Eitem Rhaglen

Menter Môn - prosiect LEADER project

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas a chais gan Menter Môn i newid defnydd a wneir o ddyraniad a gymeradwywyd.   

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â chais gan Menter Môn i ddefnyddio’r arian a gymeradwywyd i bwrpas arall.

 

Adroddodd y Trysorydd, ym mis Ionawr 2018, cytunodd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i ddyrannu swm o £191,438 i Menter Môn fel arian cyfatebol mewn perthynas â chyllid Ewropeaidd a chyllid Llywodraeth Cymru fyddai’n caniatáu i’r prosiect Leader barhau tan fis Rhagfyr 2021. Adroddodd ymhellach, ym mis Ebrill 2016, argymhellodd y Pwyllgor Adfywio fod yr Ymddiriedolaeth yn dyrannu grant mawr o £50,000 i Menter Iaith Môn i gynorthwyo i gyflawni amcanion Strategaeth Iaith Gymraeg yr Ynys. Ym mis Chwefror 2018, cyflwynodd Menter Iaith Môn gais pellach am swm ychwanegol o £100,000 er mwyn parhau â’r gwaith. Wrth ddyrannu’r arian a fyddai ar gael ar gyfer grantiau mawr yn 2018, rhoddodd y Pwyllgor Adfywio yr holl arian a oedd ar gael i geisiadau newydd ac o ganlyniad, nid oedd unrhyw arian ar gael ar gyfer ceisiadau gan sefydliadau a oedd wedi derbyn nawdd yn ystod y pum mlynedd diwethaf.  

 

Adroddodd y Trysorydd ymhellach bod Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn wedi cysylltu â Swyddogion yr Ymddiriedolaeth i weld a fydd yr Ymddiriedolaeth yn caniatáu trosglwyddiad o £25,000 o gyllid o’r prosiect LEADER er mwyn gallu ei ddefnyddio ar gyfer prosiect Menter Iaith Môn. 

 

Nododd rhai Aelodau o’r Ymddiriedolaeth fod Menter Iaith Môn yn hanfodol ar gyfer datblygiad yr Iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Nodwyd fod Menter Iaith Môn yn cefnogi disgyblion a theuluoedd o fewn ysgolion yr Ynys wrth hyrwyddo’r Iaith Gymraeg. 

 

Holwyd a fyddai trosglwyddo cyllid sydd wedi’i glustnodi ar gyfer prosiect LEADER Menter Iaith Môn yn cydymffurfio â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dyrannu Grantiau gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’. Ymatebodd y Trysorydd na chafodd y cais gan Menter Iaith Môn ym mis Chwefror 2018 ei gymeradwyo o ganlyniad i argymhelliad yr Ymddiriedolaeth llawn yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr, 2017 y bydd ceisiadau sydd wedi derbyn nawdd grant yn ystod y bum mlynedd diwethaf ond yn cael eu hystyried unwaith y bydd yr holl geisiadau eraill wedi eu hystyried ac os oes arian dros ben ar gael yn dilyn ystyried y ceisiadau hynny. Dywedodd hefyd fod Menter Môn wedi nodi petai’r Ymddiriedolaeth yn cymeradwyo trosglwyddiad y £25k o’r prosiect LEADER i Menter Iaith Môn y byddai modd iddynt gael arian cyfatebol o ffynonellau eraill er mwyn crafangu’n ôl y cap o fewn y prosiect LEADER. Nododd y byddai’r cynllun gyda Menter Iaith Môn yn dod i ben os na gymeradwyir y trosglwyddiad cyllid hwn. Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod gan yr Ymddiriedolaeth ddyletswydd ymddiriedol i amddiffyn yr arian elusennol. Nododd ymhellach, os nad oedd Menter Môn angen yr holl gyllid a ddarparwyd gan yr Ymddiriedolaeth tuag at y Prosiect LEADER yna  dylent ddychwelyd yr arian yn hytrach na throsglwyddo’r arian i brosiect arall.      

 

Yn dilyn trafodaeth bellach PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais er mwyn galluogi Swyddogion yr Ymddiriedolaeth i drafod y cais ymhellach gyda Menter Môn.

 

YmatalioddMr Dafydd Roberts ei bleidlais.

 

Dogfennau ategol: