Eitem Rhaglen

Caniatâd Cyffredinol ar gyfer holl Aelodau'r Cyngor Sir mewn perthynas âg unrhyw Ffioedd Addysgol Posibl

Adroddiad gan y Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Swyddog Monitro ar gael cymeradwyo caniatâd arbennig cyffredinol ar gyfer tymor y Cyngor.

           

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor Sir ar gyfer Aelodau etholedig, mae unrhyw aelod sydd â diddordeb personol neu ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn eitem o fusnes yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd modd i aelod oresgyn y broblem a achosir gan y diddordeb drwy gael caniatâd arbennig gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor Sir. 

           

Adroddodd y Swyddog Monitro bod y Cyngor yn 2015 wedi ystyried a ddylid codi ai peidio am gost y gofal a ddarparwyd mewn clybiau brecwast yn yr ysgolion cynradd. Roedd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gost o ddarparu’r bwyd i’r plant ond nid oedd y gofal yr oedd ei angen ar y plant er mwyn derbyn y brecwast yn cael ei ariannu. Roedd y Cyngor llawn, yn eu penderfyniad ar y gyllideb, i fod i benderfynu a ddylent godi am ofal brecwast ai peidio. Achosodd y drafodaeth hon ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu ar gyfer yr aelodau hynny oedd â chysylltiad agos â phlant/teuluoedd a fyddai’n cael eu heffeithio gan y penderfyniad. Felly, cyflwynwyd cais am ganiatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau, a gafodd ei gymeradwyo, ac a ddaeth i ben ym Mai 2017. Mae’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Dysgu wedi gofyn i’r Pwyllgor Safonau ymestyn y caniatâd arbennig i weddill tymor y Cyngor hwn.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn cytuno’n unfrydol i’r canlynol:-

 

  Petai’r angen yn codi, bod holl Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn, y mae’r amgylchiadau’n berthnasol iddynt, yn derbyn caniatâd arbennig er mwyn eu galluogi i siarad a phleidleisio, lle mae ganddynt gysylltiad personol agos (teulu neu ffrindiau) sy’n defnyddio’r Clybiau Brecwast mewn Ysgolion Cynradd, neu wasanaeth cyfwerth/tebyg/cysylltiedig nad yw eithriadau o dan y Cod eisoes yn berthnasol iddynta lle mae angen trafod yr angen i godi tâl. 

  Rhoddir y caniatâd arbennig yn unol â Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Caniatâd Arbennig)(Cymru) 2001, fel y’i diwygiwyd, 2 (c)(d)(e)(f).

  Gall unrhyw Aelod sy’n ymarfer yr hawl hon siarad a phleidleisio ar faterion o’r fath.

  Bydd y caniatâd arbennig yn ymestyn i unrhyw ystyriaeth o’r mater hwn (neu fater cyfwerth/tebyg/cysylltiol/cysylltiedig â gwasanaethau ysgol) yn y dyfodol yn achos Aelodau y cychwynnodd eu tymor ym Mai 2017, neu’n hwyrach yn achos isetholiad, o Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer gweddill tymor y Cyngor h.y. tan mai 2022. 

  Bydd Aelodau yn parhau i fod â diddordeb personol o dan y Cod y bydd angen iddynt ei ddatgan boed hynny ar ddechrau’r cyfarfod neu ar ddechrau’r eitem berthnasol. Mae angen i ffurflenni datgan diddordeb gadarnhau eu bod yn dibynnu ar ganiatâd arbennig a roddwyd gan y Pwyllgor Safonau ar 14 Mawrth 2018.

 

Gweithred: Copi o’r cofnod hwn i’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Dysgu. 

Dogfennau ategol: