Eitem Rhaglen

Rhybudd o Gynigiad yn unol a Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

Derbyn y Rhybuddion o Gynigiad isod gan y Cynghorydd Carwyn E Jones:-

 

(a)   Ymmarn Cyngor Sir Ynys Môn, nid yw Deddf Cynllunio 2008 (DC2008),

ynghydâ’i deddfwriaeth eilaidd a chanllawiau gan gynnwys y Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn gyfredol mwyach nac ychwaith yn addas i’r pwrpas yng Nghymru. Nid yw DC2008 yn cymryd i ystyriaeth y ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a Deddf Teithio Llesol (Cymru) (2013).

 

O ran llinellau trawsyrru uwchben y ddaear, ystyrir nad yw Rheolau Holford (1959, a ddiwygiwyd yn y 1990’au) a Rheolau Horlock (nad oes dyddiad ar eu cyfer ar wefan National Grid) yn gyfredol chwaith ac nid ydynt yn gydnaws â’r ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru.

 

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru Welsh yn ymrwymedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Teithio Llesol (Cymru). O ran prosiectau seilwaith mawr o arwyddocâd cenedlaethol (NSIPs), mae hyn yn cynnwys ystyried y modd y bwriedir lliniaru effaith prosiectau, naill ai drwy gytundeb Adran 106 neu ofyniad cynllunio. Yn ogystal, bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am rai elfennau o’r NSIPs, megis y gofynion cynllunio.

 

Mae’ndebygol y bydd angen cymryd camau lliniaru mwy sylweddol o lawer na’r ‘6 phrawf’ (gweler isod) mewn perthynas â’r deddfwriaethau yng Nghymru y cyfeirir atynt uchod oherwydd maent yn ymwneud hefyd â llesiant cenedlaethau’r dyfodol:

 

1. Yn angenrheidiol

2. Yn berthnasol i gynllunio ac;

3. I’r datblygiad sydd i’w ganiatáu;

4. Yn un y gellir ei orfodi;

5. Yn fanwl gywir ac;

6. Yn rhesymol ym mhob ffordd arall.

 

O’rherwydd, mae Cyngor Sir Ynys Môn o’r farn y dylid diweddaru DC2008 a’r holl ddeddfwriaeth eilaidd a chanllawiau angenrheidiol ar frys er mwyn sicrhau y gall awdurdodau Lleol yng Nghymru ddiwallu eu dyletswyddau statudol a sicrhau bod modd cymryd camau lliniaru digonol.

 

Gofynnafi’r Cyngor gefnogi’r sylwadau hyn a bod llythyr ffurfiol yn mynegi’r uchod yn cael ei anfon ar ran Cyngor Sir Ynys Môn at y Gwir Anrhydeddus James Brokenshire AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am Ddeddf Cynllunio 2008. Bydd copïau o’r llythyr hefyd yn cael eu hanfon at:

 

Y Gwir Anrhydeddus Greg Clark AS (BEIS)

Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS

Y Prif Weinidog Carwyn Jones

Lesley Griffiths AC

Albert Owen MS

       Rhun Ap Iorwerth AC

 

 

(b)  Cefndir

 

Mae diffyg gwybodaeth fanwl a ddarperir gan y Grid Cenedlaethol ynghylch ei gysylltiad arfaethedig yng Ngogledd Cymru hyd at hyn yn golygu nad yw'r Cyngor mewn sefyllfa i ddeall yr effeithiau llawn o'r datblygiad ar Ynys Môn, ei chymunedau na’i hamgylchedd. Er enghraifft, mae'r Cyngor yn pryderu nad yw’r gymuned leol o gwmpas safle arfaethedig adeilad Pen y Twnnel (gan gynnwys Llanfair Pwll a Llandaniel Fab) wedi derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i werthfawrogi maint llawn y symudiadau HGV a cherbydau eraill yn yr ardal, na’r cynnig i gau Lôn Pont Rhonwy. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y Cyngor wedi gofyn am wybodaeth bellach.

 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn nodi'r sylwadau a wnaed gan y Grid Cenedlaethol yn ei Datganiad o Ymgynghori Cymunedol ym mharagraffau 3.5-3.6 sy'n rhoi pwyslais mawr ar ymgysylltu gyda a chael barn pobl sy'n byw yn agos at y cynigion a gallai gael eu heffeithio gan y datblygiad, yn barhaol a/neu dros dro yn ystod y gwaith adeiladu.

 

Mae'r diffyg gwybodaeth fanwl wedi golygu na fydd y Cyngor, y rhanddeiliaid na'r gymuned a thrigolion yr effeithir arnynt wedi gallu ffurfio barn wybodus iawn ar effeithiau tebygol y datblygiad, na’r ystod o ofynion cynllunio a hefyd yr mesurau lliniaru sydd eu angen i leihau effeithiau'r cynllun i lefel dderbyniol.

 

Yn flaenorol, mae uwch swyddogion y Grid Cenedlaethol wedi darparu sesiynau briffio ffurfiol i aelodau etholedig a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor. Bellach, rydym yn deall eu bod wedi gwrthod ceisiadau i roi sesiwn briffio ffurfiol arall i aelodau etholedig lle mae cwestiynau yn cael eu gofyn.

 

Cynnig

 

1.    Felly mae'r Cyngor yn gofyn, fel mater o frys, fod y Grid Cenedlaethol yn darparu'r wybodaeth ychwanegol a sydd ei hangen ac yn cynnal cylch ymgynghori ychwanegol gyda rhanddeiliaid allweddol a'r gymuned sydd wedi'i effeithio fel bod modd i bob effaith, gan gynnwys effeithiau cronnus, a'r cynigion lliniaru manwl gael eu hystyried cyn cyflwyno'r cais yn ffurfiol i'r Arolygiaeth Gynllunio.

 

2.     Mae'r Cyngor yn gofyn i Brif Weithredwr y Grid Cenedlaethol fynychu sesiwn briffio ac i gyflwyno ddiweddariad i aelodau etholedig Cyngor Sir Ynys Môn ac i ateb cwestiynau'r aelodau am y prosiect.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhybuddion o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Carwyn E Jones:-

 

(a)  Ym marn Cyngor Sir Ynys Môn, nid yw Deddf Cynllunio 2008 (DC2008), ynghyd â’i deddfwriaeth eilaidd a chanllawiau gan gynnwys y Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn gyfredol mwyach nac ychwaith yn addas i’r pwrpas yng Nghymru. Nid yw DC2008 yn cymryd i ystyriaeth y ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a Deddf Teithio Llesol (Cymru) (2013).

O ran llinellau trawsyrru uwchben y ddaear, ystyrir nad yw Rheolau Holford (1959, a ddiwygiwyd yn y 1990’au) a Rheolau Horlock (nad oes dyddiad ar eu cyfer ar wefan National Grid) yn gyfredol chwaith ac nid ydynt yn gydnaws â’r ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru.

 

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ymrwymedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Teithio Llesol (Cymru). O ran prosiectau seilwaith mawr o arwyddocâd cenedlaethol (Nhsips), mae hyn yn cynnwys ystyried y modd y bwriedir lliniaru effaith prosiectau, naill ai drwy gytundeb Adran 106 neu ofyniad cynllunio. Yn ogystal, bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am rai elfennau o’r Nhsips, megis y gofynion cynllunio.

 

Mae’n debygol y bydd angen cymryd camau lliniaru mwy sylweddol o lawer na’r ‘6 phrawf’ (gweler isod) mewn perthynas â’r deddfwriaethau yng Nghymru y cyfeirir atynt uchod oherwydd maent yn ymwneud hefyd â llesiant cenedlaethau’r dyfodol:

 

1. Yn angenrheidiol

2. Yn berthnasol i gynllunio ac;

3. I’r datblygiad sydd i’w ganiatáu;

4. Yn un y gellir ei orfodi;

5. Yn fanwl gywir ac;

6. Yn rhesymol ym mhob ffordd arall.

 

O’r herwydd, mae Cyngor Sir Ynys Môn o’r farn y dylid diweddaru DC2008 a’r holl ddeddfwriaeth eilaidd a chanllawiau angenrheidiol ar frys er mwyn sicrhau y gall awdurdodau Lleol yng Nghymru ddiwallu eu dyletswyddau statudol a sicrhau bod modd cymryd camau lliniaru digonol.

 

Gofynnaf i’r Cyngor gefnogi’r sylwadau hyn a bod llythyr ffurfiol yn mynegi’r uchod yn cael ei anfon ar ran Cyngor Sir Ynys Môn at y Gwir Anrhydeddus James Brokenshire AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am Ddeddf Cynllunio 2008. Bydd copïau o’r llythyr hefyd yn cael eu hanfon at:

 

Y Gwir Anrhydeddus Greg Clark AS (BEIS)

Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS

Y Prif Weinidog Carwyn Jones

Lesley Griffiths AC

Albert Owen MS

Rhun Ap Iorwerth AC

 

(b)  Cefndir

 

Mae diffyg gwybodaeth fanwl a ddarperir gan y Grid Cenedlaethol ynghylch ei gysylltiad arfaethedig yng Ngogledd Cymru hyd at hyn yn golygu nad yw'r Cyngor mewn sefyllfa i ddeall yr effeithiau llawn o'r datblygiad ar Ynys Môn, ei chymunedau na’i hamgylchedd. Er enghraifft, mae'r Cyngor yn pryderu nad yw’r gymuned leol o gwmpas safle arfaethedig adeilad Pen y Twnnel (gan gynnwys Llanfair Pwll a Llandaniel Fab) wedi derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i werthfawrogi maint llawn y symudiadau HGV a cherbydau eraill yn yr ardal, na’r cynnig i gau Lôn Pont Rhonwy. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y Cyngor wedi gofyn am wybodaeth bellach.

 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn nodi'r sylwadau a wnaed gan y Grid Cenedlaethol yn ei Ddatganiad o Ymgynghori Cymunedol ym mharagraffau 3.5-3.6 sy'n rhoi pwyslais mawr ar ymgysylltu a chael barn pobl sy'n byw yn agos at y cynigion a allai gael eu heffeithio gan y datblygiad, yn barhaol a/neu dros dro yn ystod y gwaith adeiladu.

 

Mae'r diffyg gwybodaeth fanwl wedi golygu na fydd y Cyngor, y rhanddeiliaid na'r gymuned a thrigolion yr effeithir arnynt wedi gallu ffurfio barn wybodus iawn ar effeithiau tebygol y datblygiad, na’r ystod o ofynion cynllunio a hefyd y mesurau lliniaru sydd eu hangen i leihau effeithiau'r cynllun i lefel dderbyniol.

 

Yn flaenorol, mae uwch swyddogion y Grid Cenedlaethol wedi darparu sesiynau briffio ffurfiol i aelodau etholedig a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor. Bellach, rydym yn deall eu bod wedi gwrthod ceisiadau i roi sesiwn briffio ffurfiol arall i aelodau etholedig lle mae cwestiynau yn cael eu gofyn

 

Cynnig

 

1.   Felly mae'r Cyngor yn gofyn, fel mater o frys, fod y Grid Cenedlaethol yn darparu'r wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ac yn cynnal cylch ymgynghori ychwanegol gyda rhanddeiliaid allweddol a'r gymuned sydd wedi'i effeithio fel bod modd i bob effaith, gan gynnwys effeithiau cronnus, a'r cynigion lliniaru manwl gael eu hystyried cyn cyflwyno'r cais yn ffurfiol i'r Arolygiaeth Gynllunio.

 

2.  Mae'r Cyngor yn gofyn i Brif Weithredwr y Grid Cenedlaethol fynychu sesiwn briffio ac i gyflwyno diweddariad i aelodau etholedig Cyngor Sir Ynys Môn ac i ateb cwestiynau'r aelodau am y prosiect.

 

Eiliodd y Cynghorydd Richard A Dew y cynnig.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones at ran (a) ei gynnig a dywedodd fod y Grid Cenedlaethol yn cydymffurfio â Deddf Cynllunio Cenedlaethol 2008 (DC2008). Nid yw Deddf Cynllunio 2008 yn cymryd i ystyriaeth ddeddfwriaeth bresennol yng Nghymru gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) neu Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013) ac nid yw’n cymeradwyo mynd ag unrhyw elw oddi wrth gymunedau lleol er mwyn sicrhau fod cymunedau cryf yn gallu ffynnu. Yn ogystal, ystyrir nad yw Rheolau Holford (1959, a ddiwygiwyd yn y 1990au) a Rheolau Horlock (nad oes dyddiad ar eu cyfer ar wefan National Grid) yn gyfredol chwaith ac nid ydynt yn gydnaws â deddfwriaeth gyfredol yng Nghymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones efallai nad yw’r cynnig a gyflwynwyd yn mynd yn ddigon pell gan mai’r Uchel Lys yn Llundain sy’n penderfynu ar awdurdodaethau cyfreithiol. Dywedodd fod gwrthdaro yng Nghymru rhwng Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Gynllunio Cenedlaethol 2008 a’r Uchel Lys fyddai’n gyfrifol am benderfynu pa un yw’r ddeddfwriaeth gynradd. Roedd yn ystyried fod angen derbyn cyngor cyfreithiol ynglŷn â phwy ddylai fynd i’r Uchel Lys mewn perthynas â’r gwrthdaro mewn deddfwriaeth - yr Awdurdod neu Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones y byddai’n trafod y mater gyda Swyddogion perthnasol yn y Cyngor. Dywedodd y bydd y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) mewn perthynas â Wylfa Newydd yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac y byddai’n rhaid i’r Awdurdod hwn ymateb i ddweud a oedd yr ymgynghoriad yn berthnasol ac a oes angen gofyn am farn yr Uchel Lys.

 

Dywedodd y Pennaeth Datblygu Economaidd ac Adfywio y cafwyd cyngor cyfreithiol ar y mater hwn a’r cyngor a gafwyd oedd bod yr Ysgrifennydd Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gallu gwneud penderfyniad ynglŷn â faint o bwys a roddir i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol benderfynu anwybyddu deddfwriaeth Llywodraeth Cymru neu gall benderfynu fod y ddeddfwriaeth yn hynod o bwysig a pherthnasol. Nododd mai’r cam olaf fyddai mynd i’r Uchel Lys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod llwybr apêl yn agored i’r Awdurdod; mae’n rhaid i’r National Grid ddeall y bydd yr Awdurdod hwn yn mynd i’r Uchel Lys i sicrhau fod preswylwyr a chymunedau lleol sy’n cael eu heffeithio gan y bwriad i godi peilonau’n cael eu diogelu.

 

Yn y bleidlais ddilynol PENDERFYNWYD derbyn y cynnig yn (a) uchod.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones at ran (b) ei rybudd o gynnig a dywedodd fod y Cyngor a phreswylwyr Ynys Môn wedi bod yn gyson eu barn fod rhaid tanddaearu’r ceblau trydan arfaethedig ar draws yr Ynys. Dywedodd nad yw National Grid yn gwrando ar farn y Cyngor hwn a’r cymunedau lleol. Mae diffyg gwybodaeth fanwl a ddarperir gan National Grid ynghylch ei gysylltiad arfaethedig yng Ngogledd Cymru hyd yn hyn yn golygu nad yw’r Awdurdod hwn mewn sefyllfa i ddeall effeithiau llawn y datblygiad ar yr Ynys. Ychwanegodd fod rhaid i’r Awdurdod hwn ymateb o fewn pythefnos i ddyddiad cyflwyno’r DCO ac adrodd a yw National Grid wedi ymgynghori’n briodol ynghylch y mater hwn gyda’r Awdurdod hwn a’i breswylwyr. Dywedodd y Cynghorydd Jones nad yw cynrychiolwyr o National Grid wedi bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod neu sesiwn briffio ar gyfer aelodau etholedig yn yr Awdurdod hwn ers dros ddwy flynedd; nid yw’r aelodau newydd wedi cael cyfle i godi cwestiynau a mynegi barn ynglŷn â’r mater hwn gyda National Grid. Dywedodd nad yw preswylwyr, yn cynnwys cymunedau Llanfairpwll a Llanddaniel Fab, wedi derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ynglŷn â safle arfaethedig Pen y Twnnel ger safle cyn-hanesyddol Bryn Celli Ddu na’r bwriad i gau Pont Rhonwy er gwaetha’r ffaith fod y Cyngor hwn wedi gofyn am fanylion am y gwaith arfaethedig. Dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai graddfa’r gwaith symud pridd a symudiadau cerbydau trwm yn yr ardal yn enfawr. Nid yw National Grid wedi darparu unrhyw wybodaeth i gadarnhau ai ar yr ochr hon o’r Fenai fydd y pridd a’r cerrig o’r gwaith cloddio’n dod i’r lan. Unig ymateb National Grid yw nad ydynt wedi penderfynu; gofynnodd sut fyddai modd i’r Awdurdod gynllunio mesurau lliniaru heb gael trafodaeth agored gyda National Grid. Cyfeiriodd ymhellach at effaith cerbydau trwm ar lonydd cefn gwlad os yw National Grid yn creu trac ar draws yr Ynys er mwyn gwneud gwaith ar y peilonau trydan. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru’n paratoi cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai a bod National Grid yn bwriadu gwario dros £200m i greu twnnel o dan y Fenai i gludo ceblau i gysylltu Wylfa Newydd â’r Grid.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Jones fod oedi o ran cyflwyno’r DCO mewn perthynas â Wylfa Newydd ac felly mae cyfle i National Grid gynnal cyfnod ymgynghori pellach gyda rhanddeiliaid allweddol a’r cymunedau fydd yn cael eu heffeithio fel bod pob effaith, effeithiau cronnus a manylion y cynigion lliniaru’n cael eu hystyried cyn i’r cais gael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod rheilffordd ger safle arfaethedig Pen y Twnnel yn Llanddaniel Fab a gofynnodd a yw National Grid wedi ystyried creu cilffordd ar y rheilffordd er mwy osgoi’r angen i gario miliynau o dunelli o rwbel a cherrig o’r safle hwn. Dywedodd mai dyma’r math o faterion sydd angen eu trafod gyda National Grid ac Aelodau Etholedig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod rhaid i’r Awdurdod hwn barhau i ymgyrchu dros danddaearu ceblau trydan ar draws yr Ynys. Dywedodd y bydd yr effaith ar gymunedau lleol yn anferth, yn arbennig ar drigolion Gogledd yr Ynys, gyda cherbydau trwm yn teithio ar hyd lonydd cul cefn gwlad.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Lewis Davies y costau sy’n gysylltiedig â thanddaearu’r ceblau trydan ar draws yr Ynys ac o dan y Fenai ar draul cymunedau lleol o gymharu â chostau tanddaearu’r ceblau ar wely’r môr tuag at Lannau Merswy a Glannau Dyfrdwy. Dywedodd y Pennaeth Datblygu Economaidd a Rheoleiddio nad yw National Grid wedi darparu manylion am y costau sy’n gysylltiedig â gwahanol opsiynau tanddaearu ceblau ond deallir fod risgiau technegol ynghlwm â gosod ceblau ar wely’r môr gan nad yw gwaith o’r fath wedi ei wneud mewn perthynas â chyfleuster niwclear o’r blaen.

 

Yn y bleidlais ddilynol PENDERFYNWYD derbyn y cynnig yn (b) uchod.