Penderfynwyd –
-
Nodi'r cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb
ac ystyried yr adborth a gafwyd, fel yr amlinellir yn Adran 3 o
Atodiad 1 ac Atodiad 2.
-
Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y
Cyngor, fel y dangosir yn Adran 9 o Atodiad 1 ac Atodiad
3;
-
Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai'r
Cyngor fod yn gweithio tuag at sicrhau balansau cyffredinol o
£7.3m ar y lleiaf;
-
Nodi'r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Adran 151 ar
gadernid yr amcangyfrifon, fel y nodir hwy yn Adran 7 o Atodiad
1;
-
Argymell cyllideb net ar gyfer y Cyngor Sir o
£147.420m a chynnydd o 2.75% yn lefel y Dreth Gyngor yn sgil
hynny (£35.91 - Band D) i gyfarfod o’r Cyngor llawn,
gan nodi y bydd penderfyniad ffurfiol, gan gynnwys praeseptau a
godir gan Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Cymuned, yn cael ei
gyflwyno i'r Cyngor ar 9 Mawrth 2021;
-
Gwneud addasiadau ar gyfer unrhyw wahaniaethau rhwng
y setliad dros dro a'r setliad terfynol trwy ddefnyddio'r gronfa
hapddigwyddiadau gyffredinol sydd wedi'i chynnwys yng nghyllideb
2021/22, neu drwy wneud cyfraniad i / o arian wrth gefn cyffredinol
y Cyngor er mwyn gosod cyllideb gytbwys;
-
Awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw
newidiadau a all fod yn angenrheidiol cyn cyflwyno'r cynigion
terfynol i'r Cyngor;
-
Cytuno y gellir defnyddio'r gyllideb hapddigwyddiadau
gyffredinol i gwrdd ag unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau a
arweinir gan y galw yn ystod y flwyddyn ariannol;
-
Gofyn i'r Cyngor awdurdodi'r Pwyllgor Gwaith i
ryddhau hyd at £250k o'r balansau cyffredinol os yw'r
gyllideb hapddigwyddiadau gyffredinol wedi'i hymrwymo'n llawn yn
ystod y flwyddyn;
·
Dirprwyo grym i'r Swyddog Adran 151 ryddhau cyllid
o'r gronfa hapddigwyddiadau gyffredinol, sef hyd at £50k ar
gyfer unrhyw eitem unigol. Ni cheir cymeradwyo unrhyw eitem sy'n
fwy na £50k heb gytundeb y Pwyllgor Gwaith ymlaen
llaw;
·
Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer
ail gartrefi yn aros ar 35% ac yn parhau i fod yn 100% ar gyfer
cartrefi gwag.
(Bu’r Cynghorydd Ieuan Williams ddatgan
diddordeb personol yn yr eitem ac ni gymerodd ran yn y bleidlais yn
dilyn hynny).