Cyflwyno adroddiad gan Arweinydd y Cyngor.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan Arweinydd y Cyngor mewn perthynas â’r uchod.
Amlinellodd y Swyddog Sgriwtini rôl statudol y Pwyllgor Sgriwtini fel gofyniad statudol o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n datgan bod yn rhaid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ymgynghori â phwyllgorau sgriwtini awdurdodau lleol (yn ogystal ag ymgyngoreion eraill a enwir) ynghylch paratoi eu hasesiadau o Lesiant Lleol a’u Cynlluniau Llesiant lleol.
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at yr amcanion yn y Ddeddf Llesaint Cenedlaethau’r Dyfodol, sef amcanion y mae angen iddynt hefyd fod yn gyson ag amcanion yr Awdurdod yn ei Gynllun Corfforaethol, a dywedodd bod angen sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion a dyheadau trigolion yr Ynys. Ar ôl ystyried y data a gafwyd o’r broses ymgynghori ar y Cynllun Llesiant, dywedodd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi dod i’r casglaid mai’r negeseuon allweddol o’r asesiad oedd :-
· Yr angen i gynnal ysbryd cymunedol iach
· Pwysigrwydd diogelu’r amgylchedd naturiol
· Deallt effaith newidiadau demograffig
· Diogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg
· Hyrwyddo’r defnydd o adnoddau naturiol i wella iechyd a llesiant yn y tymor hir
· Gwella cysylltiadau trafnidiaeth i alluogi mynediad i wasanaethau a chyfleusterau
· Yr angen am swyddi o ansawdd da a chartrefi fforddiadwy i bobl leol
· Effaith tlodi ar lesiant
· Sicrhau bod gan bob plenty gyfle i lwyddo
Dywedodd hi hefyd ei bod yn bwysig bod pob sefydliad partner yn fodlon bod eu hamcanion a’u blaenoriaethau’n cael eu diwallu a bod angen i negeseuon allweddol yr asesiad fod yn ddigon eang i fynd i’r afael â materion o fewn y Cynllun Llesiant.
Sicrhaodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi chwarae rhan lawn yn y gwaith o baratoi’r Cynllun Llesiant ac mai’r her yw sicrhau bod gweithio mewn partneriaeth rhwng aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael mwy o effaith nag unrhyw sefydliad partner yn gweithio ar ei ben ei hun.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chododd y materion canlynol :-
· Gofynnwyd a oes perygl y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn mynd yn ‘siop siarad’. Ystyriwyd y dylai’r Bwrdd fod yn rhagweithiol ac y dylai allu dangos bod y sefydliadau partner yn gweithio gyda’i gilydd i gwrdd ag amcanion y Cynllun. Cyfeiriodd yr aelodau at y broses ymgynghori ar y Cynllun Llesiant a nododd mai dim ond 250 o ymatebion a dderbyniwyd. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r Cynllun ymysg preswylwyr y ddau awdurdod. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor y cynhaliwyd nifer o weithdai ymgynghori statudol ar y Cynllun Llesiant Drafft ac yr ymgynghorwyd â grwpiau cymunedol ar draws yr Ynys. Nododd fod Is-grŵp wedi’i sefydlu a gadeirir gan Brif Swyddog Medrwn Môn (aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) i werthuso sut mae’r Bwrdd yn cyfathrebu â thrigolion ac yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd. ‘Roedd y Pwyllgor hefyd o’r farn y byddai o fudd, o bryd i’w gilydd, i Gadeirydd y Pwyllgor hwn fynychu cyfarfod cyhoeddus o’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol fel sylwedydd.
· Gofynnwyd pa mor gyraeddadwy yw’r 9 neges allweddol yn y Cynllun Llesiant Drafft. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor mai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw’r polisi allweddol o ran nodi’r amcanion ar gyfer darparu gwasanaethau cynaliadwy i drigolion Gwynedd a Ynys Môn yn y dyfodol.
· Cyfeiriwyd at y llifogydd eithafol a ddigwyddodd ar yr Ynys ym mis Tachwedd 2017 a’r effaith ar unigolion a busnesau; gofynnwyd a oedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi trafod y mater hwn. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor trwy ddweud fod gwybodaeth wedi’i rhannu am y digwyddiadau llifogydd yn ardal Gwynedd ac y rhoddwyd cyflwyniad i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus am y trafodaethau a gynhaliwyd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a’r camau a gymerwyd yn sgil digwyddiadau o’r fath.
· Cyfeiriodd aelod at amcan o fewn y Cynllun Llesiant draft i ‘wella cysylltiadau trafnidiaeth i alluogi mynediad at wasanaethau a chyfleusterau’ a chyfeiriodd at yr adroddiad sy’n nodi bod diffyg mynediad at wasanaethau yn un o’r materion a godwyd amlaf yn ystod yr ymgynghoriad ar yr Asesiad Lleisiant a’i fod yn amlwg bod hwn yn destun pryder ac yn cael effaith sylweddol ar lesiant unigolion. Gofynnodd o ble y gellir cael yr adnoddau i roi sylw i’r mater hwn a sut y gall y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddylanwadu ar wella cysylltiadau trafnidiaeth. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor trwy ddweud ei bod hi’n cytuno y bydd yr her i wella cysylltiadau trafnidiaeth oherwydd bod adnoddau llywodraeth leol yn gyfyngedig ond dywedodd fod cynllun penodol ar gyfer y rhanbarth wedi’i ddatblygu gan Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru ac y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhoi strwythur ffurfiol ar waith er mwyn cydweithio â’r Bwrdd Uchelgais ac i ddylanwadu ar ei waith. Dywedodd aelod arall ei fod o’r farn na fydd y cydweithio rhwng y gwasanaethau o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn denu adnoddau ariannol ychwanegol a mynegodd breeder y gallai’r Bwrdd ddod yn ‘siop siarad’. Dywedodd y Prif Weithredwr y gobeithir, trwy gydweithrediad y sefydliadau partner ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, y gallant ddylanwadu ar ei gilydd er mwyn darparu’r gwasanaethau sydd raid wrthynt a sicrhau gwerth am arian i breswylwyr y ddau awdurdod.
· Cyfeiriodd aelod at yr ail neges allweddol y cyfeiriwyd ati yn yr adroddiad ynghylch ‘Pwysigrwydd Diogelu’r Amgylchedd Naturiol’ ac sy’n nodi bod ein hinsawdd yn newid ac y bydd y parhau i wneud hynny gan achosi lefel y môr i godi a mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol megis llifogydd. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyheoddus wedi amlygu maes blaenoriaeth o ran y mater hwn a holodd yr aelod a fyddai’r Awdurdod hwn yn gallu dynode Aelod Etholedig i fod yn Hyrwyddwr ar gyfer materion Newid Hinsawdd. Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod yn cefnogi’r awgrym ac yn credo y byddai Hyrwyddwr ar gyfer yr Amgylchedd yn ateb gwell.
· Gofynnwyd a fyddai adroddiadau monitor yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Sgrwtini. Yn ei ymateb, dywedodd y Swyddog Sgriwtini y bydd Rhaglen Waith y Pwyllgor yn cynnwys adroddiadau monitor ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini ei bod yn bwysig i’r Pwyllgor Sgriwtini hwn ystyried canllawiau/amserlenni statudol yn y Cynllun Llesiant Drafft fel y gellir eu cynnwys yn Rhaglen Waith y Pwyllgor.
· Er eu bod yn derbyn bod cynrychiolydd o Gartrefi Cymunedol Gwynedd eisoes yn aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ‘roedd yr Aelodau o’r farn y dylai cynrychiolydd o Gymdeithas Dai sy’n gweithredu ar Ynys Môn wasanaethu ar y Bwrdd hefyd.
PENDERFYNWYD :-
· Derbyn Cynllun Llesiant Drafft Ynys Môn a Gwynedd;
· Awdurdodi Cadeirydd y Pwyllgor hwn i gyflwyno ymateb ffurfiol i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dwyn sylw at y materion a godwyd gan y Pwyllgor hwn fel y nodir nhw uchod.
GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.
Dogfennau ategol: