7.1 FPL/019/217 - Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd ar gyfer cerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Craig y Don Estate a Cherry Tree Close, Benllech.
Penderfynwyd y dylid cynnal ymweliad safle rhithiol.
7.2 FPL/2019/322 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd eglwys i annedd gyda adeiladu mynedfa cerbydau newydd yn Eglwys Crist/Christ Church, Rhosybol
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
7.3 FPL/2020/166 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeiladau allanol i 4 Uned Gwyliau yn Cymunod, Bryngwran, Caergybi.
Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatau’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog a hynny am y rheswm a roddwyd.