Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion ar Ynys Môn –Symud dyddiad gweithredu'r rhybuddion statudol ar gyfer Ysgol Santes Dwynwen, Ysgol Parc y Bont ac Ysgol Brynsiencyn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ohirio dyddiadau gweithredu’r rhybudd statudol i gwblhau Ysgol Santes Dwynwen a’r rhybudd statudol i newid statws Ysgol Parc y Bont i 1 Ebrill 2019.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a’r Gwasanaethau Ieuenctid bod yr Awdurdod ac Esgobaeth Bangor (Yr Eglwys yng Nghymru), ar 17 Mehefin 2016, wedi cyhoeddi dau rybudd statudol o’u bwriad i (1) gyfuno Ysgol Bodorgan, Ysgol Dwyran, Ysgol Llangaffo ac Ysgol Niwbwrch yn ysgol newydd dan reolaeth wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru ar safle yn Niwbwrch, a (2) i beidio â chefnogi Ysgol Parc y Bont fel ysgol yr Eglwys yng Nghymru, i sefydlu ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg newydd i’w chynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer bechgyn a genethod 3-11 oed ac i ffederaleiddio Ysgol Brynsiencyn gydag ysgol arall. Roedd y cynigion hyn i gael eu gweithredu ar 1 Medi, 2018. Fodd bynnag, oherwydd y ffactorau a nodir yn yr adroddiad, sef materion yn ymwneud â phrynu’r tir a phrosesau caniatâd cynllunio’n cymryd mwy o amser na’r disgwyl ac yna’r oedi cyn yr Etholiad Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017 ac yna’r Etholiad cyffredinol ym mis Mehefin 2017, bu’n rhaid gwthio dyddiad cychwyn y ddau gynnig yn ôl ac o’r herwydd, gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith ystyried cymeradwyo ymestyn yr amserlen am gyfnod o 8 mis hyd at 1 Ebrill, 2019. Fel yr un a gynigiodd y bwriad yn y rhybuddion statudol gwreiddiol, rhaid i’r Pwyllgor Gwaith ganiatáu unrhyw newidiadau i’r amserlen.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu mai 4 Mawrth 2019 yw’r dyddiad targed o hyd ar gyfer agor yr ysgol newydd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Peter Rogers fel Aelod Lleol a dywedodd ei fod, er yn cefnogi’r ysgol newydd ac yn gweithio’n galed i sicrhau ei llwyddiant, yn siomedig gyda’r oedi ac yn arbennig y sgil-effeithiau posibl ar niferoedd disgyblion yn yr ysgol newydd gyda rhai disgyblion yn trosglwyddo i ysgolion y tu allan i’r ardal ac, yn fwy arwyddocaol, yr effaith bosib ar y rhagamcanion mewn perthynas â niferoedd disgyblion yn ysgol uwchradd y dalgylch, sef Llangefni, gyda hynny efallai’n cael effaith ar ariannu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Lleol am ei sylwadau a dywedodd ei bod hi a’r Pwyllgor gwaith yn rhannu ei ymrwymiad i wneud yr ysgol newydd yn llwyddiant ar gyfer yr ardal a phlant yr ardal. Roedd heriau ychwanegol wedi bod ynghlwm wrth yr ysgol ond fel y disgrifir yn yr adroddiad, roedd y rheiny’n anffodus y tu draw i reolaeth yr Awdurdod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg bod newid y status quo yn anorfod yn mynd i fod yn heriol. Fodd bynnag, mae profiadau’r gorffennol o agor ysgolion newydd wedi profi bod y negeseuon, ar ôl goresgyn yr heriau cychwynnol, wedi bod yn gadarnhaol.

 

Penderfynwyd oedi gyda’r canlynol tan 1 Ebrill, 2019 –

 

  Dyddiad gweithredu cynnig (1) i gwblhau Ysgol Santes Dwynwen.

  Dyddiad gweithredu cynnig (2) i newid statws Ysgol Parc y Bont.

Dogfennau ategol: