Mater - penderfyniadau

Council Tax Base 2023/24

29/11/2022 - The Council Tax Base for 2023/24

Penderfynwyd –

 

           Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 - bydd hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru wrth gyfrifo'r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2023/24, sef 31,272.36 (Rhan E6 o Atodiad A i'r adroddiad).

           Cymeradwyo’r cyfrifiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 i bwrpas gosod Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer yr ardal gyfan a rhannau o’r ardal am y flwyddyn 2023/24 (Rhan E5 o Atodiad A o’r adroddiad)

           Bod, yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995 (OS 19956/2561) fel y'i diwygiwyd gan OS1999/2935 a'r Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) a Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiwyd) 2004, a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) (Diwygiwyd) 2016, y symiau a gyfrifir gan Gyngor Sir Ynys Môn fel ei dreth sylfaen ar gyfer y flwyddyn 2023/24 fydd 32,819.56 ac ar gyfer y rhannau o'r ardal fel y'u rhestrir yn y tabl o dan argymhelliad 3 o'r adroddiad.