Eitem Rhaglen

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: Diweddariad Ariannol ac Ymgynghoriad 2019-20

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Meurig Ll Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ms Helen McArthur, Prif Swyddog Cynorthwyol (Adnoddau) a Ms Sian Morris, Prif Swyddog Cynorthwyol (Polisi a Chynllun Corfforaethol) i roi cyflwyniad mewn perthynas â Diweddariad Ariannol ac Ymgynghoriad 2019/20 Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Cyflwynodd cynrychiolwyr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru amlinelliad byr o’r ymgynghoriad cyhoeddus sy’n cael ei gynnal er mwyn annog pobl i fynegi eu barn ynglŷn â sicrhau gwasanaethau tân ac achub fforddiadwy, cyn i’r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019/20 gael ei gosod ym mis Rhagfyr 2018. Mae pob Cyngor Sir yng Ngogledd Cymru’n cyfrannu tuag at y gost o ddarparu gwasanaeth tân ac achub ac mae’r bwlch rhwng amcangyfrif o gostau’r Awdurdod yn 2019/20 a lefel y cyfraniadau ariannol gan Gynghorau yn 2018/19 wedi cyrraedd bron i £1.9m. Er bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn wynebu penderfyniadau ariannol anodd mae dyletswydd ar yr Awdurdod Tân ac Achub i sicrhau ei fod yn parhau i fod mor effeithlon â phosib a sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau tân ac achub sy’n cwrdd â disgwyliadau’r cyhoedd o ran lefel ac ansawdd heb gyflwyno elfen annerbyniol o risg. Adroddwyd bod arbedion effeithlonrwydd wedi eu gweithredu er mwyn newid y polisi mewn perthynas ag ymateb i larymau tân awtomatig ac achub anifeiliaid mawr ynghyd â rhoi pwyslais parhaus ar atal tanau. Nododd y Swyddogion bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyfrannu £3,356,175 at Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn 2018/19, sy’n cyfateb i 10.02% o’r dyraniad. Rhagwelir y bydd angen cyfraniad ychwanegol o £190,272 gan yr Awdurdod hwn fyddai’n gynnydd o £6.53 yn y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo cyfartalog Band D.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau a ganlyn :-

 

·       Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â’r ymweliadau cartref a gynhelir gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru er mwyn gosod larymau tân. Dywedodd y Prif Swyddog Cynorthwyol (Polisi a Chynllun Corfforaethol) fod gwneud gwaith ataliol drwy gynnal ymweliadau cartref yn holl bwysig a phe bae’n rhaid i’r Gwasanaeth Tân ddelio â digwyddiad cyn cynnal ymweliad cartref ataliol, byddai’r gost yn llawer iawn uwch. Pwysleisiodd y dylid cael larwm tân ym mhob cartref ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn achub y blaen drwy osod larymau tân mewn cartrefi. Cyfeiriwyd hefyd at y cydweithio sy’n digwydd gydag Awdurdod yr Heddlu. Cyfeiriodd y Prif Swyddog Cynorthwyol at enghreifftiau o gydweithio gyda’r Heddlu h.y. cynorthwyo i chwilio am bobl fregus sydd ar goll, atal tanau bwriadol. Nododd bod cydweithio â’r Heddlu yn gallu lleihau costau ariannol y ddau wasanaeth;

·       Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn ag awgrym mewn ymgynghoriad blaenorol ar gyllideb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru y byddai un o’r ddwy injan dân yn Wrecsam yn cael eu dileu. Dywedodd y Prif Swyddog Cynorthwyol (Polisi a Chynllun Corfforaethol) bod 2 injan dân llawn amser ac 1 rhan amser yn Wrecsam a ddwy flynedd yn ôl cododd cyfle i gael gwared ar un o’r rheini. Fodd bynnag, oherwydd cryfder barn y cyhoedd yn ardal Wrecsam ni weithredwyd ar y cynnig i leihau nifer yr injans tân yn Wrecsam.

·       Er bod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gwneud arbedion effeithlonrwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gofynnwyd a fyddai’r Awdurdod yn gallu gwneud unrhyw arbedion pellach gan fod yr awdurdodau lleol hefyd yn ei chael yn anodd canfod arbedion yn eu cyllidebau eu hunain. Dywedodd y Prif Swyddog Cynorthwyol (Adnoddau), tra ei bod yn cydnabod bod y sector cyhoeddus yn gorfod gwneud arbedion mawr, mae’r Awdurdod Tân ac Achub yn wasanaeth statudol a rhoddwyd ystyriaeth i’r holl arbedion posib. Rhoddodd esiamplau o gydweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill. Cwestiynwyd ymhellach a fyddai modd gwerthu adeiladau sydd ym mherchnogaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub neu eu rhannu â gwasanaethau cyhoeddus eraill. Dywedodd y Prif Swyddog Cynorthwyol (Adnoddau) fod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn rhannu Swyddog Rheoli Ystadau gyda Heddlu Gogledd Cymru ac mae cyfleuster ym Mhrestatyn yn cael ei ddefnyddio gan y ddau wasanaeth. Cyfeiriodd at enghraifft arall o gydweithio gyda’r Heddlu gan gyfeirio at ganolfan hyfforddi yn Nolgellau sydd angen ei huwchraddio fydd yn cael ei defnyddio gan y ddau wasanaeth;

·       Gofynnwyd a oedd gwersi wedi cael eu dysgu yn dilyn trasiedi tân Tŵr Grenfell yn Llundain ac a allai cyfyngiadau ariannol fod yn ffactor sydd erbyn hyn yn gosod baich ariannol ar yr Awdurdodau Tân. Dywedodd y Prif Swyddog Cynorthwyol (Adnoddau) nad oes fflatiau uchel yng Ngogledd Cymru ar yr un raddfa ag a geir yn Llundain. Mae adnoddau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn perthynas â fflatiau yn fychan iawn o gymharu ag ardaloedd eraill. Fodd bynnag, nododd y bydd newidiadau rheoliadol yn ymwneud ag archwiliadau tân yn deillio o’r ymchwiliad i drasiedi Tŵr Grenfell ond ar hyn o bryd mae’n ansicr o ble daw’r adnoddau ariannol mewn perthynas â’r newidiadau posib.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru am fod yn bresennol yn y cyfarfod.