7.1 FPL/2020/164 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol i llety gwyliau ynghyd a'i addasu ac ehangu yn Bwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd ag amod ychwanegol y dylid lledaenu mynedfa’r safle cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle.
7.2 FPL/2021/10 – Cais ôl weithredol ar gyfer codi modurdy ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion gan yr
ystyriwyd fod y datblygiad yn cael effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos a’i fod yn
groes i bolisi cynllunio PCYFF2.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am ganiatáu’r cais).