Penderfynwyd -
· Cymeradwyo newid rhannol dros dro yn y Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer tai mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer yr unigolion sy'n cyflwyno'n ddigartref sydd wedi'u lleoli neu mewn perygl o gael eu gosod mewn llety brys/dros dro.
· Bod dyraniadau a wneir yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer aelwydydd digartref yn cael eu cymeradwyo gan y Rheolwr Tîm Opsiynau Tai gan na fyddai'r gosodiadau hyn yn cadw at y Polisi Gosod Cyffredin.