno ynghylch pwysigrwydd Porthladd Caergybi i economi’r Ynys a’i fod yn pryderu am yr ansicrwydd a’r heriau a ddaw i’r Porthladd yn sgil Brexit.  Dywedodd ei fod ef, fel Aelod Portffolio, wedi cael cyfarfod gyda Capten Wyn Parry, Pennaeth Gweithrediadau Môr Iwerddon Stena i leisio pryderon am ddyfodol y Porthladd. Dywedodd ymhellach ei fod wedi anfon llythyr ym mis Tachwedd 2017 at Mr David Davies AS, y Gweinidog dros Adael yr Undeb Ewropeaidd a Mr Alun Cairns AC, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn mynegi pwysigrwydd y Porthladd i economi Ynys Môn ac i sicrhau cyflogaeth. Mae 650 o bobl yn cael eu cyflogi yno ar hyn o bryd ac mae 80% o’r swyddi hynny yn rhai amser llawn. Soniodd hefyd ei fod wedi codi ymhellach a oedd yr isadeiledd priodol gan gynnwys rheolau ffiniau newydd a gwiriadau tollau yn eu lle ac a oedd digon o le o fewn ffiniau’r Porthladd i gynnal gwiriadau o’r fath.   Dywedodd hefyd fod Porthladd Caergybi o bwys rhyngwladol i Gymru a’r DU ac mai hwn yw’r trydydd porthladd prysuraf yn y DU o ran nifer teithwyr a cheir yn cario teithwyr. Y Porthladd yw’r seithfed prysuraf yn y DU o ran cario cerbydau nwyddau a thraffig trelar ac mae’n cludo 76% o’r unedau nwyddau ‘roro’ sy’n mynd drwy borthladdoedd Cymru. Y Porthladd yw’r un prysuraf yng Nghymru o ran llongau mordeithiau ac fe groesawyd 43 o longau i’r ardal. Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymateb ac wedi nodi bod y Prif Weithredwr yn ddiweddar wedi amlinellu’r bwriad i gadw’r Ardal Deithio Gyffredin (ardal ffiniau agored sy’n cynnwys Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel). Bwriad Llywodraeth y DU yw sicrhau bod traffig yn parhau i lifo’n rhydd yn holl borthladdoedd y DU gyda rheoliadau a gweithdrefnau tollau newydd i sicrhau masnachu esmwyth. Mae Swyddogion o Swyddfa Cymru, Refeniw a Thollau EM a’r Adran Drafnidiaeth wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Lu’r Ffiniau a Stena Line i drafod goblygiadau ymarferol Brexit a’r modd y gellid eu lliniaru. Mae gweithgor newydd wedi cael ei sefydlu dan arweiniad Refeniw a Thollau EM, sef ‘Gweithgor Cynllunio Ffiniau Porthladdoedd a Meysydd Awyr Cymru’ i ystyried y pwysau ar borthladdoedd ar ôl gadael yr UE. Gallai hwn fod yn gyfnod cyffrous i’r Ynys, gyda’r posibilrwydd y bydd datblygiad Wylfa Newydd yn creu manteisio sylweddol a pharhaol. Ni ddylai newidiadau i’r modd y rheolir ffiniau gyfyngu ar y cyfleoedd hyn na’n gweledigaeth ar gyfer y Porthladd fel un o bwys strategol i’r Deyrnas Unedig yn dilyn Brexit. Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones ei fod yn llwyr gefnogi’r cynnig a oedd gerbron y Cyngor. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bryan Owen a oedd bwriad i wahodd cynrychiolwyr o Gyngor Dinas Dulyn i gyfarfod i drafod goblygiadau Brexit a’i effaith ar Borthladd Caergybi. Dywedodd bod angen i’r Cyngor hwn fod yn rhagweithiol o ran symud trafodaethau yn eu blaenau gyda Dulyn. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd y bydd yn gwahodd cynrychiolwyr o Gyngor Dinas Dulyn i gyfarfod i drafod y pryderon ynghylch effaith Brexit ar Borthladd Caergybi a rhoes sicrwydd y byddai’n rhoi gwybod i Aelodau’r Cyngor hwn am ganlyniadau’r trafodaethau hyn yn y man.  

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE fod ganddo bryderon y bydd y llongau o Borthladd Dulyn sy’n cario teithwyr a chynwysyddion yn teithio’n uniongyrchol i Ffrainc a Gwlad Belg wedi i’r Deyrnas Unedig adael yr UE. Dywedodd ei bod hi’n allweddol bwysig i’r trafodaethau gyda Chyngor Dinas Dulyn gael eu cynnal cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

Er nad oedd yn erbyn y cynigiad, dywedd y Cynghorydd Shaun Redmond ei bod yn ymddangos fod yr Aelodau’n teimlo mai’r unig ffordd o ddatrys y problemau posibl ym Mhorthladd Caergybi fyddai gwrthdroi pleidlais Brexit. Dywedodd y Cynghorydd Redmond nad oedd yn ymwybodol o’r hyn a olygir gan Brexit caled neu feddal a bod angen gwarchod Porthladdoedd megis Caergybi wrth ddod allan o’r UE. Mae angen i wleidyddion o’r naill ochr a’r llall i Fôr Iwerddon a Brwsel gychwyn trafodaethau.  Ymatebodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd fod angen edrych yn gadarnhaol i’r dyfodol oherwydd fe ddaw heriau yn sgil Brexit ond sicrhau’r gorau i’r Ynys yw’r flaenoriaeth.    

 

    Yn y bleidlais ddilynol, PENDERFYNWYD cefnogi’r rhybudd o gynigiad.

 

·           Y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas

 

Bod Cyngor Ynys Môn :-

 

1.    yn annog mentrau di-blastig ac yn hyrwyddo a chefnogi digwyddiadau.

2.    yn gweithio tuag at lleihau defnydd o blasting untro ar ei safleoedd ac yn ei ysgolion.

3.    Yn annog busnesau i ddefnyddio llai o blasting untro.

4.    Yn ethol cynrychiolaeth ar y Grŵp Arfordir di-blastig.

 

Eiliodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y cynnig 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas fod cael gwared ar blastigau untro yn broblem ddifrifol y mae angen rhoi sylw iddo. Dywedodd iddo ddod yn ymwybodol o’r broblem tra’n cerdded ar draeth Trearddur un bore pan welodd forlo mewn helynt oherwydd fod bag plastig yn sownd yn ei geg; dywedodd ei fod yn brofiad torcalonnus. Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod problem plastig yn ein moroedd wedi cael sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar oherwydd ymdrechion Syr David Attenborough, sydd wedi amlygu’r perygl y mae gwastraff yn ei achosi i fywyd morol yn ei raglen bywyd gwyllt, Blue Planet II a ddarlledwyd gan y BBC. Dywedodd ymhellach bod raid i agweddau newid mewn perthynas â chael gwared ar blastig a gwastraff ac mae angen i wleidyddion, y sectorau cyhoeddus a phreifat weithio gyda’i gilydd i leihau’r defnydd o blastig untro ac i wella’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Dangosodd y Cynghorydd Thomas wahanol enghreifftiau o blastigau untro i’r Cyngor ynghyd ag enghreifftiau o ddeunyddiau pydradwy megis gwelltynnau cardbord a ffyn cotwm. Dywedodd fod angen i archfarchnadoedd ailystyried yr angen am gymaint o becynnu plastig ar eu nwyddau a bod angen i bysgotwyr feddwl ddwywaith cyn cael gwared â thacl pysgota a rhaffau i’r môr.     

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at gyfarfod lansio a gynhaliwyd ar 25 Chwefrir 2018 yn yr Oystercatcher, Rhosneigr a drefnwyd gan y Syrffwyr yn erbyn Carthffosiaeth – Ynys Môn. Roedd Mr Albert owen AS a Mr Rhun ap Iorthwerth AC yn bresennol ac fe ymrwymodd pawb a oedd yn bresennol i gefnogi ymgyrch ‘Ynys Môn Di-blastig’. Dywedodd ei fod yn gobeithio y gall Ynys Môn fod yr ardal ddi-blastig gyntaf yng Nghymru a bod angen addysgu plant yn ysgolion yr awdurdod mewn perthynas â chael gwared ar blastig untro.     

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ei fod yn cyd-fynd yn llwyr â’r ymgyrch i leihau’r defnydd o blastig a ddefnyddir am yr untro a bod addysg yn yr ysgolion mewn perthynas ag ailgylchu a lleihau’r defnydd o blastig yn allweddol bwysig. Nododd fod yr Adain Wastraff eisoes yn mynd i ysgolion i addysgu plant ynghylch pwysigrwydd ailgylchu a lleihau’r defnydd o blastigau a’r peryglon y mae’r plastigau hyn yn eu hachosi i fywyd gwyllt. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen bod yr Wrth-blaid yn gwbl gefnogol o’r ymgyrch yn erbyn defnyddio plastig untro. Dywedodd fod yr Wrth-blaid wedi cysylltu gyda Mr Richard Walton, Amgylcheddwr sydd wedi cysylltu gyda’r Adran Briffyrdd a Gwastraff ac sydd wedi cynhyrchu logo dwyieithog, sef ‘Codwch y Plastic - Pick up the Plastic’ ac arno lun o bysgodyn gyda deigryn yn ei lygad a photel blastig yn ei stumog. Gofynnodd yr Wrth-blaid a fedrai’r Cyngor fabwysiadu’r logo hwn ac iddo gael ei roi ar bob un o arwyddion y Cyngor ar hyd a lled yr Ynys.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y logo a gynhyrchwyd gan Mr Walton wedi cael ei dderbyn yn y Saesneg yn unig i ddechrau ond ei fod erbyn hyn wedi cael ei gyfieithu. Fel Arweinydd, roedd hi eisoes wedi trafod gyda’r Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff, y posibilrwydd o rannu’r logo hwn gyda’r ysgolion cynradd ac uwchradd. Cadarnhawyd hyn a bydd sticeri’n cael ei rhoi ar arwyddion ar draethau ac unrhyw arwyddion eraill sydd gan y Cyngor Sir. Dywedodd ymhellach fod yr Aelodau Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a Phrosiectau Mawr a Datblygu Economaidd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Adran Briffyrdd er mwyn symud yr ymgyrch hon yn ei blaen. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod yr ymgyrch ar gyfer Ynys Môn Ddi-blastig yn ennill momentwm a bod pobl eisiau gwarchod yr amgylchedd a bywyd gwyllt. Dywedodd ei fod yn bryderus fod siopau yn gwthio cynigion ar nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn gormod o lawer o blastig untro; mae’n ddyletswydd gorfforaethol ar y cwmnïau hyn i leihau’r defnydd y maent yn ei wneud o blastig i becynnu nwyddau. Dywedodd y Cynghorydd Jones ymhellach fod gan y Cyngor gytundeb ar y cyd gyda ‘Cadwch Gymru’n Daclus’ a Cyfoeth Naturiol Cymru i gadw traethau’n lân a hynny mewn ymgynghoriad gyda Syrffwyr yn erbyn Carthffosiaeth.

 

Cynigiodd yr Arweinydd welliant i’r cynigiad, sef bod y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn cael ei enwebu i wasanaethu ar y Grŵp Arfordir Di-blastig. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ieuan Williams.

 

Yn y bleidlais ddilynol, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynigiad gyda gwelliant bod y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn cael ei enwebu fel cynrychiolydd ar y Grŵp Arfordir Di-blastig.

 

·           Y Cynghorydd Nicola Roberts

 

“Mae’r Cyngor hwn yn galw :-

 

1.        Ar Lywodraeth y DU i ohirio cyflwyno’r Credydd Cynhwysol ;

2.      Ar Lywodraeth Cymru i fynnu pwerau datganoli i amrywio’r modd y telir Credydd Cynhwysol yng Nghymru.

 

Eiliodd y Cynghorydd R Meirion Jones y cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts y daw’r Credyd Cynhwysol i rym yn Ynys Môn ym mis Mehefin eleni. Mynegodd ei phryderon difrifol am y caledi ariannol y bydd hyn yn ei achosi i deuluoedd ac unigolion. Cafwyd ar ddeall fod pobl, yn dilyn cyflwyno’r Credyd Cynhwysol yn Sir y Fflint, wedi bod yn disgwyl am 12 i 16 wythnos i’w Credyd Cynhwysol gael ei drefnu ac i dderbyn taliadau. Dywedodd ymhellach fod y system ar gyfer ymgeisio am Gredyd Cynhwysol yn gymhleth a bod y ffurflenni’n electronig.  Nid oes gan rai pobl fynediad i gyfrifiaduron a chysylltiad rhyngrwyd sy’n golygu bod raid iddynt fynd i’w llyfrgelloedd lleol a swyddfeydd yr awdurdodau lleol. Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod angen i Llywodraeth y DU ohirio cyflwyno Credyd Cynhwysol ac y dylai Llywodraeth Cymru fynnu ar bwerau datganoledig er mwyn newid y modd y mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu yng Nghymru.  Nododd fod Llywodraeth Yr Alban wedi cael mwy o bwerau datganoledig na Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyflwyno Credyd Cynhwysol.    

 

Ymatebodd y Cynghorydd Alun Mummery, yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Tai ei fod yn cefnogi’n llwyr yr angen i ohirio cyflwyno Credyd Cynhwysol ar yr Ynys. Roedd i fod i gael ei gyflwyno yn Ebrill 2018 ond mae wedi ei ohirio hyd fis Mehefin.  Dywedodd fod Cadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi anfon llythyr ar ran yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru yn gofyn i Lywodraeth y DU ohirio ymhellach y bwriad i gyflwyno Credyd Cynhwysol hyd oni fydd gwelliannau wedi cael eu gwneud a phrofiadau cleientiaid yn yr ardaloedd hynny ble mae Credyd Cynhwysol eisoes wedi cael ei gyflwyno, wedi cael eu cymryd i ystyriaeth. Cafwyd ymateb yn Rhagfyr 2017 gan Mr Damian Hinds MP, y Gweinidog ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau yn nodi na fydd unrhyw ohirio gyda chyflwyno Credyd Cynhwysol ac yn nodi rhai mân newidiadau yn unig megis galwadau ffôn gwasanaethau cwsmer yn rhad ac am ddim. Dywedodd ei fod o’r farn y dylid ymdrin ag ail ran y rhybudd o gynigiad i’r Cyngor yn unol â gweithdrefnau gwleidyddol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Mummery ymhellach fod yr Adran Dai wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd hyb briffio ar gyflwyno Credyd Cynhwysol a bod gwahoddiad i unrhyw un fynychu’r cyfarfodydd hynny. Roedd presenoldeb yn dda yn y cyfarfodydd hyb hyn dros y 7 mis diwethaf gyda sefydliadau allanol yn cyfrannu atynt a chynrychiolwyr o Swyddfeydd yr Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad hefyd wedi mynychu’r cyfarfodydd fel y gallant helpu a chefnogi pobl pan fydd Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno ym mis Mehefin. Dywedodd y bydd 5,000 o hawlwyr yn disgwyl i gael eu trosglwyddo i’r system Credyd Cynhwysol a bod yr Adran Gwaith a Phensiynau eisoes wedi gweithredu’r system yn achos 526 o bobl sengl dan 35 oed. Dygodd y Cynghorydd Mummery sylw at yr adnoddau isod sydd wedi cael eu sefydlu er mwyn cefnogi hawlwyr:-

 

·      Bydd 8 o hybiau cyfrifiadurol wedi cael eu cyflwyno mewn gwahanol leoliadau ar yr Ynys;

·      Bydd yr ymgyrch ‘Dewch â Thun Bob Mis’ yn cefnogi banciau bwyd ac mae nifer o bartneriaid yn y sector cyhoeddus wedi cytuno i fod yn rhan o’r ymgyrch;

·      Anfonwyd holiadur i asesu sgiliau cyfrifiadurol ac mae hynny wedi datgelu bod sgiliau TG yn well na’r disgwyl;

·      Sioe Deithiol o gwmpas yr Ynys gyda gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol a gwybodaeth wedi cael ei rhannu gyda’r Cynghorau Tref/Cymuned mewn perthynas â’r sioeau teithiol hyn;

·      Bydd taflen wybodaeth yn cael ei chylchredeg i drigolion yr Ynys;

·      Hyfforddiant ar gyfer 80 o weithwyr drwy’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi ymysg Plant;

·    Mae aelod o staff yn treulio hanner diwrnod yr wythnos mewn Canolfannau Gwaith yn rhannu gwybodaeth ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mummery ei fod hefyd yn pryderu am effaith cyflwyno Credyd Cyffredinol ar deuluoedd bregus gyda'r posibilrwydd y bydd plant yn gorfod mynd heb fwyd.  Dywedodd hefyd fod rhai landlordiaid preifat yn dal i fod heb eu cofrestru er mwyn cydymffurfio â Deddf Tai (Cymru) 2014 ac y gallai hynny arwain at weld rhai teuluoedd yn cael eu troi allan o'u cartrefi tra'n disgwyl i’w Credyd Cynhwysol gael ei gadarnhau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod yn derbyn bod llwyfan helaeth ar gyfer trafod datganoli pwerau ond holodd pam y dylai pobl yr Alban gael mwy o hawliau na phobl Cymru.  Cyflwynir Credyd Cyffredinol ar yr Ynys ym mis Mehefin sydd oddeutu’r un amser â gwyliau haf yr ysgolion; ac mae'n ffaith bod y pwysau ar fanciau bwyd yn llawer uwch yn ystod gwyliau'r ysgol. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, fel yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, ei bod hi hefyd yn pryderu ynghylch effaith cyflwyno'r Credyd Cynhwysol ar deuluoedd a phlant bregus.  Dywedodd ei bod hi'n fodlon fel Arweinydd y Cyngor i anfon unrhyw lythyrau i ofyn am ohirio cyflwyno Credyd Cyffredinol ar yr Ynys.

 

Yn y bleidlais ddilynol PENDERFYNWYD bod y cynnig yn cael ei gymeradwyo.

 

(Ymataliodd y Cynghorwyr KP Hughes, Shaun Redmond a Peter Rogers eu pleidlais).