Eitem Rhaglen

Cefnogaeth i'r Dyfodol

Derbyn diweddariad mewn perthynas â'r uchod.

Cofnodion:

Adroddodd y Swyddog Addysg fod GwE wedi penderfynu rhoi’r gorau i ddarparu cefnogaeth ar gyfer CYSAGau Gwynedd ac Ynys Môn. Nodwyd fod Miss Bethan James wedi darparu cefnogaeth ac arweiniad amhrisiadwy i CYSAG Ynys Môn am nifer o flynyddoedd yn ei rôl fel Ymgynghorydd Cymorth (GwE) ac Ymgynghorydd Dyniaethau i Gwmni Cynnal cyn hynny.

 

Yn ogystal, adroddodd y Swyddog Addysg nad yw cefnogaeth GwE i’r CYSAG yn rhan o’r cytundeb gyda’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag, mae GwE yn fodlon trafod opsiynau gyda’r Cyngor ar gyfer darparu cefnogaeth petai’r Cyngor yn dymuno newid y cytundeb presennol. Mae’r Cadeirydd wedi ysgrifennu at y Pennaeth Dysgu yn mynegi pryderon y CYSAG a’i siom ynglŷn â’r modd y cafodd cefnogaeth GwE ei dynnu’n ôl, heb rybudd swyddogol.

 

Roedd y CYSAG o’r farn fod y gefnogaeth a’r arweiniad a dderbyniwyd gan yr Ymgynghorydd Cymorth yn hanfodol er mwyn iddo gyflawni ei ddyletswyddau fel corff statudol, ac i fonitro safonau Addysg Grefyddol yn ysgolion Môn. Nodwyd nad oes modd cyflawni gwaith y CYSAG heb dderbyn cefnogaeth ac arweiniad priodol.

 

Gweithredu:

 

  Y Cadeirydd i ysgrifennu at Mr Arwyn Thomas, Prif Weithredwr GwE, i fynegi pryderon y CYSAG. 

  Y Swyddog Addysg i ysgrifennu at y Pennaeth Dysgu i ofyn iddo sicrhau fod y CYSAG yn cael y cyllid angenrheidiol i gael yr abenigedd a’r arweiniad sydd ei angen.

  Rhoi gwybodaeth i’r Aelod Portffolio Addysg ynglŷn â phryderon y Pwyllgor mewn perthynas â phenderfyniad GwE i roi’r gorau i ddarparu cefnogaeth i’r CYSAG.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod Mr Gareth Jones, y Swyddog Addysg a Chlerc y CYSAG, yn ymddeol ddiwedd mis Mai 2018. Ar ran y CYSAG diolchodd y Cadeirydd i Mr Jones am ei waith ardderchog a’i gefnogaeth fel Clerc y CYSAG, a dymunodd yn dda iddo ar ei ymddeoliad.

 

Cyflwynwyd gwybodaeth a dderbyniwyd gan Mrs Mefys Edwards, Ysgol Syr Thomas Jones a Mrs Heledd Hearn, Ysgol Uwchradd Bodedern, i’r CYSAG.

 

Tynnodd Mrs Mefys Edwards sylw at ddiffyg yn yr adnoddau ar gyfer addysgu Addysg Grefyddol drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion yng Nghymru. Yn ogystal, mynegodd bryder fod llwyth gwaith y cwricwlwm Addysg Grefyddol yn rhy drwm ar athrawon a disgyblion, a bod athrawon yn cael trafferth gorffen y cwrs mewn pryd. Roedd Mrs Edwards yn pryderu y bydd gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n dymuno astudio LefelAAddysg Grefyddol yn y dyfodol, oherwydd y llwyth gwaith trwm.

 

Mynegodd Mrs Heledd Hearn bryderon fod cynnwys y cwrs TGAU newydd yn rhy swmpus ac nid oes modd ei gywasgu i’r ddwy wers yr wythnos sydd ar gael ar gyfer Addysg Grefyddol. Nodwyd bod ysgolion sy’n darparu tair gwers Addysg Grefyddol yr wythnos yn cael trafferth cwblhau’r cwrs. Cyfeiriwyd hefyd at y maes llafur Lefel ‘A’ a’r ffaith nad yw’r ysgol wedi derbyn gwerslyfrau eto.

 

Gofynnodd Mrs Hearn i’r CYSAG ysgrifennu at CBAC i fynegi pryder am y diffyg adnoddau sydd ar gael ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Gweithredu:

 

  Y Swyddog Addysg i ysgrifennu at Weinidog Llywodraeth Leol a CBAC i fynegi pryderon y CYSAG a nodir uchod.

  Anfon copi o’r llythyr at Rhun ap Iorwerth, Aelod y Cynulliad dros Ynys Môn.