12.1 HHP/2019/301 –Cais ôl-weithredol ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys ardal terras, pwll nofio, Ystafell gemau ynghyd a codi sied domestic yn Tan y Fron, Pentraeth
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 FPL/2019/341 – Cais llawn ar gyfer codi 26 annedd (3 fforddiadwy), addasu mynedfa presennol i gerbydau ynghyd a chreu gwaith cystylliedig yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd/South Stack Road, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â:-
· chyfraniad ariannol tuag at Orchymyn Rheoli Traffig a gwelliannau i’r briffordd cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio;
· cyfraniad ariannol tuag at ddarpariaeth anheddau fforddiadwy cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio;
· bod pwerau wedi’u dirprwyo yn cael eu rhoi i Swyddogion ddiwygio’r amodau cynllunio gan gymryd i ystyriaeth y cynlluniau diwygiedig/gwybodaeth ychwanegol a sylwadau’r ymgynghorai statudol ar y manylion hyn.