Eitem Rhaglen

Cynlluniau Adfywio ar gyfer Amlwch a Biwmares

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Datblygu Economaidd a Rheoleiddio mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

(Gwahoddwyd Aelodau Lleol Wardiau Twrcelyn a Seiriol i’r Pwyllgor mewn perthynas â’r eitem hon). 

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Adfywio mai dyhead y Cyngor Sir yw gyrru adfywio cymunedol drwy ddatblygu cynlluniau tref a chymuned holistaidd ar gyfer prif aneddiadau’r Ynys. Nododd fod gan y pum tref gydnabyddedig yn Ynys Môn nodweddion gwahanol a bod hyn wedi effeithio ar lefel y buddsoddiad sector preifat ar gyfer adfywio ym mhob tref. Cafodd y nodweddion allweddol sy’n gallu effeithio ar fuddsoddiadau o’r fath eu hamlygu i’r Pwyllgor yn yr adroddiad. Nododd ymhellach fod y pum tref wedi elwa yn y gorffennol o fuddsoddiadau cyfalaf adfywio megis yr hyn a sicrhawyd gan y Cyngor gan Asiantaeth Datblygu Cymru a rhaglen ‘Môn a Menai’ Llywodraeth Cymru. Mae prif arian adfywio cyfalaf Llywodraeth Cymru wedi bod yn destun lefelau uwch o dargedu daearyddol dros y blynyddoedd diwethaf wrth i Llywodraeth Cymru yn gynyddol fod angen blaenoriaethu ei adnoddau prin ar nifer llai o aneddiadau strategol. Mae Caergybi a Llangefni yn ddiweddar wedi denu lefelau sylweddol o fuddsoddiadau cyfalaf drwy Lywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd ac arian Loteri ond mae’n profi’n anoddach i’r Cyngor sicrhau cyllid tebyg ar gyfer prosiectau mewn trefi llai o ran maint a sy’n llai difreintiedig. Nododd y Swyddog fod y Pwyllgor Gwaith wedi cytuno yn ddiweddar y dylai Swyddogion lobÏo i sicrhau bod arian adnewyddu ar gael i drefi llai ac ardaloedd gwledig. Mae rhaglenni cyllido gwledig y DU yn parhau i ddarparu sgôp ar gyfer buddsoddiad mewn aneddiadau llai ond mae’r cyllidebau hyn fel arfer yn fwy cyfyngedig e.e. LEADER, Y Gronfa Ddatblygu Cymunedau Gwledig (RCDF) a Chynllun Isadeiledd Amwynder Twristiaeth (TAIS). Cafodd tabl yn rhestru rhai o’r prosiectau/materion allweddol sydd ar y gweill neu o dan ystyriaeth eu rhestru yn yr adroddiad a oedd gerbron y Pwyllgor.    

    

·           Cwestiynau a godwyd gan yr Aelodau Etholedig Lleol, Ward Twrcelyn:-

 

Holwyd pam nad yw ardal Amlwch yn cael ei blaenoriaethu ar gyfer prosiectau adfywio fel y mae Trefi tebyg ar yr Ynys sydd â phoblogaeth debyg. Cyfeiriodd yr Aelodau yn benodol at safle Rhosgoch, tir ger Maes Mona, Canolfan Hamdden Amlwch, Harbwr Amlwch (defnydd posibl o gronfa pysgodfeydd yr UE ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau’r harbwr), Adeiladau Gwag h.y. safle Octel a chyfleusterau sy’n berchen i’r Cyngor (Porth Amlwch) sydd wir angen buddsoddiad er mwyn galluogi tref Amlwch i ddenu cyfleoedd cyflogaeth a thwristiaeth i’r ardal. Mynegwyd pryderon nad oes cyllid wedi’i ddarganfod tuag at brosiectau adfywio yn ardal Amlwch a’r pentrefi cyfagos. Dywedodd yr Aelodau Lleol nad oedd unrhyw amserlen wedi’i nodi ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf yn Amlwch.  

 

Ymatebodd y Rheolwr Adfywio, mewn perthynas â lefel y buddsoddiad yn ardal Amlwch, mai nod  Cynllun Adfywio Ardal Amlwch yw darparu dogfen weledol sy’n adnabod gwelliannau y gellir eu cyflawni ar gyfer ardal Amlwch sy’n seiliedig ar ymgysylltu â chymunedau lleol am eu blaenoriaethau. Nododd, er bod gan Llangefni boblogaeth tebyg a ffigyrau tebyg o ran diweithdra a hawlwyr budd-daliadau, bod Ward Tudur yn Llangefni wedi’i hadnabod fel ardal hynod ddifreintiedig ac yn gallu sicrhau arian ar gyfer prosiectau yn y Ward honno. Nododd ymhellach, er mwyn sicrhau cyllid gan yr UE, bod angen sicrhau cyllid cyfatebol er mwyn i ddatblygiadau allu cael eu gwireddu. Cyfeiriodd at rai o’r safleoedd a gafodd eu crybwyll gan yr aelodau lleol a oedd mewn perchnogaeth preifat e.e. safleoedd Rhosgoch ac Octel. Nododd bod modd i’r Awdurdod gefnogi a thrafod y posibiliadau ar gyfer cyflogaeth ar y safleoedd hyn.  

