Mae Cyngor Sir Ynys Môn eisiau penodi dau leygwr i’w Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Mae’r Pwyllgor Gwaith yn cyfarfod yn awr ar ddydd Mawrth unwaith neu ddwywaith y mis fel arfer. Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd.
Mae Arweinydd y Cyngor wedi penodi’r aelodau a restrir isod i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith, ac i ymgymryd â’r meysydd gwasanaeth penodol fel a nodir:
Arweinydd a Deilydd Portffolio Datblygu’r Economi
Cynghorydd Gary Pritchard
Dirprwy
Arweinydd a Deilydd Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a
Phrofiad y Cwsmer
Cynghorydd Robin Wyn
Williams
Deilydd
Portffolio Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
Cynghorydd Dyfed Wyn
Jones
Deilydd Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
Cynghorydd Nicola Roberts
Deilydd Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo
Cynghorydd Alun Roberts
Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd
Cynghorydd Ieuan Williams
Deilydd Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol
Cynghorydd Carwyn Elias Jones
Deilydd Portffolio Gwasanaethau Oedolion
Cynghorydd Neville Evans
Deilydd Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg
Cynghorydd Dafydd Roberts
Swyddog cefnogi: Ann Holmes.
Ffôn: 01248 752518