Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 15 Tachwedd, 2021.
· Dderbyn y Datganiad Cyfrifon 2020/21 ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adain 151 i arwyddo’r cyfrifon.
· Nodi bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020/21 a chyfeirio’r ddogfen at Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr i’w llofnodi.
· Nodi'r gostyngiad o £188k yn nhanwariant Cronfa'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21 oherwydd diwygiadau a wnaed yn ystod y cyfnod archwilio sy'n effeithio ar Gronfa'r Cyngor. Mae hyn yn lleihau'r tanwariant am y flwyddyn o £4,204k i £4,016k.