Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr yn cynnwys safbwynt y cyngor ar ad-drefnu llywodraeth leol ac ymatebion i gwestiynau penodol i’r Cyngor ar gyfer ystyriaeth.
Adroddodd y Prif Weithredwr fod y Papur Gwyrdd yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘Llywodraeth leol gryfach, sy’n fwy grymus yng Nghymru.’ Mae’r Papur Gwyrdd yn dadlau o blaid ad-drefnu - gwahanol safbwynt i Bapur Gwyn 2017 a oedd yn cadarnhau na fyddai’r syniad o ad-drefnu yn cael ei weithredu gyda’r ffocws yn hytrach ar fwy o gydweithio rhwng Awdurdodau. Nododd bod 3 opsiwn yn y Papur Gwyrdd fel a ganlyn:-
Opsiwn 1 – Uno gwirfoddol rhwng awdurdodau lleol
Opsiwn 2 – Dull fesul cam erbyn 2026
Opsiwn 3 – Rhaglen uno gynhwysfawr a phenodol erbyn 2022
Nododd fod yr Arweinwyr Grŵp wedi sefydlu Panel Ad-drefnu Llywodraeth Leol er mwyn ystyried ymateb drafft y Cyngor sydd wedi’i atodi fel Atodiad 2 i’r adroddiad. Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd am eu gwaith mewn perthynas â’r mater hwn.
Dywedodd fod y Panel ac Arweinyddion Grwpiau wedi dod i’r casgliad na chefnogir y cynigion hyn a’u bod yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw ad-drefnu o’r awdurdod yn y dyfodol yn seiliedig ar y ffeithiau a gyflwynwyd.
Mae safbwynt y Cyngor wedi’i lunio ar yr egwyddorion a nodir yn nhudalen 1 o’r ymateb
drafft sef:
1) Yr angen i ddarparu trigolion Ynys Môn â gwasanaethau effeithiol ac effeithlon.
Cydnabyddir y gallai hyn gynnwys cydweithio rhanbarthol ac isranbarthol er mwyn
sicrhau bod yr arbenigedd a gwytnwch angenrheidiol yn ei le a bod angen sefydlu
trefniant er mwyn sicrhau atebolrwydd uniongyrchol yn lleol ar gyfer ansawdd y
gwasanaethau. Yn y cyd-destun hwn, mae angen dealltwriaeth o’r math o wasanaethau
a fydd yn cael eu darparu’n rhanbarthol, yn isranbarthol ac yn lleol, wedi’i alinio’n fras â
chanfyddiadau Comisiwn Williams ond hefyd yn awgrymu bod angen i lywodraeth leol
wneud penderfyniadau ar strwythurau cydweithio.
2) Fe ddylai unrhyw drefniadau cydweithio fod yn seiliedig ar y buddion tebygol i drigolion
Ynys Môn neu ar y rhagdybiaeth y gellir darparu gwasanaethau o’r un safon yn rhatach.
3) Mae’r Cyngor o’r farn bod arweinyddiaeth yn seiliedig ar wybodaeth leol yn bwysicach
na maint. Mae’r Cyngor o’r farn y gellid bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru drwy
gyfuniad o gydweithio a darpariaeth leol, h.y. estyniad naturiol o’r sefyllfa bresennol. Yn
ychwanegol, at hynny, cydnabyddir bod angen rhoi ystyriaeth fanwl i unrhyw bosibilrwydd
o ddarparu gwasanaethau mewn modd mwy cost-effeithiol, e.e. lleihau costau rheoli neu
wasanaethau cefnogi.
Fe ddylai’r materion allweddol hyn fod yn ganolog i unrhyw benderfyniad ar ad-drefnu
llywodraeth leol, yn hytrach na llinellau ar fap.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai uno ag awdurdod cyfagos yn cael effaith andwyol ar drigolion yr Ynys o ran darpariaeth gwasanaethau; democratiaeth leol ac atebolrwydd ac y byddai hefyd yn effeithio ar yr economi leol a lefelau’r Dreth Gyngor. Dywedodd fod lefel y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo Band D yng Ngwynedd dros £100 yn uwch nac ym Môn, sy’n darparu’r un lefel o wasanaethau. Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor eisoes yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau eraill a rhoddodd enghraifft o gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn perthynas â thrawsnewid Gwasanaethau Llyfrgelloedd o fewn yr awdurdod hwn ac er mwyn asesu’r gweithdrefnau a gyflawnwyd gan Gyngor Conwy. Mae’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yn cydweithio ar Fid Twf Gogledd Cymru. Cyfeiriodd hefyd at y cydweithio â Bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn perthynas â’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at yr awgrymiad y gallai ad-drefnu llywodraeth leol gostio dros £200m a nododd y byddai’n well gwario’r arian hwn ar wella gwasanaethau ar gyfer trigolion pan mae cyllidebau llywodraeth leol o dan bwysau sylweddol. Nododd y byddai uno Ynys Môn a Gwynedd yn creu ardal ddaearyddol enfawr ac y gallai hyn effeithio ar atebolrwydd yn lleol a’r ffordd y darperir gwasanaethau i drigolion yn lleol.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y sylwadau canlynol:-
· Nid yw lleihau nifer yr awdurdodau lleol o 22 i 10 yn golygu gwell gwasanaethau, rhywbeth sydd wedi’i weld yng Ngogledd Cymru gyda’r gwasanaeth iechyd;
· Atebolrwydd lleol a gwasanaethau i drigolion lleol yw’r brif ystyriaeth.
· Yr effaith negyddol posibl o uno awdurdodau lleol ar waith caled a gweledigaeth yr Awdurdod hwn yn dilyn datblygu perthynas waith agos â datblygwyr prosiectau isadeiledd mawr h.y. Wylfa Newydd, Bluestone, Morlais Marine Energy ac Orthios;
· Fe ddylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Gogledd a De Cymru yn hytrach na gwario’n ddiangen ar ad-drefnu llywodraeth leol;
· Byddai effaith economaidd sylweddol ar dref Llangefni, lle mae prif swyddfeydd y Cyngor wedi eu lleoli, petai’r rhan fwyaf o’r staff yn cael eu hadleoli;
· Byddai gwreiddiau gwasanaethau lleol yn cael eu colli yn y cymunedau gwledig;
· Mae arweinyddiaeth yn seiliedig ar wybodaeth leol yn bwysicach na maint yr awdurdod;
· Gallai disgwyliadau Llywodraeth Cymru gael eu bodloni drwy gyfuniad o gydweithio a darpariaeth leol o wasanaethau;
· Mae’r Papur Gwyrdd yn canolbwyntio’n ormodol ar strwythurau a llinellau ar fap;
· Fe ddylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar yr ansicrwydd ynghlwm â Brexit ac fe ddylent sicrhau’r gorau i Gymru yn dilyn Brexit;
· Fe ddylai cyllid cyhoeddus fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn hytrach nag ad-drefnu llywodraeth leol. Mae’r Cyngor hwn wedi gwneud arbedion effeithlonrwydd sylweddol drwy drawsnewid gwasanaethau a dylid gadael llonydd iddo ddarparu’r gwasanaethau gorau y gellir eu fforddio ar gyfer trigolion lleol. Rhoddwyd enghraifft o ailgylchu ar yr Ynys gan fod Ynys Môn yn un o’r awdurdodau sy’n perfformio orau yng Nghymru;
· Does dim cyfeiriad yn y Papur Gwyrdd at y model aml-aelod yn Ynys Môn, sydd â 30 o Aelodau Etholedig, a sut byddai hyn yn cyfartalu â Chyngor Gwynedd sydd â 75 o Aelodau Etholedig yn cynrychioli wardiau unigol;
· Cyfeirir yn y Papur Gwyrdd at yr angen i’r Cynghorau Tref a Chymuned fod yn rhan hanfodol o lywodraeth leol. Ystyriwyd, wrth dderbyn fod gan y Cynghorau Tref a Chymuned rôl i’w chwarae mewn cymunedau lleol, pwysleisiwyd y dylai atebolrwydd democrataidd gan Lywodraeth gael ei gyfeirio at lywodraeth leol yn y lle cyntaf.
Yn dilyn trafodaethau pellach PENDERFYNWYD:-
· Cadarnhau safiad y Cyngor ar ddiwygio llywodraeth leol fel y nodir yn Atodiad 2 ynghyd â’r ymatebion i gwestiynau penodol.
· Rhoi awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, i greu ymateb terfynol y Cyngor erbyn 12 Mehefin, 2018.
Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Haynes atal ei bleidlais.
Dogfennau ategol: