Penderfynwyd –
· Derbyn yr Asesiad a’r rhaglen wella gysylltiedig fel dogfen ddrafft sy’n cydnabod ac yn cyfathrebu sefyllfa bresennol y Cyngor Sir.
· Gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i gyflwyno sylwadau ychwanegol yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf 2022, a
· Gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i gyflwyno’r Asesiad i’r Cyngor Sir ar 13 Medi 2022.
· Bod y Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiadau diweddaru chwarterol ar gynnydd yn erbyn y meysydd gwella a nodwyd.