Mater - penderfyniadau

Future of the Joint Planning Policy Unit

19/07/2022 - Future of the Joint Planning Policy Unit (Anglesey and Gwynedd)

Penderfynwyd –

 

·         Bod y cytundeb cydweithio cyfredol ar gyfer darparu’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn cael ei ymestyn hyd at 31 Mawrth 2023.

·         Bod y cytundeb cydweithio, ac felly’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd a’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023 a bod cytundeb mewn egwyddor i sefydlu Tîm Polisi Cynllunio newydd ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Ynys Môn.

·         Bod y Gwasanaeth Polisi Cynllunio newydd yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Ynys Môn.

·         Bod trefniadau ar gyfer cefnogi a gwneud penderfyniadau ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd a materion polisi cynllunio perthnasol yn cael eu cyflwyno ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Ynys Môn.

·         Bod hawl yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i gytuno ar drefniadau cydweithio gyda Gwynedd, mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr a’r Aelod Portffolio, er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn parhau i gwrdd â’r gofynion statudol (ac unrhyw waith cysylltiedig) sy’n angenrheidiol ar gyfer monitro’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.