Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Arweinydd Cyngor Sir Ynys Mon am 2017/18

I ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn yn unol â Pharagraff 4.1.16 y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2017/18.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at yr uchafbwyntiau o ran y cynnydd a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol fel a ganlyn :-

 

·      Sefydlwyd portffolio ychwanegol i roi sylw i’r heriau sylweddol sy’n deillio o brosiect Wylfa Newydd ac i sicrhau fod y capasiti angenrheidiol ar gael i wneud y gorau o’r buddiannau ar ran pobl Ynys Môn;

·      Mae’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod ‘cynllunio lle’ yn yr ardaloedd;

·      Cytunwyd ar gyllideb 2018/19 ac mae’n parhau i amddiffyn gwasanaethau’r Cyngor;

·      Symudwyd ymlaen â’r rhaglen foderneiddio ysgolion a’r Strategaeth Addysg. Cynigiwyd rhaglen hyfforddiant i athrawon i’w paratoi ar gyfer rôl Pennaeth;

·      Agorwyd Canolfan Garreglwyd, Caergybi ar gyfer pobl o Ynys Môn sydd â dementia dwys; cynllun ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd yw hwn er lles pobl Ynys Môn;

·      Sefydlwyd Tîm Teuluoedd Ynys Môn (Teulu Môn) ble mae modd i deuluoedd gael mynediad at wasanaethau cefnogi drwy gyfrwng un pwynt mynediad;

·      Mae Hafan Cefni, cyfleuster gofal ychwanegol fydd yn cefnogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol, yn cael ei adeiladu yn Llangefni. Cymeradwywyd cynllun Gofal Ychwanegol arall ym Miwmares;

·      Mabwysiadwyd cynllun busnes ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol yn Ynys Môn fydd yn golygu buddsoddiad o dros £26m dros y 4 blynedd nesaf i adeiladu 195 o dai;

·      Pwysleisiwyd pwysigrwydd busnesau lleol yn yr holl drafodaethau gyda chwmnïau mawr ac mewn unrhyw drafodaethau economaidd rhanbarthol;

·      Sefydlwyd prosiect caffael mewnol i sicrhau fod system mewn lle fydd yn caniatáu i gwmnïau lleol fanteisio ar gyfleoedd sydd ar gael yn y Cyngor;

·      Sefydlwyd cynllun ‘Denu Talent’ 12 wythnos i roi cyfle unigryw i bobl ifanc yr Ynys brofi nifer o yrfaoedd posib gyda’r Cyngor;

·      Mae’r Cyngor yn parhau i wrthwynebu cynlluniau’r National Grid i godi peilonau ar draws yr Ynys;

·      Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn wedi cytuno ar Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd;

·      Mae targedau ailgylchu’n parhau i wella.

 

I gloi ei hadroddiad diolchodd yr Arweinydd i’r Uwch Dîm Rheoli, Penaethiaid Adrannau a holl staff y Cyngor am eu gwaith. Yn ogystal, diolchodd i staff y Cyngor a Biffa a fu’n gweithio’n ddiflino yn y tywydd garw yn ystod y gaeaf ac ym Marina Caergybi yn ddiweddar.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cyngor ofyn cwestiynau am yr Adroddiad Blynyddol i’r Arweinydd. Gofynnodd yr Wrthblaid am gadarnhad ynglŷn â’r prif bwyntiau a ganlyn :-

 

·           Er mai nod y Cyngor yw gwneud arbedion effeithlonrwydd, gofynnwyd pam

na chafodd y broses dendro gofal cartref ei hatal tan y munud olaf ac ar ôl treulio tri diwrnod yn cyfweld cwmnïau oedd wedi tendro am y gwasanaeth. Mae’r cwmnïau oedd wedi tendro am y gwasanaeth gofal cartref yn dal i ddisgwyl ymateb gan y Cyngor ac ystyriwyd fod amser staff ac adnoddau wedi eu gwastraffu mewn perthynas â’r mater hwn. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud fod y Cyngor yn edrych ar sut i gryfhau prosesau caffael. Cyfeiriodd at y broses dendro gofal cartref a dywedodd fod y contractau’n gyfartal am resymau technegol. Atgoffodd y Cyngor fod y Bwrdd Iechyd yn rhan o’r broses gofal cartref hefyd ac ystyriwyd fod angen oedi er mwyn arfarnu’r broses. Dywedodd yr Arweinydd y bydd y cwmnïau a gyflwynodd dendrau ar gyfer y gwasanaeth gofal cartref yn cael gwybod am ganlyniad y broses yn ystod yr wythnosau nesaf. Roedd hi o’r farn fod darparu’r gwasanaeth gorau ar gyfer y ‘defnyddiwr gwasanaeth’ o’r pwys mwyaf.

·           Ni lwyddodd y Cyngor i wario’r dyraniad ar gyfer taliadau tai dewisol a dderbyniwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Pwrpas yr arian hwn yw cefnogi preswylwyr sy’n gymwys i dderbyn Budd-dal Tai sy’n ei chael yn anodd talu eu rhent. Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor fod dros £20k wedi ei anfon yn ôl i’r llywodraeth ond dywedodd, yn unol â’r wybodaeth a roddwyd i’r Pwyllgor Gwaith, mai’r bwriad yw darparu cymorth ariannol i gwsmeriaid sy’n derbyn Budd-dal Tai gyda’u costau Tai os yw’r Awdurdod Lleol yn ystyried fod cymorth o’r fath yn angenrheidiol. Dywedodd fod rhaid gwneud cais am yr arian ac mae’n rhaid i’r sawl sy’n derbyn y taliad fod yn gymwys. Ychwanegodd fod yr Awdurdod wedi ychwanegu arian o’i goffrau ei hun at gyfraniad y Llywodraeth yn y gorffennol.

·           Mae’r aelodau lleol yn parhau i ddisgwyl am fanylion y prosiect tai cymdeithasol ym Maes yr Ysgol, Caergybi. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod cynllun Maes yr Ysgol yn golygu adeiladu unedau llety annibynnol un ystafell wely ar gyfer pobl dan 35 oed sydd ar y rhestr aros tai. Ar hyn o bryd mae’r cynllun wedi cael ei ohirio ond yn dilyn trafodaethau gyda’r awdurdod mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod arian ar gael i barhau gyda’r cynllun.

·           Mynegwyd pryder fod cais gan Gyngor Cymuned Aberffraw i’r Pennaeth Tai fod yn bresennol mewn cyfarfod i drafod materion tai yn y pentref wedi cael ei wrthod. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai’r Deilydd Portffolio Tai a hithau’n mynychu cyfarfod o Gyngor Cymuned Aberffraw, os oeddent yn dymuno, i drafod pryderon ynglŷn â thai.

·           Cafwyd sylwadau’n dweud fod cynlluniau i wario £26m i adeiladu 195 o dai cymdeithasol ar yr Ynys yn gyfystyr â chost o £130k ar gyfer pob tŷ. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod costau cysylltiedig ynghlwm ag adeiladu tai o’r fath. Dywedodd ei bod yn uchelgais gan y Cyngor adeiladu tai cymdeithasol oherwydd yr angen dybryd am dai. Bydd y cyllid ar gyfer adeiladu’r tai’n dod o’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

·           Mynegwyd pryder ynglŷn ag arwyddion a godwyd gan yr Adran Briffyrdd yn ardal Dwyran ac a dynnwyd i lawr ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai modd codi’r mater gyda’r Deilydd Portffolio Priffyrdd yn y sesiynau briffio misol.

·           Er bod y £100k a addawyd gan Lywodraeth Cymru tuag at gostau glanhau Marina Caergybi ac i helpu busnesau lleol yn cael ei groesawu, mae preswylwyr ardal Dwyran yn dal i ddisgwyl i’r Cyngor ymateb i’r difrod i’w tai yn dilyn y llifogydd enbyd y llynedd. Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod wedi ymweld ag ardal Dwyran ac ardaloedd eraill gafodd eu heffeithio gan lifogydd difrifol y llynedd. Dywedodd fod trafodaeth wedi’i chynnal yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Chwefror ynglŷn â lleihau’r Dreth Gyngor i gartrefi gafodd eu heffeithio gan y llifogydd; mae cynllun yn cael ei gwblhau mewn perthynas â’r mater hwn. Ychwanegodd yr Arweinydd fod trafodaethau’n parhau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â difrod gan lifogydd yn ardal Dwyran a’i bod hi fel Arweinydd yn barod i gwrdd â’r aelodau lleol i drafod y mater ymhellach.

·           Cyflwynwyd sylwadau am y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a’r angen am adnoddau pellach i gyflogi ymgynghorwyr i ddiwygio cynllun a ddaeth yn weithredol dim ond 6 mis yn ôl. Dywedodd yr Arweinydd y byddai’n annoeth peidio â pharhau i ddiweddaru’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd er mwyn sicrhau ei fod yn ymateb i anghenion y cymunedau lleol. Dywedwyd na fyddai unrhyw gartrefi newydd yn cael eu caniatáu mewn rhai cymunedau yng ngogledd yr Ynys lle mae’r Iaith Gymraeg yn gryf. Ni fyddai pobl ifanc lleol yn cael cyfle i fyw mewn cymunedau o’u dewis ac i fagu teulu mewn ardal wledig o’u dewis. Dywedodd yr Arweinydd fod Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd gyda chynrychiolwyr etholedig o’r ddau awdurdod yn bodoli; mae’r Pwyllgor hwn yn delio gyda materion o fewn y Cynllun Datblygu ac roedd yn ystyried mai dyma oedd y fforwm priodol i ddelio â phryderon y cymunedau lleol.

·           Mynegwyd pryderon fod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu cau ysgolion cynradd sydd â dros 80 o ddisgyblion a hynny’n groes i ddymuniadau rhieni a chymunedau lleol. Dywedwyd mai neges yr Arweinydd oedd diogelu cymunedau cryf ond ystyriwyd y byddai’r cymunedau hynny’n chwalu o ganlyniad i gau ysgolion mewn pentrefi. Gwnaethpwyd sylwadau fod ysgolion mewn pentrefi lleol yn darparu addysg dda i’r plant sy’n mynychu’r ysgolion hynny. Ychwanegwyd fod adnoddau wedi eu defnyddio i ymgynghori ar y cynllun moderneiddio ysgolion yn Llangefni ar dri achlysur. Mynegwyd pryderon hefyd am yr oedi pellach yn y gwaith o adeiladu Ysgol Santes Dwynwen oherwydd problem gyda’r llinell bŵer ar y safle. Cyfeiriodd yr Arweinydd at y sylw ynglŷn ag oedi wrth adeiladu’r ysgol newydd a nododd fod hyn oherwydd oedi gan Scottish Power wrth symud llinellau pŵer ar y safle. Nododd ei bod wedi gofyn i Swyddog Trawsnewid y Cyngor ofyn i Lywodraeth Cymru roi pwysau ar gwmnïau megis Scottish Power i symud ymlaen â’r gwaith sydd angen ei wneud ar safle Ysgol Santes Dwynwen.

·           Mynegwyd y farn y bydd rhaid i National Grid danddaearu’r ceblau trydan arfaethedig sy’n gysylltiedig â Wylfa Newydd ar draws yr Ynys i gyd. Dywedwyd nad oes gan yr Awdurdod Gynllun B os na fydd ceblau trydan yn cael eu tanddaearu.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Arweinydd y Cyngor a nodi ei gynnwys.

 

Dogfennau ategol: