PENDERFYNWYD cytuno i’r newidiadau Cyfansoddiadol er mwyn:-
· Caniatáu i un neu ragor o aelodau rannu swydd fel arweinydd, dirprwy arweinydd ac fel aelodau portffolio o’r Pwyllgor Gwaith;
· Caniatáu i’r uchafswm o aelodau a ganiateir ar y Pwyllgor Gwaith gael ei ddiwygio i adlewyrchu’r uchafswm statudol pan fydd aelodau o’r Pwyllgor
Gwaith yn rhannu swydd; a
· Nodi’r trefniadau mewn perthynas â chworwm a phleidleisio pan fydd aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd;
(a) yn unol â’r geiriad yn Atodiad 1 yn yr adroddiad,
(b) unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i’r penderfyniad hwn.
Os bydd unrhyw newidiadau i’r trefniadau rhannu swydd a / neu nifer yr unigolion
sy’n derbyn cyflog uwch o ganlyniad i’r trefniadau rhannu swydd, bydd y Cyngor yn
rhoi gwybod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn mynd ati i
roi cyhoeddusrwydd i hynny ar unwaith.