Penderfynwyd –
· Nad yw’r Awdurdod yn codi ffi teithio ar ddisgyblion anstatudol a myfyrwyr Addysg Bellach Môn am y flwyddyn academaidd 2021/22.
· Fod yr Awdurdod yn cyfyngu’r hawl dim ond i’r pellter statudol ar gyfer 2021/22.
· Fod y Cyngor yn buddsoddi mewn system electroneg er mwyn rheoli pa ddysgwyr sydd yn gymwys ar gyfer teithio ar fws ysgol fel yn rhan FF yr adroddiad; mae’r Pwyllgor Gwaith yn cytuno i ariannu’r cerdiau mewn egwyddor ac yna i gynllun gael ei ddatblygu yn ystod blwyddyn ysgol 2021/22.