12.1 32LPA1047/CC - Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Tre Ifan, Caergeiliog.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys ac yn amodol hefyd ar gynnwys amod ychwanegol mewn perthynas â mesurau lliniaru sŵn.
12.2 FPL/2018/4 - Cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdai presennol ynghyd â chodi 4 annedd un person yn cynnwys lle parcio ym Maes yr Ysgol, Caergybi.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
12.3 FPL/2018/24 - Cais ôl weithredol ar gyfer adeiladu mynedfa amaethyddol a ffurfiodd ran o Adran 4 Ffordd Gyswllt Llangefni yn A5514, Llangefni
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
12.4 39C597 - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol i gerbydau ar dir yn hen Chwarel Cambria, Ffordd Cambria, Porthaethwy.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ac yn amodol hefyd ar amod ychwanegol yn gofyn am gael delio gydag unrhyw dir llygredig fel rhan o’r datblygiad.