Mater - penderfyniadau

Departure Applications

02/06/2021 - Departure Applications

10.1  FPL/2021/47- Cais llawn ar gyfer cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd a ganiatawyd gynt dan gais amlinellol rhif 34C716 a chais materion a gadwyd yn ôl rhif RM/2020/9 ar dir ger Pen Bryn, Rhosmeirch

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y

Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr

adroddiad ac yn amodol hefyd na chodir unrhyw faterion newydd cyn diwedd

y cyfnod cyhoeddusrwydd ar 23 Mehefin, 2021.

10.2 VAR/2021/14 - Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (03) (Mannau pasio) (05) (Adar nythu) o ganiatâd cynllunio rhif 29C8J (Trosi adeilad allanol yn 2 uned gwyliau ac annedd) er mwyn cyflwyno manylion ar ôl i'r datblygiad gychwyn a newid amod (03) i'r angen i ddarparu 1 man pasio yn lle 2 man pasio yn Stabl Bach, Llanfaethlu

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y

Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr

adroddiad.