Penderfynwyd –
· Awdurdodi swyddogion i gwblhau’r Achos Busnes Amlinellol drafft.
· Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, i gymeradwyo a chyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i’w gymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
· Cytuno i eithrio’r penderfyniad rhag cael ei alw i mewn (gyda chytundeb Cadeirydd y Cyngor) gan y gallai hynny danseilio’r gwaith o gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i’r naill Lywodraeth.