Penderfynwyd –
• Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad hwn yn parhau’n rhai dros dro hyd nes y bydd yr archwiliad o ddatganiad Cyfrifon 2019/20 wedi’i gwblhau a’i lofnodi; adroddir fel sy’n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol dilynol i’r ffigyrau a gynhwysir yn yr adroddiad;
• Nodi dangosyddion Pwyllog a Thrysorlys dros dro 2019/20 yn yr adroddiad;
• Trosglwyddo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2019/20 i gyfarfod nesaf y Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau ychwanegol.