7.1 FPL/2019/338 – Cais llawn ar gyfer tynnu rhan o'r morglawdd concrid presennol a chodi morglawdd newydd yn ei le ar y terfyn yn Cerrig, Penmon
Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad ar y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.
7.2 FPL/2020/165 – Cais llawn ar gyfer trosi yr adeilad allanol i fod yn uned gwyliau ynghyd â thorri tair coeden sydd wedi’u gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed a phlannu coed yn eu lle yn Adeilad Allan 1, Lleiniog, Penmon
Penderfynwyd dirprwyo cymeradwyo’r cais i’r Swyddogion ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori yn unol â’r argymhelliad a’r adroddiad gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad, ynghyd â dileu amod 6 fel yr amlinellwyd.
7.3 VAR/2021/27 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn diwygio'r man parcio i hepgor darparu trofwrdd yn Eglwys Crist, Rhosybol, Amlwch
Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan y barnwyd bod angen cylch troi er budd diogelwch y briffordd.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rheswm a roddwyd dros wrthod y cais)