Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol: Parodrwydd ar gyfer Wylfa Newydd a'i Heffaith ar Gapasiti Corfforaethol

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yr Archwiliwr Allanol ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.

 

Dywedodd Mr Huw Lloyd Jones, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) fod Swyddogion Llywodraeth Cymru wedi trafod gyda'r Cyngor y posibilrwydd y gallai Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth ychwanegol o ystyried graddfa a chymhlethdod prosiect Wylfa Newydd. Yn dilyn trafodaeth gyda’r Cyngor a Llywodraeth Cymru, penderfynwyd y byddai SAC yn cynnal adolygiad a fyddai’n canolbwyntio ar allu'r Cyngor i gyflawni ei amcanion strategol, tra'n rheoli a lliniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â phrosiect Wylfa Newydd. Edrychodd yr adolygiad ar allu a pharodrwydd y Cyngor i gefnogi cyflawni prosiect Wylfa Newydd yng nghyd-destun y Rhaglen Ynys Ynni ac amcanion strategol ehangach y Cyngor. Rhoddwyd ystyriaeth i a yw'r Cyngor yn meddu ar y cynlluniau a'r capsiti i wneud y gorau o'r cyfleoedd a lliniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â Wylfa Newydd heb beryglu ei allu i gyflawni ei holl flaenoriaethau a gwasanaethau.

 

Dywedodd y Swyddog fod yr adolygiad wedi canfod bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da fel yr awdurdod sy’n lletya prosiect Wylfa Newydd heb i hynny amharu ar gyflawni blaenoriaethau eraill ond bod cyfnod heriol o’n blaenau sy’n golygu y bydd cydweithrediad agos ymhlith partneriaid y sector cyhoeddus yn hanfodol. Mae'r adroddiad yn gwneud tri chynnig ar gyfer gwella. Mae'r rhain yn ymwneud â'r angen i'r Cyngor fonitro capasiti yn barhaus wrth i brosiect Wylfa Newydd fynd yn ei flaen; yr angen i'r Cyngor weithio gydag ymgynghoreion eraill y sector cyhoeddus i gydlynu'r asesiad o risgiau sy'n gysylltiedig â'r prosiect a rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyffredin o'r risgiau a sut y gellir eu lliniaru; a'r angen i'r Cyngor weithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus i nodi cyfrifoldebau arweiniol ar gyfer datblygu'r gadwyn gyflenwi a chynyddu cyfleoedd hyfforddi ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.

 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o gerrig milltir i'w cyrraedd cyn i'r prosiect ddwyn ffrwyth a bod yr elfen hon o ansicrwydd yn risg, yn enwedig o ran y buddsoddiad ariannol sydd ei angen wrth baratoi ar ei gyfer.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) ei bod hi'n croesawu'r adroddiad, yn enwedig y canfyddiad nad yw paratoi ar gyfer prosiect Wylfa Newydd wedi effeithio ar allu’r Cyngor i gyflawni ei ymrwymiadau craidd. Mae'r Cyngor yn sylweddoli'n llawn y gwaith sy'n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer Wylfa Newydd ac mae tîm penodol wedi cael ei sefydlu a strwythurau priodol wedi cael eu rhoi yn eu lle i ddelio â’r prosiect hwn a chyda phrosiect y Grid Cenedlaethol. Mae Tîm Cymru, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r holl bartneriaid allweddol, hefyd wedi cael ei sefydlu a chafodd ei gyfarfod cyntaf yn ddiweddar. Yn ogystal, mae'r Cyngor wedi bod yn cydgysylltu a chydweithio â sefydliadau partner ar brosiect Wylfa Newydd ers amser maith ac wedi bod yn darparu cefnogaeth wrth ymateb i ddogfennaeth Horizon, gan gynnwys rhannu gwybodaeth a thempledi o ddogfennau allweddol. Dywedodd y Swyddog fod y Cyngor yn cydnabod bod rhannu arbenigedd yn hanfodol a bod gweithio mewn partneriaeth yn berthynas ddwy ffordd sy'n fuddiol i'r holl bartneriaid. Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi bod yn glir o'r cychwyn bod rhai cyfrifoldebau y mae'n briodol i'r Cyngor arwain arnynt yn unol â'r "egwyddor agosrwydd" tra bod eraill, yn cynnwys datblygu'r gadwyn gyflenwi, yn gorfod cael eu trin ar lefel ranbarthol. Mae'r drafodaeth hon wedi cychwyn trwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Er bod y penderfyniad terfynol eto i’w wneud ynghylch buddsoddiad, rhaid i’r paratoadau ar gyfer prosiect Wylfa Newydd fynd yn eu blaenau. Elfen allweddol o'r paratoadau hynny yw buddsoddi yn y farchnad lafur yng Ngogledd Cymru trwy ddatblygu sgiliau fel y gall y gweithlu presennol a'r boblogaeth ddi-waith fanteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth a fydd ar gael trwy brosiect Wylfa Newydd a mentrau economaidd eraill sy’n cael eu datblygu yn y rhanbarth.

 

Croesawodd y Prif Weithredwr dôn gadarnhaol yr adroddiad fel rhywbeth sy’n tystio i waith pawb yn y Cyngor, p’un a  ydynt yn Aelodau, Swyddogion neu’n staff. Mae'r adroddiad yn cydnabod, er bod y baich gwaith ar Aelodau Etholedig, Uwch Reolwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth yn drwm, eu bod yn ymdopi'n dda yn gyffredinol. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod gwaith sylweddol i'w wneud o hyd wrth i brosiect Wylfa Newydd fynd rhagddo ac y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud ar y cyd â phartneriaid. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod y prosiect yn arwain at y buddiannau etifeddiaeth hirdymor gorau posibl i breswylwyr yr Ynys ac ymhellach draw ac y bydd y Cyngor yn gweithio gyda’i bartneriaid er mwyn sicrhau bod hynny’n cael ei gyflawni. Diolchodd y Prif Weithredwr i Swyddogion SAC am trafodaethau yn ystod y gwaith maes a fu'n werthfawr ac yn gynhyrchiol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr adroddiad yn adeiladol ac yn ddefnyddiol i grisialu'r sefyllfa. Mae'r Cyngor fel yr awdurdod sy’n lletya’r datblygiad wedi bod yn buddsoddi yn, ac yn arwain ar y paratoadau ar gyfer Wylfa Newydd dros nifer o flynyddoedd ac wedi ymrwymo i'r Rhaglen Ynys Ynni ac i gael a choladu'r wybodaeth sydd wedi dod â'r Awdurdod i'r pwynt hwn. Mae'r Awdurdod yn cydnabod bod y paratoadau parhaus ar gyfer Wylfa Newydd yn cynnwys partneriaid eraill yn y sector cyhoeddus; mae'n bwysig felly fod pob sefydliad partner yn deall eu cyfrifoldebau wrth symud ymlaen. Dywedodd yr Arweinydd ei bod hi hefyd yn ddiolchgar i'w chyd-Aelodau am eu hymrwymiad i'r broses ac am fod mor drwyadol yn eu hymgais i sicrhau eglurder ar hyd y ffordd.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi adroddiad yr Archwiliwr Allanol.

 

CAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL: Dim

Dogfennau ategol: