· Cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan Y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Kenneth P Hughes ac Robert Llewelyn Jones:-
(1) “Dylid diwygio Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn i ganiatáu i aelodau unigol o’r cyhoedd a phartïon â diddordeb, h.y. Llywodraethwyr ysgol, annerch y Pwyllgor Gwaith neu Gabinet y Cyngor Sir.”
(2) “Dylid diwygio Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn fel bod y ddau Bwyllgor Sgriwtini yn cael eu gwe-ddarlledu”.
(3) “Dylid diwygio Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn i ganiatáu i rybuddion o gynigiad sydd wedi cael eu cyflwyno gan aelodau’r cyhoedd a’u cefnogi gyda llofnodion 50 o unigolion sy’n byw yn Ynys Môn gael eu trafod mewn cyfarfodydd o’r Cyngor llawn.”
· Cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan Y Cynghorwyr Robert Llewelyn Jones a Bryan Owen :-
“Yn wyneb y newidiadau sydd ar fin dyfod yn sgil Brexit, dylid sefydlu Panel er mwyn cael gwybodaeth ynghylch problemau posibl ac i bwyso ar Lywodraethau Cymru a Phrydain yr angen am ymagwedd gadarn er mwyn cefnogi’r diwydiannau hyn ar Ynys Môn ym mhob ffordd bosib.
(1) Y diwydiant ffermio sy’n gyflogwr pwysig iawn ar Ynys Môn.
(2) Porthladd Caergybi sydd eto’n gyflogwr mawr a fydd ar reng flaen unrhyw newidiadau.
(3) Wylfa Newydd, y Peilonau a’r hyn y bydd tynnu allan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd yn ei olygu o ran cyllido’r prosiect a’i ddichonolrwydd.
Rydym ni’n cefnogi pobl Ynys Môn ac mae angen i ni ddangos ein bod yn deall eu pryderon ac yn eu cefnogi ym mhob ffordd bosib.
Rydym yn mynd i mewn i gyfnod anghyfarwydd ac mae’n rhaid i ni fel corff etholedig, gael ein gweld yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo’r diwydiannau pwysig iawn hyn ar Ynys Môn i oroesi a ffynnu wedi i ni adael y Gymuned Economaidd Ewropeaidd. Mae’n fater rhy bwysig i adael i adrannau eraill yn y Llywodraeth edrych ar ôl economi ein hynys yn y cyfnod ansicr hwn.”
Cofnodion:
· Cyflwynwyd - y Rhybuddion o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorwyr Aled M Jones, Kenneth P Hughes a Robert Llewelyn Jones :-
· Cyflwynodd y Cynghorydd Aled M Jones y Rhybudd o Gynnig a ganlyn :-
“Dylid diwygio Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn i ganiatáu i aelodau unigol o’r cyhoedd a phartïon â diddordeb, h.y. Llywodraethwyr ysgol, annerch y Pwyllgor Gwaith neu Gabinet y Cyngor Sir.”
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Aelod Portffolio Corfforaethol, nad oes gan y Cyngor Sir awdurdod mewn perthynas â’r mater hwn. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod Arweinydd y Cyngor yn meddu ar yr hawl i ganiatáu i aelodau o’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Gwaith ac nid yw’r Cyngor Sir yn gallu atal Arweinydd y Cyngor rhag ymarfer y disgresiwn hwnnw.
Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn fodlon fod llais y bobl wedi cael ei glywed yng nghyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Nododd bod cyfle i unrhyw Aelod Etholedig ofyn am gael siarad ar ran eu cymunedau lleol yn y Pwyllgor Gwaith.
Gofynnodd y Cynghorydd Shaun Redmond am eglurhad ynglŷn ag a oes gan yr Arweinydd yr hawl i ganiatáu siarad cyhoeddus yn y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Llawn. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod gan yr Arweinydd yr hawl i ganiatáu siarad cyhoeddus yn y Pwyllgor Gwaith ond nid y Cyngor Llawn. Byddai modd i’r Cyngor llawn fabwysiadau cynllun siarad cyhoeddus ond ni fyddai’n bosib gorfodi’r Pwyllgor Gwaith i fabwysiadu cynllun o’r fath.
Yn y bleidlais a ddilynodd PENDERFYNWYD gwrthod y cynnig.
(Ataliodd y Cynghorwyr Glyn Haynes a Shaun Redmond eu pleidlais).
· Cyflwynodd y Cynghorydd A M Jones y Rhybudd o Gynnig a ganlyn :-
“Dylid diwygio Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn fel bod y ddau Bwyllgor Sgriwtini yn cael eu gwe-ddarlledu.”
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Deilydd Portffolio Corfforaethol, ei fod yn cefnogi’r cynnig ond ei fod yn dymuno cynnig gwelliant, sef bod y mater yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried ac adrodd yn ôl i’r Cyngor llawn.
Eiliwyd y gwelliant gan y Cynghorydd R Ll Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
Yn y bleidlais a ddilynodd PENDERFYNWYD derbyn y gwelliant i’r cynnig.
· Cyflwynodd y Cynghorydd A M Jones y Rhybudd o Gynnig a ganlyn :-
‘Dylid diwygio Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn i ganiatáu i rybuddion o gynigiad sydd wedi cael eu cyflwyno gan aelodau’r cyhoedd a’u cefnogi gyda llofnodion 50 o unigolion sy’n byw yn Ynys Môn gael eu trafod mewn cyfarfodydd o’r Cyngor llawn.”
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Deilydd Portffolio Corfforaethol, ei fod yn dymuno cyflwyno gwelliant i’r cynnig, sef bod y mater yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried ac adrodd yn ôl i’r Cyngor llawn yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd A M Jones y byddai’n tynnu ei rybudd o gynnig yn ôl os yw’r mater yn cael ei ystyried gan y Cyngor llawn ym mis Rhagfyr.
Yn y bleidlais a ddilynodd PENDERFYNWYD derbyn y gwelliant i’r cynnig.
· Cyflwynwyd - y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorwyr Robert Llewelyn Jones a Bryan Owen :-
“Yn wyneb y newidiadau sydd ar fin dyfod yn sgil Brexit, dylid sefydlu Panel er mwyn cael gwybodaeth ynghylch problemau posibl ac i bwyso ar Lywodraethau Cymru a Phrydain yr angen am ymagwedd gadarn er mwyn cefnogi’r diwydiannau hyn ar Ynys Môn ym mhob ffordd bosib.
(1) Y diwydiant ffermio sy’n gyflogwr pwysig iawn ar Ynys Môn.
(2) Porthladd Caergybi sydd eto’n gyflogwr mawr a fydd ar reng flaen unrhyw newidiadau.
(3) Wylfa Newydd, y Peilonau a’r hyn y bydd tynnu allan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd yn ei olygu o ran cyllido’r prosiect a’i ddichonolrwydd.
Rydym ni’n cefnogi pobl Ynys Môn ac mae angen i ni ddangos ein bod yn deall eu pryderon ac yn eu cefnogi ym mhob ffordd bosib.
Rydym yn mynd i mewn i gyfnod anghyfarwydd ac mae’n rhaid i ni fel corff etholedig, gael ein gweld yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo’r diwydiannau pwysig iawn hyn ar Ynys Môn i oroesi a ffynnu wedi i ni adael y Gymuned Economaidd Ewropeaidd. Mae’n fater rhy bwysig i adael i adrannau eraill yn y Llywodraeth edrych ar ôl economi ein hynys yn y cyfnod ansicr hwn.”
Dywedodd y Cynghorydd R Ll Jones ei fod yn dymuno diolch yn y lle cyntaf i’r gynrychiolaeth o’r Cyngor hwn a ymwelodd â Dulyn ym mis Mehefin 2018 i gwrdd â swyddogion o Gyngor Sir Dulyn i drafod problemau posibl yn y porthladdoedd o ganlyniad i Brexit. Dywedodd fod pryderon yn bodoli oherwydd bod rhaid i gerbydau sydd yn teithio i borthladdoedd Cymru, ac yn gadael y porthladdoedd hynny, fedru teithio yn rhwydd heb orfod wynebu gwiriadau tollau. Dywedodd y Cynghorydd Jones y gallai gadael yr UE heb gytundeb arwain at osod tollau eithafol ar fusnesau lleol sy’n allforio nwyddau dros Fôr Iwerddon ac y gallai greu prinder o nwyddau sylfaenol.
Cynigiodd y Cynghorydd Jones fod Panel yn cael ei sefydlu gydag aelodau o bob plaid, yr Adran Datblygu Economaidd ac asiantaethau allanol er mwyn sicrhau fod gan y Cyngor hwn gynllun wrth gefn i ddelio â phob sefyllfa posib os nad oes cytundeb Brexit.
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd, fod y cyfarfod a gynhaliwyd yn Nulyn gyda chynrychiolwyr Cyngor Dinas Dulyn ym mis Mehefin 2018 wedi bod yn un addysgiadol iawn ac yn gyfle i’r ddwy ochr rannu eu pryderon ynglŷn â’r posibilrwydd o beidio cael cytundeb Brexit a chanlyniadau hynny. Dywedodd fod y berthynas rhwng Iwerddon ac Ynys Môn yn bwysig yn arbennig oherwydd cysylltiadau ym maes twristiaeth ac amaethyddiaeth. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd rhaid cyflogi nifer o Weision Sifil i roi sylw i faterion megis y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb a phroblemau fydd yn deillio o hynny. Hefyd, nododd fod trafodaethau yn digwydd gyda CLlLC ynglŷn â’r mater. Er ei fod yn rhannu pryderon yr Aelodau a gyflwynodd y rhybudd o gynnig i’r Cyngor llawn, roedd yn ystyried y dylid gwrthod y cynnig i sefydlu Panel i drafod problemau gadael yr UE heb gytundeb oherwydd diffyg adnoddau ac am nad oes gan y Cyngor unrhyw ddylanwad dros Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, cynigiodd y Deilydd Portffolio'r canlynol :-
· Pan fydd yn briodol, dylid darparu dolen wybodaeth i aelodau er mwyn caniatáu iddynt gael mynediad at ddogfennau gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, CLlLC, nodiadau ffeil mewnol yr UE.
· Pan fydd yn briodol, dylid cynnal sesiynau briffio mewnol i rannu unrhyw wybodaeth sy’n dod i law a dylai gynnwys diweddariadau gan aelodau portffolio ar unrhyw gyfarfodydd ble cafodd unrhyw faterion yn ymwneud â Brexit eu trafod.
· Pan fydd yn briodol, dylai unrhyw fater swyddogol sy’n codi wrth i’r broses ddatblygu gael ei gyfeirio i’r pwyllgor sgriwtini adfywio.
· Bod llythyr yn cael ei anfon at y Prif Weinidog, Mrs Theresa May, yn nodi prif bryderon a safbwynt Ynys Môn mewn perthynas â phorthladd Caergybi, y sector amaeth, cyllid Amcan 1, euratom, Ynys Ynni ac ati ynghyd â chais bod holl wybodaeth a dadansoddiadau adrannau’r llywodraeth ynglŷn ag effaith ymadawiad y DU o’r UE ar ein cymunedau a busnesau yn cael eu rhannu gyda’r awdurdod hwn.
· Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith ar Ynys Môn. Mae’r holl waith cynllunio’n gysylltiedig â Brexit yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
· Ni ddylid cytuno i unrhyw beth fyddai’n cael effaith niweidiol ar unrhyw un o’r egwyddorion a ganlyn:
Cymru lewyrchus
Cymru gydnerth
Cymru iachach
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymru o gymunedau cydlynus
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones y bydd Mr Albert Owen AS a Mr Rhun ap Iorwerth AC yn bresennol mewn gweithdy ar gyfer aelodau a gynhelir ar 25 Hydref, 2018 i drafod effeithiau posib gadael yr UE heb gytundeb ar yr Ynys ac i adrodd ar y cyfarfod a gynhaliwyd gyda Chyngor Dinas Dulyn.
Ategodd Aelodau’r Wrthblaid bod angen sefydlu Panel o fewn yr Awdurdod hwn i drafod effaith bosib gadael yr UE heb gytundeb. Awgrymwyd fod angen cynnal trafodaethau gyda Chyngor Sir Benfro fydd yn wynebu problemau tebyg os na ddaw Prydain â’r UE i gytundeb.
Yn y bleidlais ddilynol PENDERFYNWYD gwrthod y cynnig.
(Ataliodd y Cynghorwyr T Ll Hughes, Dylan Rees a Nicola Roberts eu pleidlais)