 

Nododd yr Aelodau Lleol fod safle Rhosgoch wedi’i ddynodi yn Barth Menter a bod modd denu nawdd grant ar gyfer prosiectau posib ar safleoedd o'r fath. Mynegwyd hefyd fod angen i Dref Amlwch a phentrefi lleol allu manteisio ar brosiect Wylfa Newydd a chyfleoedd adfywio a allai godi o ganlyniad i ddatblygiad o’r fath.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Adfywio at Borth Amlwch a’r posibilrwydd o nawdd pysgodfeydd UE. Nododd fod cyllid yr UE wedi’i dargedu tuag at gychod pysgota ac nid cychod pleser fel sydd wedi’i awgrymu gan y gymuned leol. Cyfeiriodd at Ganolfan Hamdden Amlwch a nododd fod cynllun gwella yn cael ei ystyried ar gyfer gwelliannau i’r Ganolfan.

 

·           Cwestiynau a godwyd gan Aelod Etholedig lleol Ward Seiriol:-

 

Mynegodd y Cynghorydd Lewis Davies y bu diffyg buddsoddiad yn nhref Biwmares dros y blynyddoedd o gymharu â threfi mwy ar yr Ynys. Nododd fod gan y brif stryd ym Miwmares nifer o siopau gwag a bod isadeiledd y dref yn dirywio. Mae cyfran y cartrefi gwyliau yn y dref wedi cynyddu ac mae diffyg y tai rhent a thai cymdeithasol yn destun pryder. Nododd fod y Cyngor Tref yn cefnogi cael tai cymdeithasol ar safle’r ysgol gynradd leol ond fod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu sefydlu cyfleuster Gofal Ychwanegol ar y safle. Mynegodd hefyd mai tref Biwmares sydd wedi gweld y mwyaf o wasanaethau sydd ar gael i drigolion yn cael eu trosglwyddo i wirfoddolwyr, gwirfoddolwyr sy’n gyfyngedig o ran niferoedd.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at y tirlithriad ar ffordd yr A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares a olygodd bod yn rhaid i drigolion ac ymwelwyr deithio ar hyd ffyrdd bychan er mwyn cael mynediad i’r dref. Ymatebodd y Rheolwr Adfywio drwy nodi bod cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi’i sicrhau er mwyn cryfhau rhan o ffordd yr A545 i Fiwmares.     

 

Nododd y Cynghorydd Davies ymhellach fod ganddo bryderon difrifol bod yr adroddiad yn nodi nad oes capasiti ac adnoddau staff ar gael ar hyn o bryd er mwyn datblygu cynlluniau adfywio yn yr ardal yn y dyfodol agos. Holodd beth oedd pwrpas yr adroddiad os nad oedd adnoddau na chapasiti ar gael i adfywio Tref Biwmares. Ymatebodd y Swyddog Adfywio bod gwaith yn cael ei wneud ar ogledd yr Ynys a rhagwelir y bydd yr adnoddau ar gael er mwyn ymgymryd â’r gwaith yn ardal Biwmares yn y man. Dywedodd y Swyddog hefyd y bydd y gwaith yn cael ei wneud i drafod potensial safle Lairds sy’n wag ar hyn o bryd.    

 

Dywedodd y Swyddog Adfywio hefyd bod diweithdra a diffyg tai cymdeithasol yn broblem mewn cymunedau ac yn enwedig pan nad yw cyfran uchel o gartrefi gwyliau ar gael fel llety rhent i bobl ifanc lleol. Mynegodd, tra bo tai cymdeithasol a llety rhent yn fater i’r Gwasanaethau Tai, bod gwaith wedi’i wneud er mwyn ystyried y Clwb Cymunedol lleol, sydd wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd, fel safle posibl ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol yn nhref Biwmares. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod buddsoddiad wedi digwydd yn nhref Biwmares wrth i waith gael ei wneud ar y wal ger y môr, yr angorfeydd, y pier ac wrth i gyllid gael ei ddiogelu i wneud gwaith ar yr A545. Dywedodd ei fod yn cytuno bod angen datblygu’r hen safle Lairds ond, am nifer o wahanol resymau, na chafodd y safle ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol.  

 

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad ac ystyriwyd fod yr adroddiad wedi dod gerbron y Pwyllgor yn rhy fuan a bod angen cyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor ymhen chwe mis pan fydd cynlluniau yn eu lle er mwyn sicrhau bod modd gweithredu rhai o’r cynlluniau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Y dylid paratoi cynllun adfywio ar gyfer ardal Amlwch;

·           Nodi bodolaeth nifer o gynlluniau a gwahanol faterion sydd o dan ystyriaeth ar gyfer Amlwch a Biwmares;

·           Y dylid cyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor hwn o fewn chwe mis pan fydd cynlluniau yn eu lle a fydd yn galluogi rhai o’r prosiectau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad i gael eu gweithredu.  

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

 

Dogfennau ategol: