PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2021/22. Mae’r sefyllfa hon yn ddibynnol ar gymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru i gyllido’r golled incwm sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol o ganlyniad i’r coronafeirws;
· Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 fel y manylir arnynt yn Atodiad C;
· Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH;
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2021/22 yn Atodiadau D a DD.