Eitem Rhaglen

Diweddariad Cynnydd Archwilio Mewnol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio Mewnol a Risg a roes y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd diweddaraf Archwilio Mewnol o ran darparu gwasanaethau, rhoi sicrwydd ac adolygiadau a gwblhawyd i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg fel a ganlyn

 

           Y cwblhawyd pedwar adroddiad Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod gyda thri ohonynt yn arwain at sgôr Sicrwydd Sylweddol - roedd y rhain mewn perthynas â Grant Gwella Addysg 2017/18; Grant Datblygu Disgyblion 2017/18 a Monitro Contract Cynnal a Chadw Priffyrdd. Esgorodd y pedwerydd adolygiad oedd yn ymwneud â Grant Gwisg Ysgol 2017/18 ar sgôr Sicrwydd Rhesymol. Er y codwyd un risg gymedrol ar adolygiad Monitro Contract Cynnal a Chadw Priffyrdd oedd yn ymwneud â'r angen i gynnal cofrestr contractau, ar y cyfan, roedd y rheolaethau sydd ar waith i fonitro contractau cynnal a chadw priffyrdd yn effeithiol a, thrwy hynny, yn rhoi sicrwydd sylweddol.

           Bod chwe adroddiad gyda sgôr Sicrwydd Cyfyngedig wedi'u trefnu ar gyfer adolygiad dilyn-i-fyny fel y manylir ym mharagraff 16 yr adroddiad. Mae pedwar adolygiad dilyn-i-fyny ar y gweill ar hyn o bryd - Amrywiol Ddyledwyr; Gorchmynion Llys Gofal Plant dan Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus; Fframwaith Caffael Corfforaethol a Pharatoi'r Cyngor ar gyfer GDPR - mae gan y rhain ddyddiad adrodd arfaethedig, sef cyfarfod Rhagfyr o’r Pwyllgor Archwilio.

           Bod adroddiad manwl o'r holl argymhellion a materion / risgiau sydd ar gael yn cael ei roi ar wahân ar yr agenda.

           Bod y cynnydd wedi bod yn araf wrth gyflwyno Cynllun Gweithredol yr Archwilio Mewnol am 2018/19 yn bennaf oherwydd dwy swydd wag ac absenoldeb salwch tymor hir. Fodd bynnag, mae dau Uwch-archwiliwr Mewnol newydd wedi cychwyn yn y swydd yn ddiweddar, sy'n golygu bod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi'i staffio'n llawn am y tro cyntaf ers mis Awst, 2017.

           Yn ogystal â gwneud gwaith dilyn-i-fyny, bod y Gwasanaeth yn cymryd rhan mewn Adolygiad Thematig o Ysgolion Cynradd, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gasglu incwm yn ogystal â gwaith mewn perthynas â Sipsiwn a Theithwyr (Gofynion Deddf Tai (Cymru) 2014). Yn ogystal, mae'r Gwasanaeth yn rhan o ymarferiad dwy flynedd y Fenter Twyll Cenedlaethol ac mae'n darparu data ar gyfer yr ymarfer cyfatebu data. Bydd hefyd yn dechrau gweithio’n fuan ar yr adolygiad diogelwch seiber.

           Bod Cynllun Gweithredol 2018/19 Archwilio Mewnol yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu adolygiad diweddaraf yr Uwch-dîm Arweinyddiaeth o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol a gynhaliwyd10 Medi. Cyflwynir y fersiwn wedi'i diweddaru i gyfarfod Rhagfyr o’r Pwyllgor.

           Er mwyn sicrhau gwrthrychedd ac annibyniaeth, y byddai Yswirwyr y Cyngor yn cynnal archwiliad Rheoli Risg ar ffurf archwiliad iechyd annibynnol gan na fyddai'n briodol i'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol gynnal yr archwiliad o ystyried cyfrifoldeb goruchwylio’r Pennaeth Archwilio dros Reoli Risg.

           Ar hyn o bryd bod diffyg adnoddau o 77 diwrnod ar y Cynllun Gweithredol. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd yr adolygiad diweddar o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol a gostwng lefel risgiau penodol yn arwain at newidiadau i'r Cynllun gyda rhai adolygiadau’n cael eu tynnu allan a, thrwy hynny, leihau'r ymrwymiadau a dod â'r diffyg i lawr.

 

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd ac roedd yn fodlon â'r cynnydd a wnaed gan gael sicrwydd yn y diweddariad a ddarparwyd.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r cynnydd hyd yma gan Archwilio Mewnol o ran darparu gwasanaethau, rhoi sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd a'i berfformiad a'i effeithiolrwydd wrth yrru gwelliant.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: