Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu Cynllun Gwella’r Gwasanaeth.

 

Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod y Gwasanaeth, yn ystod y cyfnod ers arolygiad AGC o’r Gwasanaethau Plant wedi bod yn brysur yn sefydlu cyfres o newidiadau pwysig a fydd, fe dybir, yn darparu gwasanaethau a fydd yn cydymffurfio’n well â deddfwriaeth. Disgrifir y rhain yn yr adroddiad gyda phwyslais penodol ar ailstrwythuro’r Gwasanaeth yn canolbwyntio ar Ymyrraeth Gynnar ac Atal ac Ymyrraeth Ddwys; datblygu Strategaeth Atal gyda’r nod o leihau angen ar bob lefel; datblygu systemau a phrosesau ac ansawdd a chysondeb Ymarfer. Mae’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn cyfarfod yn fisol ac wedi bod yn craffu yn ofalus y cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y gwnaed llawer iawn o waith ar bob lefel o’r Gwasanaeth, mae’r gwaith yn mynd rhagddo ac yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae’r Gwasanaeth angen cyfnod yn awr i ganolbwyntio ar agweddau ymarferol Gwaith Cymdeithasol er mwyn bwrw ymlaen â chynlluniau; at ei gilydd, mae’r Gwasanaeth ar y trywydd iawn ac yn symud i’r cyfeiriad iawn.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y diweddariad ar gynnydd a gofynnodd am sicrwydd ynglŷn â’r pwyntiau canlynol -

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith y bu’n flaenoriaeth i’r Gwasanaeth ddatblygu Strategaethau Atal ac Ymyrraeth Gynnar a bod gweithredu’r strategaethau hyn yn arwain at welliannau. O’r herwydd, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ar effaith y gwaith hwn o ran nifer yr achosion lle cymerwyd camau ymyrraeth gynnar yn ystod y chwe mis diwethaf ac a oedd hynny wedi arwain at well canlyniadau i’r Gwasanaeth ac i blant a theuluoedd.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, er bod nifer y cyfeiriadau i’r Gwasanaeth wedi aros yn gyson, mae’r Gwasanaeth wedi medru ymateb mewn gwahanol ffyrdd yn dilyn cyfeiriad, e.e. drwy wneud defnydd cynyddol o ymatebion y Tîm o Amgylch y Teulu (TAT). Mae capasiti’r TAT wedi cael ei gynyddu o dri i chwe swyddog sydd, y cyfan ohonynt, â baich achosion llawn. Drwy ymyrryd yn y modd hwn, mae anghenion teuluoedd yr ystyrir eu bod yn fregus ac a fyddai fel arall yn cael sylw drwy’r system Gwaith Cymdeithasol, yn cael eu lleihau cyn iddynt ddod yn fwy difrifol. Mae’r Tîm Teuluoedd Gwydn hefyd wedi bod yn gweithio gyda phump o deuluoedd mewn modd rhagweithiol a hynny wedi arwain at ddelio gydag anghenion 8 o blant heb iddynt orfod mynd i mewn i’r system ofal. Yn ychwanegol at hyn, mae’r Gwasanaeth wedi bod yn adolygu achosion a lle mae’n briodol, wedi bod yn rhyddhau Gorchmynion Gofal fel y gall plant ddychwelyd i fyw gyda’u teuluoedd heb gael eu rhoi mewn gofal.

 

  Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ynghylch a yw’r Gwasanaethau plant wedi gorfod ymyrryd ar fyr rybudd mewn achosion lle mae anghenion yn ddwys.

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y gall ymyrraeth gymryd sawl ffurf ac y gall ddigwydd ar wahanol lefelau; mewn rhai achosion gall ymyrraeth gynnar gan y trydydd sector a gwasanaethau cyffredinol yn gweithio gyda theuluoedd yn gynnar iawn olygu nad yw’r plentyn yn dod i sylw Gwasanaethau Cymdeithasol o gwbl; mae’r Gwasanaeth wrthi’n adolygu’r modd y mae’n defnyddio adnoddau Teuluoedd yn Gyntaf a symud y rhain i sail tair blynedd. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cryfhau ei gysylltiadau gydag ysgolion lle mae TAT yn rhan o’r ddarpariaeth gan olygu bod ymgysylltiad gyda theuluoedd yn digwydd yn llawer cynharach. Yn wyneb y gorwariant yn y Gwasanaethau Plant, dywedodd y Swyddog ei bod yn bwysig bod y Gwasanaeth hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar ochr ddwys y ddarpariaeth e.e. byddai’r 8 plentyn a fyddai fel arall wedi bod angen darpariaeth drwy’r Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Plant oni bai am fewnbwn y Tîm Teuluoedd Gwydn wedi rhoi pwysau sylweddol ar y gyllideb.

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn weinyddol, wedi symud i system newydd, sef System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) ac y cafwyd rhai problemau cychwynnol gyda’r system yn enwedig o ran prosesau llif gwaith. Mae’r problemau hyn wedi cael sylw gyda chymorth allanol. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am esboniad ynghylch a yw’r mewnbwn hwn wedi bod yn ddefnyddiol ac a yw’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn fodlon bod y system yn awr yn ymateb i’w hanghenion.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd bod bwrdd wedi cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod y system yn cwrdd ag anghenion y Gwasanaethau Cymdeithasol a bod blaenoriaeth yn cael ei rhoddi i’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac yn enwedig felly’r strwythurau yn y Gwasanaeth. I’r perwyl hwn, mae’r Gwasanaeth wedi cael ei rhannu’n bedair adain gyda’r ffocws cychwynnol ar Deuluoedd yn Gyntaf a Theulu Môn. Cafwyd sgyrsiau gyda staff i sefydlu pa agweddau o’r system y mae angen eu hegluro ac/neu eu haddasu ac mae’r newidiadau a wnaed o ganlyniad yn yr ail wythnos o’u gweithrediad. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn y drydedd wythnos o’r cam nesaf o adolygu’r system o bersbectif yr ail adran sy’n ymwneud â Diogelu Plant a phlant sy’n mynd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ac sy’n cael eu tynnu oddi arni. Mae’r gwaith felly’n mynd rhagddo yn gyflym gyda hyfforddiant lefel uchel yn cael ei gynnig i’r staff fel rhan o’r gweithdai yn ogystal â chamau i reoli’n well y problemau gyda’r system fel bod y problemau a gaiff aelodau unigol o staff yn cael eu hamlygu a hyfforddiant un i un yn cael ei ddarparu. Wedi bod yn rhan o’r newidiadau, mae’r staff yn awr mewn gwell sefyllfa i ddeall y system a sut y gall weithio iddyn nhw. Mae’n sefyllfa sy’n gwella ac mae sgôp i wella’r system ymhellach wrth i’r Gwasanaeth wneud cynnydd gyda’r adrannau gweddilliol.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon gyda’r canlynol -

 

  Y camau a gymerwyd i fynd ati i weithredu Cynllun Gwella’r Gwasanaeth a chyflymder y cynnydd.

  Cyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Dogfennau ategol: