Eitem Rhaglen

Cais am Ganiatad Arbennig

Ystyried cais am ganiatâd arbennig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd ceisiadau am ganiatâd arbennig i gael cymryd rhan ym musnes y Cyngor gan y Cynghorwyr Jason Zalot, Stan Zalot a Howard Mattocks, aelodau o Gyngor Tref Biwmares, ar faterion yn ymwneud ag adnewyddu Gorchymyn Pysgodfa Dwyrain Y Fenai. Mae’r ymgeiswyr wedi gofyn i’r Pwyllgor Safonau ystyried rhoi caniatâd arbennig mewn perthynas â diddordebau sy’n rhagfarnu, fel yr amlinellir ym mhob cais. 

 

Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Ashenden, Clerc Cyngor Tref Biwmares a’r Cynghorwyr Zalot a Mattocks i’r cyfarfod. Adroddodd y byddai pob cais am ganiatâd arbennig yn cael ei ystyried ar wahân ac ar ei rinweddau ei hun o ganlyniad i fân wahaniaethau ym mhob achos. 

 

Rhoddodd yr Athro Ashenden grynodeb o gefndir y ceisiadau. Adroddodd fod Cymdeithas Rheoli Gorchmynion Pysgodfeydd Dwyrain Y Fenai yn ymgeisio am adnewyddu’r Gorchymyn Pysgodfa, sy’n caniatáu ffermio cregyn gleision a charthu gwaelod y môr (dredging) ar hyd Y Fenai mewn ardal sy’n cynnwys Bae Biwmares ac sy’n agos i’r dref.  

 

Adroddodd yr Athro Ashenden fod y Gymdeithas Reoli wedi rhoi sicrwydd na fydd adnewyddu’r Gorchymyn Pysgodfa yn effeithio ar hwylio, cerdded ar y blaendraeth na physgota â gwialen yn yr ardal. Fodd bynnag, mynegwyd pryder yn lleol dros nifer o flynyddoedd y byddai cynnwys Bae Biwmares yn y Gorchymyn yn bygwth presenoldeb parhaus yr angorfeydd dŵr dwfn sy’n hanfodol ar gyfer cynifer o weithgareddau. Byddai colli’r ardal dŵr dwfn neu leihad ym maint yr ardal yn cael effaith negyddol ar economi’r dref a’i thrigolion, ynghyd â gweithgareddau yn y bae.  

 

Nodwyd bod y Gymdeithas Reoli wedi cadarnhau nad yw’n bwriadu carthu ardal yr angorfeydd na defnyddio ardal y bae. Fodd bynnag, nid yw’r Gorchymyn Pysgodfa, sydd yn y cyfnod ymgynghori ar hyn o bryd ac y bydd yn cael ei adnewyddu yn 2022, yn rhoi rheolaeth o’r ardal i’r Gymdeithas. Yn y gorffennol, cyflwynwyd cais i Weinidog Llywodraeth Cymru er mwyn eithrio’r rhan hon o’r bae a’r ardal sy’n agos i’r dref yn y Gorchymyn, gan fod angorfeydd wedi eu lleoli oddi ar ben y pier. O ganlyniad, gwrthodwyd y cais hwn. 

 

Mae gan nifer o aelodau Cyngor Tref Biwmares ddiddordeb arbenigol yn y defnydd o’r bae o ran angorfeydd, pysgota, teithiau cwch pleser a mwynhad o’r ardal leol.

 

Nododd y Panel mai dim ond y Cynghorydd Stan Zalot sydd wedi gwneud cais i siarad â swyddogion y Cyngor Cymuned ac nad oes unrhyw Gynghorwyr wedi gofyn am ganiatâd arbennig i gael ysgrifennu at Swyddogion. Gan y bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y Gorchymyn Pysgodfa yn parhau tan 2022, rhoddodd y panel cyfle i’r Cynghorwyr Jason Zalot a Howard Mattocks gynnwys “i ysgrifennu at a siarad â swyddogion y Cyngor Cymuned” yn eu ceisiadau am ganiatâd arbennig ac fe wnaethant gytuno i hynny. Cafodd cais y Cynghorydd Stan Zalot ei ddiwygio i gynnwys “i ysgrifennu at swyddogion”.  

 

Gofynnodd y Cadeirydd i Jason Zalot gyflwyno ei gais am ganiatâd arbennig.

           

Adroddodd y Cynghorydd Zalot ei fod wedi gweithio ar y cychod ym Miwmares yn cynnal teithiau pleser a physgota oddi ar y pier ers nifer o flynyddoedd a bod ganddo fusnes angori cyn hynny. Nododd ei fod bellach yn rhedeg busnes rib oddi ar y pier, yn cludo ymwelwyr ar hyd Y Fenai i Ynys Seiriol. Nodwyd y gallai cynnwys ardal y Bae yn y Gorchymyn Pysgodfa gael effaith ar fusnes rib y Cynghorydd Zalot, gan fod un o’i gychod yn rhedeg o’r pier yn yr haf.   

 

Nododd y Cynghorydd Zalot ei fod yn berchen ar gwch hwylio sydd wedi’i angori uwchben y marc dŵr isel ym Mae Biwmares, nad yw’n cael ei effeithio gan y Gorchymyn Pysgodfa. Mae’r Cynghorydd Zalot hefyd yn aelod o Glwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn ym Miwmares.  

 

Adroddodd y Cynghorydd Zalot fod ganddo gyfoeth o brofiad o weithio ag angorfeydd ym Mae Biwmares ac ar Y Fenai. Cyfeiriodd at y diwydiant cregyn gleision a’r ffordd y mae wedi gweld y diwydiant yn tyfu, ynghyd â’r manteision a ddaeth i’r ardal a’r amgylchedd yn ei sgîl. Nododd fod ganddo wybodaeth arbenigol er mwyn gallu trafod materion ag arbenigwyr yn y byd pysgota a’i fod yn gwybod sut mae’r Gymdeithas Reoli yn gweithredu, a fydd yn profi’n hanfodol wrth ddrafftio ymateb y Cyngor i’r Ymgynghoriad.   

 

Holodd y Panel y Cynghorydd Zalot sut y byddai newidiadau i’r Gorchymyn Pysgodfa yn effeithio ar ei fusnes a’r gymuned ym Miwmares?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Zalot gan ddweud, na fyddai tynnu’r angorfeydd o Fiwmares yn effeithio’n sylweddol ar ei fusnes ef ond y byddai’n anghyfleus iddo gan y byddai’n rhaid iddo ddefnyddio angorfeydd sydd ganddo mewn lleoliadau eraill. O ran y gymuned leol, mynegodd y byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar y dref gan fod Clwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn yn ddibynnol ar angorfeydd dŵr dwfn. 

           

Holodd y Panel a fyddai busnesau yn nhref Biwmares a allai fod yn dibynnu ar y diwydiant pysgota yn dioddef petai amodau’r Gorchymyn yn newid. Nodwyd, gan fod Biwmares yn canolbwyntio ar dwristiaeth, y byddai’n cael effaith ddifrifol ar fusnesau lleol.

                       

Adroddodd y Cynghorydd Zalot y byddai colli’r teithiau pleser a’r teithiau cwch yn cael effaith sylweddol ar y dref gan fod 60,000-70,000 o ymwelwyr yn cael eu cludo ar gychod o’r pier bob blwyddyn, sy’n cyflogi 20-25 o bobl. Dywedodd y Cynghorydd Zalot fod y busnes y mae o’n un o’r rhanddeiliaid ynddo yn cyflogi 9-10 o bobl. 

 

Nodwyd y câi effaith andwyol hefyd ar y ffordd y mae’r dref yn edrych pe na byddai cychod yn y bae a phetai’r banciau tywod yn cael eu clirio.

 

Cyfeiriwyd at amodau’r drwydded, sydd ar hyn o bryd yn rhoi hawliau pysgodfa helaeth. Adroddodd yr Athro Ashenden fod y Gorchymyn Pysgodfa Gwreiddiol yn nodi fod yr ardal yn cynnwys 1,928 erw i’r dwyrain o’r grîn ym Miwmares a’r Fenai. Nodwyd y cafodd y Gorchymyn ei ddiwygio ym 1962 ac y cafodd yr ardal ar gyfer y bysgodfa cregyn gleision a wystrys ei lleihau. Adroddodd Yr Athro Ashenden fod y Cyngor Tref bellach am i ewyllys da y Gymdeithas Reoli gael ei ffurfioli ac y bydd y Cyngor Tref yn chwilio am ddatrysiad fel bod y Gorchymyn Pysgodfa yn cael ei gyfyngu i eithrio’r ardal lle mae’r angorfeydd wedi eu lleoli yn ardal y bae.

           

Gadawodd Aelodau’r Cyngor Tref yr ystafell tra cynhaliodd Aelodau’r Panel drafodaeth mewn sesiwn breifat. 

                       

Yn dilyn y sesiwn breifat, hysbysodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Tref y byddai’r Panel yn cyhoeddi ei benderfyniad mewn perthynas â phob cais ar ddiwedd y cyfarfod. 

 

Aeth y Pwyllgor yn ei flaen i ystyried cais y Cynghorydd Stan Zalot, nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod ond a gynrychiolwyd gan yr Athro Ashenden. Adroddodd yr Athro Ashenden fod gan y Cynghorydd Zalot brofiad helaeth o weithio ar Y Fenai, yn cynnal teithiau pleser a theithiau pysgota o’r pier ym Miwmares. Nodwyd fod y Cynghorydd Zalot yn gwbl ymwybodol o’r farn leol a’i fod yn ymwneud â materion lleol ac yn cadw cysylltiad â thrigolion y dref.

                       

Adroddodd yr Athro Ashenden fod y Gorchymyn Pysgodfa yn cynnwys ardal rhwng Blundell Sands a Flagstaff. Nododd, er nad yw’r Gymdeithas Reoli yn defnyddio’r ardal ar hyn o bryd, bod posibilrwydd i’r Gorchymyn Pysgodfa ymestyn i’r bae. Mae pobl leol wedi mynegi pryder mewn perthynas â’r effaith bosibl ar dwristiaeth, yr economi leol, yr effaith ar gartrefi gwyliau a Chlwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn, petai ewyllys da y Gymdeithas yn hyn o beth yn cael ei dynnu’n ôl.    

                       

Gadawodd Aelodau’r Cyngor Tref yr ystafell tra bu Aelodau’r Panel yn trafod mewn sesiwn breifat.

                       

Yn dilyn y sesiwn breifat, aeth y Pwyllgor rhagddo i ystyried cais y Cynghorydd Howard Mattocks, a gafodd y cyfle i annerch y panel a rhoi ei resymau am ganiatâd arbennig.

 

Adroddodd y Cynghorydd Mattocks ei fod wedi bod yn hwylio ar Y Fenai ers chwe deg o flynyddoedd a bod ganddo brofiad helaeth o’r ardal. Nododd mai’r rheswm y mae’n gwneud cais am ganiatâd arbennig yw bod ganddo ddau angorfa dŵr dwfn, y mae’n datgan diddordeb ynddynt. Nododd ymhellach fod ganddo gyfoeth o brofiad i’w gynnig i’r Cyngor Tref ond ei fod hefyd yn poeni am yr effaith y gallai’r Gorchymyn ei gael ar yr holl Dref. Nodwyd, petai’r Gymdeithas Bysgodfeydd yn cymryd yr ardal, y byddai’n cael effaith hynod ddinistriol ar Glwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn. Mae’r Cynghorydd Mattocks yn gyn lywydd y Clwb Hwylio.

 

Nododd y Panel nad oes unrhyw ddiddordeb masnachol i gais y Cynghorydd Mattocks, diddordeb llesiant yn unig ydyw.  

 

Holodd y Panel a oedd gan y Cynghorydd Mattocks gynllun amgen petai’r Gorchymyn Pysgodfa yn cynnwys angorfeydd. Ymatebodd y Cynghorydd Mattocks nad oedd ganddo unrhyw gynlluniau i symud ei gwch hwylio i leoliad gwahanol ond mynegodd y byddai’n cael effaith ddinistriol yn lleol ar yr ardal lle mae Clwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn wedi’i lleoli.

 

Nododd y Panel fod diddordeb y Cynghorydd Mattocks yn berthnasol i’r Clwb Hwylio yn ogystal â’r Cyngor Tref. Adroddodd y Cynghorydd Mattocks fod y rhan fwyaf o’r angorfeydd dŵr dwfn yn y bae yn rhai y mae aelodau’r Clwb hwylio yn berchen arnynt a bod gan y clwb 400 o Aelodau.

 

Mae tua 200 o angorfeydd dŵr dwfn wedi eu lleoli yn yr ardal ac mae 90% o’r rhain yn cael eu defnyddio’n lleol yn y gymuned. Nid yw traean o Aelodau’r Clwb Hwylio yn lleol i Biwmares ond mae cysylltiad rhyngddynt â’r effaith y gallai’r Gorchymyn Pysgodfa ei gael ar y gymuned leol. 

 

Cafwyd trafodaeth ymysg Aelodau’r Panel mewn sesiwn breifat. Yn dilyn y drafodaeth, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Safonau wedi PENDERFYNU rhoi caniatâd arbennig i’r Cynghorwyr mewn perthynas â’r diddordebau hynny y cyfeiriwyd atynt yn eu ceisiadau, fel a ganlyn:-

 

Bod y caniatâd arbennig a roddir i’r Cynghorydd Jason Zalot a'r Cynghorydd Stan Zalot yn caniatáu i’r Cynghorwyr:- 

 

  ysgrifennu at swyddogion [a/neu’r Cyngor Tref/Cymuned] mewn perthynas â’r mater;

  siarad â swyddogion y Cyngor Tref am y mater;

  siarad mewn cyfarfodydd pwyllgor/cyfarfodydd Cyngor Tref ac ateb unrhyw gwestiynau am y mater;

  aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth

  ni chawsant ganiatâd arbennig i gael pleidleisio.

 

Mae’r Caniatâd Arbennig a roddwyd i’r Cynghorydd Howard Mattock yn caniatáu i’r Cynghorydd:-

 

  ysgrifennu at swyddogion [a/neu’r Cyngor Tref/Cymuned] mewn perthynas â’r mater;

  siarad â swyddogion y Cyngor Tref am y mater;

  siarad mewn cyfarfodydd pwyllgor/cyfarfodydd Cyngor Tref ac ateb unrhyw gwestiynau am y mater;

  aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth

  pleidleisio.

 

Bydd y caniatâd arbennig yn berthnasol ar gyfer tymor y Cyngor Tref neu tan y bydd y Gorchymyn Pysgodfa wedi’i adnewyddu yn 2022.

 

Gofynnodd y Cadeirydd bod y tri Cynghorydd, pob un ohonynt sydd â diddordeb sy’n rhagfarnu, yn nodi’n glir eu bod wedi cael caniatâd arbennig i siarad mewn cyfarfodydd Cyngor Tref ar y pwnc hwn rhwng rŵan a 2022. 

 

Mae’r Pwyllgor yn dymuno nodi y cafodd yr hawl i bleidleisio ei wrthod i’r Cynghorwyr Jason Zalot a Stan Zalot oherwydd natur ariannol eu diddordeb.

 

Gweithred:

 

·      Y Swyddog Monitro i ysgrifennu at y Cynghorwyr Jason Zalot, Stan Zalot a Howard Mattocks yn cadarnhau fod y Panel wedi rhoi caniatâd arbennig iddynt mewn perthynas â’r diddordebau sy’n rhagfarnu a hynny am y rhesymau a nodwyd ac yn amodol ar y telerau a’r amodau a amlinellwyd uchod.

·      Y Swyddog Monitro i ysgrifennu at Glerc Cyngor Tref Biwmares yn cadarnhau’r uchod.

 

Dogfennau ategol: