Penderfynwyd –
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yn hyn a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22. Mae’r sefyllfa’n ddibynnol ar dderbyn cymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru i gyllido’r golled ariannol a’r costau ychwanegol sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol o ganlyniad i’r Coronafeirws.
· Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2021/22 yn Atodiadau D a DD yr adroddiad.