Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2017/18

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2017/18 er sylw’r Pwyllgor. Mae'r adroddiad yn darparu dadansoddiad o berfformiad y Gwasanaeth AM am y cyfnod o 1 Ebrill, 2017 hyd 31 Mawrth, 2018 ac roedd yn cynnwys barn flynyddol y Prif Swyddog Archwilio (h.y. y Pennaeth Archwilio a Risg) ar ddigonolrwydd prosesau rheoli risg, rheolaeth a llywodraethu'r Cyngor ar gyfer y cyfnod dan sylw.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg, yn seiliedig a waith a gweithgareddau’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ystod 2017/18 fel y'u dogfennwyd yn Atodiad A, ei bod yn gallau cadarnhau bod gan Gyngor Sir Ynys Môn, am y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2018, fframwaith digonol ac effeithiol ar gyfer rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth fewnol. Er nad oedd hi'n ystyried bod unrhyw feysydd o bryder corfforaethol sylweddol, mae angen gwella rhai meysydd neu gyflwyno rheolaeth fewnol er mwyn sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni a bydd y rhain yn cael eu monitro. Nid oedd unrhyw amodau i’r farn hon.

 

O safbwynt perfformiad, dywedodd y Swyddog fod cymharu perfformiad y Gwasanaeth yn erbyn y targed a'i feincnodi gyda Phrif Grŵp Archwilwyr Cymru (Atodiad D) yn dangos ei fod yn y chwartel uchaf mewn pum maes ac yn y meysydd hynny nad yw ei berfformiad cystal, e.e. o safbwynt cost, gellir priodoli hynny i’r ffaith bod Ynys Môn yn awdurdod llai. Hefyd, tynnodd y Swyddog sylw at y ffaith bod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn rhoi pwyslais ar hyfforddiant a datblygiad ac wedi buddsoddi'n sylweddol i sicrhau bod aelodau'r tîm yn parhau â'u datblygiad proffesiynol ac yn cadw i fynyd â’r risgiau a'r datblygiadau sy'n esblygu yn y sector.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a ddarparwyd. O safbwynt perfformiad, nododd y Pwyllgor fod perfformiad gwirioneddol y Gwasanaeth yn 29 yn erbyn targed o 44 (o gymharu â chyfartaledd WCAG o 69). Nododd y Pwyllgor hefyd mai’r farn yw nad oes unrhyw feysydd o bryder corfforaethol sylweddol, er gwaethaf y ffaith y dygwyd sylw at nifer o feysydd lle'r oedd y lefel sicrwydd yn gyfyngedig a lle'r oedd cynnydd yn araf neu oddi ar y trywydd yn ystod y flwyddyn.

 

Mewn perthynas â pherfformiad y Gwasanaeth, dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg ei bod, ar ôl edrych i mewn i’r sail ar gyfer cyfartaledd WCAG, wedi canfod bod rhai cynghorau'n diffinio archwiliad yn wahanol ac yn cynnwys gwirio gwybodaeth fel archwiliad, a dyna pam mae cyfartaledd WCAG yn uwch ar 61. Wedi'i feincnodi gyda'r chwe awdurdod yng Ngogledd Cymru, mae perfformiad gwasanaeth Archwilio Mewnol Ynys Môn yn cymharu'n dda. O ran nad oedd unrhyw feysydd o bryder corfforaethol, dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg mai dim ond 4 risg goch sydd bellach yn parhau i fod angen sylw ac wedi pwyso a mesur yr holl waith a wnaed, gallai gadarnhau ei bod hi o'r farn nad oedd unrhyw feysydd a oedd yn peri pryder sylweddol ar lefel gorfforaethol. Fodd bynnag, roedd meysydd y mae angen eu gwella ac mae’r rhain wedi cael ei nodi yn y farn.

 

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2017/18 a derbyn hefyd farn archwilio cyffredinol y Pennaeth Archwilio a Risg mewn perthynas â digonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth, 2018.

 

Dogfennau ategol: