Penderfynwyd -
• Derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer
Chwarter 4, 2020/21, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.
• Cofnodi diolchiadau a gwerthfawrogiad y Pwyllgor Gwaith o ymdrechion a gwaith caled holl weithlu’r Cyngor dros y flwyddyn 2020/21 wrth gynnal perfformiad tra’n ymateb i bandemig Covid 19.