Eitem Rhaglen

Adroddiad Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 4, 2017/18

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol a Thrawsnewid) yn amlinellu sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar gyfer chwarter olaf blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol nad oedd unrhyw bethau annisgwyl ar ddiwedd y flwyddyn gyda’r rhan fwyaf o’r dangosyddion yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau. Cafwyd heriau yn y Gwasanaeth Dysgu; y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion lle yr oedd rhai meysydd yn tanberfformio fel y nodwyd yn yr adroddiad. Mae camau lliniaru, a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn cael eu cymryd mewn perthynas â’r rhain. Ar y llaw arall, mae datblygiadau newydd cyffrous yn digwydd yn y Gwasanaethau Oedolion a disgwylir i’r rheiny arwain at welliannau; mae’r rhain yn ymwneud â dyfarnu Contract Gofal Cartref newydd a diwygiedig; cynyddu capasiti yn Garreglwyd i gymryd unigolion a chanddynt broblemau dementia a datblygu darpariaeth Gofal Ychwanegol Hafan Cefni. 

 

Mewn perthynas â Rheoli Pobl, dywedodd yr Aelod Portffolio er bod y canlyniadau ar ddiwedd y flwyddyn o ran salwch wedi methu’r targed corfforaethol oherwydd cynnydd mewn absenoldebau salwch yn Chwarter 4 – sefyllfa a oedd yn gyffredin ar lefel genedlaethol - mae perfformiad yn parhau i fod yn Felyn ar y Cerdyn Sgorio oherwydd bod y cyfraddau yn Chwarteri 1, 2 a 3 of 2017/18 wedi bod ar y blaen i’r targed a’r gorau mewn tair blynedd. Mae’r gostyngiad yn nifer y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd o fewn yr amserlen (73% o gymharu â 78% yn 2016/17) yn siomedig ac i’w briodoli i’r perfformiad gwael yn Chwarter 1 sydd wedi cael effaith ar y perfformiad cronnol ar gyfer y flwyddyn gyfan. Mae cyfanswm y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd (o fewn yr amserlen a’r tu allan i amserlen) yn 85% sydd ymhell islaw’r targed o 95%.

 

Mae’r perfformiad yn erbyn y DP Gwasanaeth Cwsmer wedi gwella gyda chynnydd nodedig yn y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu gyda’r Cyngor. Mae perfformiad o ran ymateb i Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn yr amserlen yn 78% sy’n welliant o gymharu â’r 77% yn 2016/17 yn arbennig felly o ystyried y cynnydd yn nifer y ceisiadau a dderbyniwyd - 7,527 yn 2017/18 o gymharu â 5,700 yn 2016/17.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod rhaid cynnal y momentwm o welliant parhaus ar draws y Cyngor ac y gellir gwneud hyn wrth i’r holl wasanaethau weithio gyda’i gilydd i roi sylw i’r meysydd hynny ble mae tanberfformiad.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol -

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith y dirywiad mewn perfformiad o ran cynnal Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith. Oherwydd eu bod yn declyn rheoli pwysig i reoli absenoldeb salwch, nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach y dylid gwneud ymdrech o’r newydd i wella nifer y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhelir er mwyn codi perfformiad yn agosach at y lefel darged.

 

Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (AD a Thrawsnewid) fod y ffigyrau diweddaraf ar gyfer mis cyntaf 2018/19 yn dangos fod perfformiad o ran cynnal Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith yn 87% sy’n welliant sylweddol ac yn cadarnhau'r hyn a ddywedodd wrth y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn gynharach yn y mis, sef bod Penaethiaid Gwasanaeth yn canolbwyntio ar fonitro Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gwella a chynnal perfformiad o ran cynyddu nifer y cyfweliadau a gynhelir. 

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y perfformiad yn erbyn DP WMT/009b (% y gwastraff a gasglwyd gan Awdurdodau Lleol a’i baratoi ar gyfer ei ailddefnyddio ac/neu ei ailgylchu) wedi gwella eto eleni i 72.2% gan godi’r Awdurdod i’r safle cyntaf yng Nghymru ar gyfer y mesur perfformiad hwn. Nododd y Pwyllgor Gwaith fod sgôp hefyd i’r Awdurdod adeiladu ar ei ymrwymiad i leihau gwastraff plastig drwy arwain ar, a gosod esiampl drwy weithio tuag at wneud i ffwrdd â phlastigau a ddefnyddir unwaith yn unig.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod tanberfformiad yn erbyn rhai o Ddangosyddion Perfformiad y Gwasanaeth Dysgu yn derbyn sylw drwy’r mesurau adferol penodol a amlinellwyd yn yr adroddiad; mae gwaith monitro a gwella yn mynd rhagddo hefyd drwy’r Byrddau Trawsnewid Addysg a Safonau Addysg ynghyd â’r Panel Adolygu Perfformiad Ysgolion.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod 71 o gwynion wedi dod i law ar ddiwedd y flwyddyn ynghyd â 9 o gwynion Cam 2 yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a bod y cyfan o’r cwynion wedi derbyn ymateb gydag 18 ohonynt wedi cael eu cadarnhau yn llawn, 5 yn rhannol a’r 48 arall wedi cael eu gwrthod. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ynghylch a yw gwasanaethau’n dadansoddi sylwedd y cwynion er mwyn dysgu ohonynt a nodi gwelliannau posibl.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) fod gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar gwynion fel ffynhonnell o wybodaeth am wasanaethau a all arwain at welliannau; mae’r Panel Gwella Gofal Cwsmer hefyd yn gweithio ar sicrhau cysondeb ar draws gwasanaethau o ran canmoliaethau a chwynion.

 

Penderfynwyd

 

  Derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio am Chwarter 4 2017/18 a nodi ei  gynnwys.

  Nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol fel y cânt eu nodi yn adran 1.4 yr adroddiad.

  Derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: